Toglo gwelededd dewislen symudol

Prydau ysgol gynradd

Mae cinio ysgolion cynradd yn cynnwys pryd o fwyd 2 gwrs wedi'i goginio'n ffres gyda diod a darperir hwn ym mhob ysgol.

Mae'r prydau hyn yn bodloni'r canllawiau maeth sy'n ofynnol gan Blas am Oes Llywodraeth Cymru, a'n nod yw sicrhau bod yn rhain yn ddeniadol ac yn flasus i blant. Ceir bwydlen 3 wythnos sy'n cael ei chylchredeg trwy'r holl ysgolion i bob plentyn yn nhymor yr hydref sy'n amlinellu'r dewisiadau. Gall prydau ysgol chwarae rhan bwysig iawn wrth ddysgu sgiliau cymdeithasol i blant a'u cyflwyno i brofiadau bwyta gwahanol.

Am £2.40 y dydd, rydym yn teimlo bod ein bwydlen yn werth am arian ac yn darparu pryd twym, maethlon sydd wedi'i greu gan ystyried plant. Mae rhoi bwyd ysgol da i blant yn gyfrifoldeb rydym yn ei gymryd o ddifrif.

Wyddech chi?

  • Rydym yn paratoi ein holl brydau bob dydd - nid ydym yn defnyddio gweddillion nac yn aildwymo ein prydau.
  • Mae ein holl brydau'n cydymffurfio â Safonau Maeth Cynulliad Cymru.
  • Cynigir llysiau i bob disgybl, bob dydd.
  • Daw dros 80% o'n llysiau, ein cynhwysion salad a'n ffrwythau o ffynonellau yn y DU.
  • Mae ein holl wyau'n rhai buarth ac o safon BEIC Lion.
  • Mae opsiynau llysieuol a Halal ar gael bob dydd. Gyda chyfeiriad meddyg teulu, gellir darparu bwyd ar gyfer deietau arbennig.

Cymorth i ddysgu

Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod pryd da, iach amser cinio'n gallu gwella sylw ac ymateb disgyblion yn ystod gwersi'r prynhawn.

Deiet cytbwys

Rydym yn credu'n frwd fod pob plentyn yn haeddu deiet iach, cytbwys. Mae pryd o fwyd sy'n cael ei baratoi'n ffres yn yr ysgol yn rhan bwysig o gyflawni hyn.

Arlwywyr profiadol

Rydym yn arlwywyr profiadol sy'n ymfalchïo mewn cynnal gweithlu medrus a gofalgar.

Bwydlen prydau ysgolion 2024

Bwydlen 3 wythnos. Mae pob eitem ar y fwydlen yn amodol ar argaeledd a gall fod yn wahanol i'r hyn a nodir ar y fwydlen a hysbysebir.

Gwybodaeth am alergenau ac anoddefiadau bwyd

Mae 14 o brif alergenau y mae angen eu datgan pan gant eu defnyddio fel cynhwysyddion.
Close Dewis iaith