Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Trefniadau derbyn 2024 / 2025

  1. Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol
  2. Derbyn
  3. Blwyddyn 7
  4. In year transfer
  5. Admissions to Sixth Form - Criteria for Entry

Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal.  Cytunodd yr ALl y byddai ysgolion yn gweinyddu'r ceisiadau meithrin ar ran yr ALl.

Derbyn i ddosbarthiau meithrin

Bydd gofyn i rieni / ofalwyr sydd am gael lle i'w plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le.

Gall rhieni / gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am leoedd os na fydd gwneud hynny'n peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau.

Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle i blentyn mewn dosbarth meithrin. 

Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn gweddill y grwpiau blwyddyn mewn ysgol (Derbyn i Flwyddyn 6).

(a) Meini Prawf Gorymgeisio- dosbarthiadau meithrin mewn Ysgolion Cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

1.      Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*. 

2.      Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

3.      Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

4.      Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 3 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

** Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

*** Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni / gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor / deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(b) Gweithdrefnau Derbyn - lleoedd meithrin mewn Ysgolion Cymunedo

Gall rhieni/gwarchodwyr gyflwyno cais am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.

Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.

Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Tynnu lle yn ôl

Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn.  Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.

Derbyn

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal.

Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin dechrau addysg amser llawn i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr ALl.

Gall rhieni / gofalwyr naill ai wneud cais ar-lein am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am le os na fydd hynny'n:

  • peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau, ac
  • ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, bod yn anghydnaws â'r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt rhwng y Corff Llywodraethu a'r ALl.

Rhoddir y flaenoriaeth i'r rhieni hynny sy'n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol mewn pryd.

(a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol

Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei nifer derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y. dosbarth Derbyn mewn ysgolion cynradd). Ym mlwyddyn y derbyn, gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny.

Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn (ac eithrio'r meithrin).

(b) Meini Prawf Gorymgeisio - Ysgolion Cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

1.           Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.

2.           Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

3.           Plant y mae eu brawd neu eu chwaer yn mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn.*** Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

4.           Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 3 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth*

 

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(c) Gweithdrefnau Derbyn - Ysgolion cymunedol

Gofynnir i rieni/ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.

Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn.

Er bod yr ALl yn caniatáu i ddisgyblion ddechrau'n amser llawn yn y dosbarth Derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y maent yn 5 oed, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn ddechrau ysgol nes dechrau'r tymor sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn 5 oed. Felly, os yw rhiant y plentyn am ohirio mynediad i'r dosbarth Derbyn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n rhaid dyrannu lle i'r plentyn hwnnw, ac ni chynigir y lle hwn i unrhyw blentyn arall. Fodd bynnag, ni ellir gohirio mynediad ar ôl dechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 5 oed, neu ar ôl i'r flwyddyn academaidd wreiddiol y derbyniwyd y cais ynddi.

Caiff ceisiadau am dderbyn plentyn mewn dosbarth Derbyn a gyflwynir ar, neu cyn y dyddiad cau gweinyddol, sef 24 Tachwedd 2023 eu prosesu gyda'i gilydd, a dyrennir y lleoedd yn unol â'r meini prawf gorymgeisio uchod. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel ceisiadau hwyr.

Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. 

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig. Bydd rhieni sydd wedi cyflwyno cais erbyn 24 Tachwedd 2023 yn cael gwybod a ddyrannwyd lle i'w plant erbyn 16 Ebrill 2024.

Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau. ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Ceisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol.  Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr ar gyfer ysgol na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon.

Hawl i apelio

Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu, yn ysgrifenedig, a fu eu cais yn llwyddiannus.  Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig bod ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol.  Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig erbyn 14 Mai 2024 (ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon).Caiff yr apêl ei hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg.

Sylwer: Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 007/2013.

Tynnu lle yn ôl

Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn.  Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.

Blwyddyn 7

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. 

Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr ALl.

Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais ar-lein am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am le os na fydd hynny'n:

  • peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau, ac
  • ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, bod yn anghydnaws â'r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt rhwng y Corff Llywodraethu a'r ALl.

Rhoddir y flaenoriaeth i'r rhieni hynny sy'n cyflwyno cais am le mewn unrhyw ysgol mewn pryd.

(a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol

Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei Nifer Derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y.  blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd) ac ni ddylid derbyn mwy na'r nifer hwn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny.

Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn.

(b) Meini Prawf Gorymgeisio - Ysgolion Cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

1.    Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.

2.    Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**. 

3.    Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**. 

4.    Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**. 

5.    Plant eraill nad yw meini prawf 1 i 4 yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**. 

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf sydd â lle, os yw'r ysgol honno'n fwy na phellter cerdded o 3 milltir o'r cartref.  Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol

Plant a chanddynt anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(c) Gweithdrefnau Derbyn - Ysgolion Cymunedol

Gofynnir i rieni/ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.

Bydd ceisiadau am fynediad i'r grŵp oedran perthnasol (h.y. grŵp oedran y caniateir mynediad i'r ysgol i'r plant fel arfer) a gyflwynir ar y dyddiad cau, sef 24 Tachwedd 2023, neu cyn hynny, yn cael eu prosesu gyda'i gilydd. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel ceisiadau hwyr.

Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig. Bydd rhieni sydd wedi cyflwyno cais erbyn 24 Tachwedd 2023 yn cael gwybod a ddyrannwyd lle i'w plant erbyn 1 Mawrth 2024.

Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Ceisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol.  Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr ar gyfer ysgol na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon.

Tynnu lle yn ôl

Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn.  Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Hawl i Apelio

Caiff rhieni / gofalwyr eu hysbysu, yn ysgrifenedig, a fu eu cais yn llwyddiannus.  Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig bod ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol.  Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig erbyn 28 Mawrth 2024 (ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon).Caiff yr apêl ei hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg. 

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.

Trosglwyddo yn ystod y Flwyddyn Ysgol

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. 

Derbyn i Ysgolion Cymunedol - (Cynradd ac Uwchradd)

Bydd gofyn i rieni / ofalwyr sydd am gael lle mewn ysgol gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau os na fydd gwneud hynny'n:

  • peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau, ac
  • ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, bod yn anghydnaws â'r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt rhwng y Corff Llywodraethu a'r ALl.

(a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol

Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin).           

Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn. Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11.

(b) Meini Prawf Gorymgeisio - Ysgolion Cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

1. Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.

2.    Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

3.    Plant y mae eu brawd neu eu chwaer yn mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn.*** Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

4.    Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**. 

5.   Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 4 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn ysgol y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf â lle, os yw'r ysgol honno'nn fwy na 2 filltir o'r cartref ar gyfer ysgol gynradd neu 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol

Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(c) Gweithdrefnau Derbyn - Ysgolion Cymunedol

Gofynnir i rieni/ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.           

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol.

Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn.

Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. 

Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol hyd yn oes os ydych yn symud i ddalgylch ysgol.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.

Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Hawl i apelio

Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu'n ysgrifenedig a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr drwy lythyr bod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Os byddant yn dewis arfer yr hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig. Caiff yr apêl ei ystyried gan Banel Apêl Annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg.

Sylwer:Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 007/2013

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.

Derbyniadau i'r chweched dosbarth - meini prawf ar gyfer mynediad

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Gall disgyblion wneud cais am le mewn chweched dosbarth yn un o ysgolion Abertawe yn nhymor y gwanwyn ar gyfer y mis Medi canlynol. Pennir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau gan ysgolion unigol.

Cynnig amodol

Cynigir lle amodol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd y lle dros dro hwn yn amodol ar gyflawni cymwysterau mynediad penodol fel a gyhoeddir gan bob ysgol unigol. Am ragor o wybodaeth am gymwysterau mynediad penodol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol.

Canlyniadau TGAU / cyfwerth

Pan cyhoeddir canlyniadau TGAU, h.y. y trydydd dydd Iau ym mis Awst fel arfer, bydd angen i ddisgyblion unigol gysylltu â'r ysgol o'u dewis i gadarnhau eu canlyniadau TGAU neu gyfwerth.

Dewis pynciau

Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth yn derbyn cynnig cadarnhaol o le yn yr ysgol o'u dewis os bydd lleoedd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi efallai na fydd yn bosib astudio pob un o'r pynciau a ddewiswyd yn yr ysgol a ddewiswyd. Efallai y bydd angen i ddisgyblion wneud cysylltiad â chweched dosbarth mewn ysgol arall er mwyn astudio rhai pynciau. 

Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth ond nid ydynt yn gallu astudio'r holl bynciau o'u dewis yn yr ysgol o'u dewis yn cael cynnig dewis arall o'r pynciau sy'n cael eu haddysgu yn y lleoliad hwnnw. Fel arall, gall y disgyblion hynny chwilio am le mewn lleoliad arall, h.y. chweched dosbarth mewn ysgol arall yn Abertawe neu yng Ngholeg Gŵyr.

Ni fydd gofyn i ddisgyblion gael cyfweliad mynediad.

Terfynau mynediad - chweched dosbarth

Gall pob ysgol â chweched dosbarth dderbyn hyd at ei uchafswm derbyn, yn amodol ar fyfyrwyr yn cyflawni'r gofynion mynediad penodol a nodwyd gan yr ysgol (ceir manylion gan ysgolion unigol). Mae'n rhaid rhoi hawl apelio i rieni a disgyblion y mae eu cais am le yn chweched dosbarth yr ysgol yn cael ei wrthod. 

Trefniadau derbyn

Rhoddir y cyfrifoldeb am y trefniadau ar gyfer blynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion cymunedol a gynhelir i'r sefydliadau'n uniongyrchol. Gellir gofyn am fanylion trefniadau derbyn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn uniongyrchol gan y sefydliadau perthnasol a bydd y rhain yn rhan o'u polisïau derbyn.

Rhestr aros

Os bydd gorysgrifio am leoedd mewn chweched dosbarth ac ni all yr ysgol fodloni'r galw am gyrsiau, caiff rhestr aros ei chynnal. Bydd ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf mynediad (gweler uchod) ond y mae eu cais am le wedi cael ei wrthod oherwydd prinder lle yn cael cyfle i roi eu henwau ar restr aros. Os daw lle/lleoedd ar gael, bydd disgyblion y mae eu henwau ar y rhestr aros yn cael cynnig lle yn unol â'r meini prawf gorymgeisio (gweler isod).  

Meini prawf gorymgeisio

I ddisgyblion sy'n cyflawni'r cymwysterau mynediad penodol pan fo mwy o geisiadau wedi cael eu derbyn ar gyfer unrhyw chweched dosbarth na'r lleoedd sydd ar gael, caiff y drefn flaenoriaeth ganlynol ei dilyn:

  1. Disgyblion y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt (PDG) neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
  2. Disgyblion sy'n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**
  3. Disgyblion y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol** sy'n mynd i'r ysgol adeg eu derbyn ***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth **
  4. Disgyblion a aeth i'r ysgol ym Mlwyddyn 11 ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**
  5. Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 4 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.**

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir pob llwybr gan gyfrifiadur gan ystyried y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r disgyblion cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

SYLWER: Efallai y bydd disgyblion a chanddynt Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn trosglwyddo i ddosbarthiadau'r chweched yn ysgolion Abertawe. Gwneir y penderfyniad ar drosglwyddo gan yr awdurdod lleol mewn ymgynghoriad â'r ysgol berthnasol. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei chyhoeddi, ond gellir ei newid, yn seiliedig ar gyngor/ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen

Close Dewis iaith