Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes Castell Ystumllwynarth

Mae Castell Ystumllwynarth yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif ac mae'n llawn hanes.

Oystermouth Castle History

Oystermouth Castle History
Mae Castell Ystumllwynarth sy'n sefyll ar grib calchfaen uchel deugain troedfedd ac yn edrych dros bentref hardd y Mwmbwls, yn lleoliad trawiadol.

Mae'r adeilad cynharaf yn dal i fod yng Nghastell Ystumllwynarth sef y gorthwr yn y bloc canolog, ac mae'n dyddio o ddechrau'r 12fed ganrif.

Fe'i defnyddiwyd fel preswylfa Arglwyddi Mers Gŵyr, ac ymosodwyd arno'n rheolaidd gan y Cymry lleol. Yn y ddeuddegfed ganrif, Iarll Warwig a'i deulu oedd yn berchen arno'n bennaf. Ym 1203, rhoddwyd Arglwyddiaeth Gŵyr i'r teulu de Breos a fu'n teyrnasu tan y 1320au pan gafodd ei drosglwyddo i ddwylo'r teulu de Mowbray drwy Alina de Breos a briododd John de Mowbray.  Collodd y teulu de Mowbrays Gŵyr i'r teulu Beauchamp am beth amser oherwydd penderfyniad cyfreithiol ac ym 1461 fe'i trosglwyddwyd i'r teulu Herbert, y teulu Somerset ac yna i Ddugiaid Beaufort cyn ei drosglwyddo ym 1927 i Gorfforaeth Abertawe. Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol amdano heddiw, gyda Chyfeillion Castell Ystumllwynarth yn gyfrifol am gynnal y castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored.

Hanes Byr

1106 - daeth Henry Beaumont, Iarll Warwig yn Arglwydd cyntaf Gŵyr; pan rannodd yr ardal ymhlith ei ddilynwyr, rhoddwyd maenordy Ystumllwynarth i'r teulu de Londres.

1116 - Goresgynnwyd Gŵyr gan Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr a llosgwyd Castell Ystumllwynarth ganddo.

1136 - Trechwyd Hywel ap Maredudd gan fyddin Normanaidd fawr ar gomin Garngoch

1189 - Ysbeiliwyd Gŵyr gan yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth

1192 - Rhoddodd yr Arglwydd Rhys warchae ar Abertawe am ddeng wythnos

1203 - Rhoddwyd Gŵyr i William de Breos gan y Brenin Ioan.

1215 - Ymosododd Rhys Grug ac Rhys Ieuanc, cynghreiriad Llywelyn ap Iorwerth, ar Abertawe ac yna cipiwyd Ystumllwynarth ganddynt.

1257 - Ysbeiliwyd Gŵyr gan Llywelyn ap Gruffydd

1284 - Cwblhawyd atgyweiriadau ac estyniadau helaeth i'r castell ar gyfer ymweliad Edward 1 ar 10 ac 11 Rhagfyr.

1287 - Ymosododd Rhys ap Maredudd ar Abertawe a'i llosgi, a chipiodd Gastell Ystumllwynarth.

1302 - Ceisiodd William de Langton ddod â chwynion yn erbyn y brenin ac fe'i herwgipiwyd gan John Iweyn, stiward Castell Ystumllwynarth a'i gadw'n garcharor nes iddo dynnu'i honiadau'n ôl.

1302 ac 1314 - Llofnododd William de Breos fond a dau grant yn Ystumllwynarth.

1329 - Dyddiwyd trosglwyddiad gan Alina de Mowbray yn Ystumllwynarth

1334 ac 1350 - Roedd John, mab Alina, yn Ystumllwynarth a rhoddodd grantiau i abatai Nedd a Margam.

1403 - 1405 - Rheolwyd Gŵyr gan Owain Glyndŵr.

1451 - Syr Hugh Johnys oedd cwnstabl Castell Ystumllwynarth

1461 - Daeth Gŵyr i law'r teulu Herbert.

1927 - Trosglwyddwyd  Castell Ystumllwynarth i Gorfforaeth Abertawe gan Ddug Beaufort

1989 - Sefydlwyd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2023