Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes Menywod

8 Hanes Menywod - Womens History

Bella and Elsie Miller in York Court

Dethlir Mis Hanes Menywod bob mis Mawrth bob blwyddyn.  Mae Mis Hanes Menywod yn cynyddu ymwybyddiaeth ac yn grymuso pobl drwy ddarganfod, dogfennu a dathlu bywydau a chyflawniadau menywod.

Dewch i ddarganfod mwy am fywydau eithriadol a hynod ddiddorol rhai o'r menywod lleol o orffennol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Dros y canrifoedd, mae'r menywod hyn wedi llunio sut rydym yn meddwl neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau ac wedi cyfrannu at wneud ein hardal yr hyn yr ydyw heddiw.

Mae'r straeon yn canolbwyntio'n bennaf ar fenywod nad ydynt eisoes wedi cael eu cydnabod neu nad ysgrifennwyd amdanynt ac yn arddangos dogfennau o fewn ein casgliad.

Archwiliwch ein gwedudalennau Hanes Menywod a gadewch i Hanes Menywod eich ysbrydoli.


 

Elsie Elvira Mock

Rhwng 1938 a 1952, croesawodd Mrs Mock o 21 Burrows Road westeion i'w chartref fel landlord theatraidd

Mary Emma Eldridge o Lansawel

Ganwyd Mary Emma Eldridge ar 31 Gorffennaf 1880 i'w rhieni James a Mary Ann.

Bella Miller o Abertawe

Weithiau rydyn ni'n dod o hyd i lun sy'n adrodd stori'n glir, a dyma un ohonyn nhw.

Gweithwyr benywaidd yn Fferm y Gnoll

Mae Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd yn dal cyfrol o gyfrifon Fferm y Gnoll sy'n rhestru datganiadau wythnosol o ddiwrnodau gweithwyr, gan roi enwau, y diwrnodau a weithiwyd, y math o waith, y gyfradd ddyddiol a chyfanswm y cyflog wythnosol

Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain

Roedd y flwyddyn 2018 yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu mudiad y bleidlais i fenywod, ond pan roedd y teulu Pankhurst yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod, roedd eraill yn gweithio i gael cyfleoedd addysgol cyfartal.

Ysgol Feithrin Nelson Terrace

Adeiladodd ac agorodd Abertawe ei Hysgol Feithrin Awyr Agored gyntaf yn Nelson Terrace ym 1936.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Gorffenaf 2024