Ein cynllun i roi Hawliau Dynol wrth wraidd ein penderfyniadau
Ym mis Rhagfyr 2022, datganwyd Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru gan Gyngor Abertawe a'n Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Ein gweledigaeth yw croesawu cymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel wedi'u hadeiladu ar sylfeini hawliau dynol cyffredin. Mae Cyngor Abertawe'n gwneud hyn drwy fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae ein hymrwymiadau o fewn ymagwedd sy'n seiliedig ar Hawliau Dynol wedi'u hamlinellu isod.
Cyfranogiad
Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod trefniadau o safon ar waith i sicrhau y gwrandewir ar bobl, a'u bod yn cael cyfle i fynegi barn ynghylch penderfyniadau a wneir sy'n effeithio arnynt.
Byddwn yn
- Darparu cyfle i bobl fynegi barn ar strategaethau pan gânt eu creu neu eu hadnewyddu
- Dysgu gan sefydliadau eraill sut maen nhw'n ymgymryd â hyn, a rhannu'n profiad â nhw.
- Creu Strategaeth Cydgynhyrchu ac uwchsgilio staff y cyngor fel eu bod yn deall y strategaeth cydgynhyrchu ac yn ei defnyddio'n llwyddiannus.
Grymuso
Mae hyn yn golygu hyrwyddo hawliau i bobl, fel eu bod yn teimlo y gallant eu harfer.
Byddwn yn
- Darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl er mwyn iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
- Parhau i ddarparu gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr am eu Hawliau Dynol, a pham maent yn bwysig yn eu bywydau beunyddiol.
Sicrhau bod gweithdrefn cwynion ac adborth hygyrch a hawdd ei defnyddio, fel bod pobl yn gwybod ein bod yn gwrando arnynt ac yn gweithredu ar eu syniadau.
Gwreiddio
Mae hyn yn golygu rhoi systemau ar waith er mwyn nodi a dangos tystiolaeth o sut rydym yn rhoi ystyriaeth i effaith penderfyniadau ar Hawliau Dynol. Sicrhau bod swyddogion yn deall y Ddeddf Hawliau Dynol a'i chytundebau perthnasol, a sut mae eu gwaith yn effeithio ar Hawliau Dynol
Byddwn yn
- Sicrhau bod gan arweinwyr a staff yr wybodaeth ddiweddaraf am Hawliau Dynol, ac yn eu helpu i ddeall sut gall hyn fod o fudd i waith ein sefydliad.
- Defnyddio'n hadnoddau i ddarparu hyfforddiant ar Hawliau Dynol.
- Adolygu prosesau mewnol presennol mewn perthynas â chreu polisi, a sicrhau bod cysylltiadau amlwg â Hawliau Dynol.
- Sicrhau bod adnoddau i gefnogi a hyrwyddo Hawliau Dynol.
Atebolrwydd
Mae hyn yn golygu rhoi systemau ar waith i adrodd ar yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod hawliau'n realiti i breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe.
Byddwn yn
- Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch sy'n dangos sut rydym wedi gweithio tuag at wneud Hawliau Dynol yn realiti yn Abertawe.
- Darparu diweddariad am gynnydd bob deufis i Fwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol Cyngor Abertawe a Grŵp Llywio Dinas Hawliau Dynol Abertawe.
- Darparu gwybodaeth hygyrch ynghylch sut i ddarparu adborth am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda neu'r hyn y gellir ei wella.
Peidio â gwahaniaethu
Mae hyn yn golygu gwneud ymdrech benodol i sicrhau bod gan bobl sy'n fwy annhebygol o ddefnyddio'u hawliau gyfle cyfartal i wneud hynny.
Byddwn yn
- Sicrhau bod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf Cydraddoldeb a'r Ddeddf Hawliau Dynol, a'u bod yn derbyn hyfforddiant rheolaidd i wella'u hymwybyddiaeth o anghenion pobl wahanol.
- Defnyddio Asesiad Effaith Integredig i ystyried sut gallai penderfyniadau unigol effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl.
- Defnyddio'r wybodaeth sydd gennym am anghenion pobl yn Abertawe i ystyried p'un a yw ein gwasanaethau yn cyrraedd pob grŵp, yn benodol y rheini a chanddynt nodweddion gwarchodedig.
- Cynnal statws Dinas Noddfa
Fel Dinas Hawliau Dynol mae gennym 5 blaenoriaeth a ddewiswyd gan breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe. Gweler isod i ddarganfod peth ydynt a beth rydym yn ei wneud fel cyngor i fynd i'r afael â nhw.
1. Trechu Tlodi
2. Plant a theuluoedd diamddiffyn