Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd o helpu natur

Lluniwyd y dudalen hon i amlygu rhai o'r pethau syml y gall pob un ohonom ni eu gwneud i helpu i adfer natur.

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur, ond gallwn newid hyn drwy adfer natur, a fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae gan y cyngor ddyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i wella bioamrywiaeth yn ogystal â'i chynnal fel rhan o'i swyddogaeth, a hyrwyddo cadernid ecosystemau. Gan ystyried hyn, datganodd y cyngor Argyfwng Natur ym mis Tachwedd 2021.  

Mae adferiad natur yr un mor bwysig â newid yn yr hinsawdd - mae natur yn cyfrannu cymaint i'n byd, fel storio carbon, darparu dŵr ac aer glân, pridd iach a meddyginiaethau, lleihau llifogydd, peillio'r bwyd rydym yn ei fwyta a hybu'n iechyd meddwl.

Mae'r cyngor eisoes yn gwneud llawer i helpu bywyd gwyllt, fel plannu coed, cynyddu nifer y blodau gwyllt sy'n tyfu yn ein parciau ac ar ymylon ffyrdd, gwneud ein dinas yn wyrddach, gweithio gydag ysgolion, gosod blychau adar a gofalu am ein gwarchodfeydd natur a safleoedd bywyd gwyllt. Mae'r cyflwyniad byr hwn wedi'i gynllunio i dynnu sylw at rai o'r pethau syml y gallwn i gyd eu gwneud i helpu adferiad natur.

Camau adferiad natur syml ar gyfer pob aelwyd

Bwydo'r adar 

Darparwch amrywiaeth o borthwyr a hadau i'ch adar lleol eu bwyta. Glanhewch eich porthwyr yn rheolaidd i helpu i atal clefyd adar.

Lawnt blodau gwyllt  

Gallwch newid eich lawnt yn ddôl blodau gwyllt hardd ar gyfer bywyd gwyllt yn ddigon hawdd a rhad. Gadewch i'r glaswellt dyfu, yn ddelfrydol rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, neu fis Mai, ac arhoswch i weld pa flodau brodorol sy'n tyfu. Mae bob amser angen i chi dorri a chael gwared ar doriadau gwair ar ddiwedd yr haf neu yn yr hydref, fel rydyn ni'n ei wneud yn rhai o'n parciau yn Abertawe.

Os taw ychydig flodau'n unig sy'n tyfu, gallwch brynu hadau blodau brodorol lleol neu blygiau i roi hwb i'ch lawnt. Os nad oes gennych lawer o le, ystyriwch roi to gwyrdd ar ben lloches biniau neu sied. Neu hyd yn oed wal werdd neu flwch ffenestr. Galwch heibio Canolfan yr Amgylcheddar Pier Street.

 Y goeden iawn yn y lle iawn  

Ydych chi wedi ystyried plannu coeden neu berth brodorol yn eich gardd? Mae coed mor bwysig, mae'n werth dod o hyd i rywogaeth frodorol sy'n dda i fywyd gwyllt ac yn addas i'ch gardd. Gall coed ffrwythau ddarparu ffynhonnell fwyd ychwanegol i fywyd gwyllt a chi!  

Oes angen i chi docio neu reoli coeden yn eich gardd? Ewch i gael cyngor gan ymgynghorydd coedyddiaeth.

Pwll dŵr bywyd gwyllt  

Oes gennych le ar gyfer pwll dŵr bywyd gwyllt neu wlypdir bach? Gallwch hyd yn oed ddefnyddio powlen golchi llestri fel nodwedd gwlypdir bywyd gwyllt. Byddwch yn ofalus wrth symud planhigion pwll dŵr o erddi eraill gan fod rhai rhywogaethau cas a all difetha'ch pwll dŵr. Ewch i Freshwater Habitats Trust-create a pond. 

Creu banciau bywyd gwyllt a pheidio â bod mor daclus  Defnyddiwch foncyffion, rwbel, malurion a phridd i greu man diogel ar gyfer llawer o rywogaethau - gorau po fwyaf!
 

Blychau adar ac ystlumod 

Mae unrhyw fath o flwch adar yn nodwedd ddefnyddiol i'w gosod yn eich gardd, ond mae angen helpu'r gwenoliaid duon yn bennaf. Mae angen blwch arbennig arnyn nhw, sydd o leiaf 5 metr oddi ar y llawr, yn ddelfrydol wedi'i osod ar ochr adeilad sy'n wynebu'r gogledd, sy'n rhydd o rwystrau a choed y gallant ddisgyn iddynt. Chwiliwch am 'Saving Swansea's Swifts'.

Wyddech chi y gall un Corystlum fwyta hyd at 3,000 o wybed mewn un noson? Dewiswch sawl gwahanol fath o blanhigyn i annog pryfed, gan gynnwys gwyfynod (bwyd i ystlumod!). Ystyriwch greu blwch ystlumod - chwiliwch am 'gardening for UK bats'.

Helpwch eich draenogod  

Mae draenogod yn prinhau, ond gallwch chi helpu! O dwll i ddraenogod yn eich ffens fel y gallant symud yn hawdd, i bentwr mawr o ddail er mwyn iddynt allu cuddio - chwiliwch am  'hedgehog street'.
Garddio sy'n ystyriol o fywyd gwyllt / tyfu llysiau  Osgowch ddefnyddio plaladdwyr, chwynladdwyr a gwrteithiau artiffisial. Defnyddiwch gompost nad yw'n cynnwys mawn neu rhowch gynnig ar greu eich compost eich hun. Plannwch amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a rhywogaethau llwyn sy'n blodeuo ar adegau gwahanol o'r flwyddyn ac sy'n darparu mwyar a ffrwythau. Gall bywyd gwyllt eich helpu chi yn yr ardd - mae llyffantod yn dwlu ar fwyta gwlithod a phryfed gleision. Defnyddiwch bethau eraill yn lle pelenni lladd gwlithod, fel gwaddolion coffi a phlisg wyau.
 Anifeiliaid anwes Gall anifeiliaid anwes gael effaith ar fywyd gwyllt lleol. Chwiliwch am 'how to be an eco-friendly pet owner'

Mwynhau natur a helpu'ch cymuned leol 

Gallwch gadw'n heini a gwella'ch iechyd meddwl drwy helpu mewn safleoedd cadwraeth natur lleol - ystyriwch ymuno â'r Ymddiriedolaeth Natur neu wirfoddoli yn un o'r grwpiau bywyd gwyllt gwirfoddol bach yn Abertawe, fel Prosiect CymunedolDyffryn Clun Gwirfoddolwyr Coetir Cymunedol Cilfái, Chwarel Rosehill neu'r grwpiau 'Cyfeillion' niferus sydd ar gael ar gyfer parciau Abertawe. Cysylltwch â Chydlynydd y Tîm Cadwraeth Natur am ragor o fanylion.

Cofnodwch eich lluniau 

Gallwch anfon lluniau o unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld fel cofnod i helpu gyda'r argyfwng natur - lawrlwythwych yr ap LERC Wales i gyflwyno cofnod. Os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r hyn rydych wedi'i weld, lawrlwythwch yr ap SeekganiNaturalist, sy'n defnyddio camera eich ffôn i adnabod a chyflwyno'r hyn rydych wedi'i weld ar eich rhan. 
Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd  Bydd popeth rydych chi'n ei wneud i helpu gyda'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn lleihau'r effaith ar fioamrywiaeth ac yn helpu gyda'r adferiad natur, felly diolch!  

Rhagor o wybodaeth a chyngor: Nature.Conservation@swansea.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024