Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025 gan gynnwys dynodi ardaloedd ar gyfer trwyddedu ychwanegol

Atodiad B - Ffordd o Ddianc - Rhagofalon Tân Diogelwch Tân Tai - Canllaw Cyflym (Cymru)

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

(Wedi'i baratoi ar y cyd â Phanel Technegol Tai Cymru Gyfan)

Mae'r Canllaw Cyflym hwn yn rhoi crynodeb o'r mesurau diogelwch tân a amlinellir yn "Housing - Fire Safety: Guidance on fire safety provisions for certain types of existing housing" a gyhoeddwyd gan LACORS ym mis Awst 2008.

Mae'r canllaw yn darparu crynodeb byr i swyddogion gorfodi a landlordiaid o'r mesurau diogelwch tân priodol y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer nifer o fathau o eiddo, ac yn ceisio cysondeb o ran rhoi mesurau diogelwch tân ar waith. Fodd bynnag, dylai swyddogion a landlordiaid ymgyfarwyddo â darpariaethau'r arweiniad cenedlaethol, sydd ar gael yn www.lacors.gov.uk.

Cyflwynodd Deddf Tai 2004 System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, sy'n ddull y gellir ei ddefnyddio i asesu cyflwr tai. Mae'n defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar risg a'i nod yw darparu system sy'n dileu risgiau o beryglon i iechyd a diogelwch mewn anheddau neu'n eu lleihau. Rhaid i rai tai hefyd gyflawni safon dderbyniol o ddiogelwch tân o dan ddarpariaethau trwyddedu HMO. Gorfodir y darpariaethau hyn gan gynghorau lleol.

Mewn rhai eiddo, rhaid i landlordiaid gynnal asesiad risg tân o dan ddarpariaethau Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Gorfodir y darpariaethau hyn gan awdurdodau tân ac achub.

Mae arweiniad cenedlaethol LACORS yn argymell y dylid rhoi atebion i ddiogelwch tân sy'n seiliedig ar risg ar waith ar gyfer pob eiddo unigol; felly, ni ddylid ystyried y ddogfen hon yn rhagnodol.

Sylwer bod y testunau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn arweiniad yn unig. Gellir cynnal mesurau diogelwch tân eraill er mwyn cyflawni lefel gyfwerth o ddiogelwch tân. Fodd bynnag, os dilynir argymhellion y Canllaw Cyflym hwn, dylai fod yn bosib cyflawni lefel dderbyniol o ddiogelwch tân mewn eiddo o risg arferol. Efallai bydd angen mesurau ychwanegol mewn eiddo o risg uwch.

Sut i ddefnyddio'r Canllaw Cyflym hwn

Cyflwyniad

  • Mae'r wybodaeth a roddir yn y canllaw hwn o ran darparu ffordd ddiogel o ddianc os oes tân yn cyfeirio at y lefel 'ddelfrydol' o fesurau diogelwch tân sy'n ofynnol ar gyfer pob math o eiddo. Yn gyffredinol, bydd 'delfrydol' yn golygu llwybr dianc diogel 30 munud ar gyfer pob HMO.
  • Gall fod yn bosib i 'lacio'r' safonau delfrydol hyn mewn amgylchiadau penodol, e.e. lle ystyrir eiddo yn risg isel ar ôl cwblhau asesiad risg System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).
  • Sylwer bod enghreifftiau DI, D2, etc, yn y tablau yn y canllaw'n cyfeirio at yr enghreifftiau ym mhrif arweiniad LACORS.

Er mwyn defnyddio'r canllaw, rhaid i chi wybod y canlynol:

  1. Nifer y lloriau yn yr eiddo
  2. Y math o feddiannaeth.
  3. Lefel risg yr eiddo hwnnw.

Yna gellir defnyddio'r tabl priodol yn y canllaw i ddarparu rhestr o'r math o waith sy'n ofynnol ar gyfer math penodol o eiddo.

1. Nifer y lloriau

  • Llawr gwaelod + llawr cyntaf = 2 lawr
  • Llawr gwaelod + llawr cyntaf + ail lawr = 3 llawr, etc.

DS: Ystyrir tŷ 2 lawr gydag islawr neu atig y gellir byw ynddo/ynddi fel eiddo 3 llawr (4 llawr, os yw'r ddau'n bresennol).

2. Deiliadaeth

Mae 3 phrif math (gweler y diffiniadau llawn ar dudalen 3 gyferbyn).

  • HMO a rennir
  • HMO 'tebyg' i fflat un ystafell
  • HMO fflat un ystafell draddodiadol

DS: Mae tai amlfeddiannaeth a rennir a thai amlfeddiannaeth tebyg i fflat un ystafell yn debyg iawn, gyda mân wahaniaethau o ran math o denantiaeth, drysau y gellir eu cloi, grŵp sengl neu grwpiau unigol/llai.

3. Risg

Asesir hyn gan y swyddog archwilio. 3 math cyffredinol:

  • Risg isel
  • Risg arferol
  • Risg uchel

DS: Mae'r canllaw hwn yn nodi manylion ar gyfer tai amlfeddiannaeth o risg 'arferol'. Bydd y rhan fwyaf o dai amlfeddiannaeth yn y categori hwn. (Rhaid i eiddo risg isel feddu ar yr holl nodweddion a restrir yng ngwaelod tabl Enghraifft D4 ar dudalen 4).

Crynodeb

Pan gaiff y 3 maen prawf eu sefydlu, defnyddiwch adran gywir y canllaw i gael syniad o'r gwaith angenrheidiol.

DS: Fe'ch argymhellir yn gryf i aros am arolygiad HHSRS gan swyddog o'r adran hon cyn ymgymryd â gwaith.

Sylwer - at ddibenion y canllaw hwn, bydd y diffiniadau canlynol yn berthnasol

Deiliadaeth aelwyd sengl - tŷ lle mae un person, pâr di-briod neu deulu yn byw, a lle nad yw'r eiddo yn dŷ amlfeddiannaeth.

Tŷ Amlfeddiannaeth a Rennir - Tŷ Amlfeddiannaeth lle rhentir yr holl eiddo gan grŵp y gellir ei adnabod fel myfyrwyr, cydweithwyr neu ffrindiau, fel cyd-denantiaid. Fel arfer, bydd gan bob preswylydd ei ystafell wely ei hun, ond bydd yn rhannu cegin, cyfleusterau bwyta, ystafell ymolchi, toiled, ystafell fyw a holl rannau eraill y tŷ. Bydd un cytundeb tenantiaeth. Bydd gan y grŵp yr un nodweddion ag aelwyd un teulu, ond bydd yn HMO, yn dechnegol, gan nad yw'r preswylwyr yn perthyn i'w gilydd.

HMO tebyg i fflat un ystafell (gyda chyfleusterau coginio a rennir) - adeilad sydd wedi'i rannu'n unedau gosod neu ystafelloedd gwely (un ystafell yn unig fel arfer) ar wahân a'i osod i unigolion nad oes cysylltiad rhyngddynt neu sawl grŵp bach. Fel arfer, rhennir ceginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau.

HMO fflat draddodiadol un ystafell (gyda chyfleusterau coginio unigol) - adeilad sydd wedi'i rannu'n unedau gosod neu ystafelloedd gwely (un ystafell yn unig fel arfer) ar wahân a'i osod i unigolion nad oes cysylltiad rhyngddynt. Gall pob uned neu ystafell wely gynnwys cyfleusterau coginio ond rhennir ystafelloedd ymolchi a thoiledau.

Deiliadaeth aelwyd sengl 2 lawr (enghraifft D1)

  • Nid yw llwybr diogel yn ofyniad, ond dylai adeiladwaith y llwybr dianc fod yn gadarn ac yn gonfensiynol, ac ni ddylai fynd trwy ystafelloedd risg.
  • Lle bo'r ffordd o ddianc yn mynd trwy ystafell risg, gellir ystyried defnyddio ffenestri dianc i ystafelloedd y gellir byw ynddynt.
  • Lle mae safonau adeiladu'n wael, mae pellteroedd teithio'n hir, neu mae ffactorau risg uchel eraill yn bresennol, efallai y bydd angen llwybr diogel 30 munud.
  • Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
  • Blanced dân yn y gegin. 
  • System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc yn ogystal â'r seler/islawr).

Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.

Deiliadaeth aelwyd sengl 3/4 llawr (enghraifft D2)

  • Nid yw llwybr diogel yn ofyniad, ond dylai adeiladwaith y llwybr dianc fod yn gadarn ac yn gonfensiynol, ac ni ddylai fynd trwy ystafelloedd risg.
  • Lle mae safonau adeiladu'n wael, mae pellteroedd teithio'n hir, neu mae ffactorau risg uchel eraill yn bresennol, efallai y bydd angen llwybr diogel 30 munud.
  • Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
  • Blanced dân yn y gegin.
  • System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc yn ogystal â'r seler/islawr).

Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.

HMO 2 lawr a rennir (enghraifft D4)

1. Safon ddelfrydol (ar gyfer eiddo risg arferol)

(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30 (dim seliau mwg)
(b) Dylai waliau/nenfydau rhwng unedau llety fod o adeiladwaith cadarn, traddodiadol.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
2 Lawr + islawr/atig y gellir byw ynddo/ynddi - dylid trin yr eiddo fel tŷ 3 llawr a rennir.
(d) Argymhellir cael diffoddiadur 6 litr neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg AFFF amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc.
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc, yn ogystal â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres sy'n cysylltu â'r gegin.

NEU

2. Mewn tai risg isel a rennir (gweler isod)

  • Drysau cadarn, tynn A/NEU ffenestri dianc i ystafelloedd sy'n arwain at lwybr dianc. Dylai waliau/nenfydau ar y llwybr dianc fod o adeiladwaith cadarn, traddodiadol.
  • Drws tân ychwanegol (FD30) ar y drws olaf rhwng y gegin a'r llwybr dianc.
  • Manylion fel yn (b) ac (f) uchod.

DS. Mae gan eiddo risg 'isel' y nodweddion canlynol:

  • Lefel isel o ddeiliadaeth - i gyd yn abl yn gorfforol;
  • Tân yn annhebygol o ddigwydd a deunyddiau llosgadwy/ fflamadwy'n brin;
  • Tân yn annhebygol o ymledu drwy'r eiddo. Canfod cyflym er mwyn caniatáu i breswylwyr ddianc
  • Mwy nag un ffordd o ddianc sy'n dderbyniol.

Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.

HMO 2 lawr tebyg i fflat un ystafell (gyda chyfleusterau coginio a rennir) (enghraifft D7)

Tai 'tebyg i fflatiau un ystafell' - ystafelloedd unigol gyda chyfleusterau coginio a rennir (e.e. lle na ddefnyddir eiddo gan un grŵp, mae contractau unigol, cloeon ar ddrysau, etc).

(a) Naill ai - llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S neu - mewn eiddo risg isel, drysau tynn, cadarn a ffenestri dianc.
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) Larwm LD2 Gradd 2 - larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres ym mhob cegin a rennir YNGHYD Â larymau Gradd D cysylltiedig ym mhob ystafell wely.

GALL Gorchymyn Diogelwch Tân fod yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

Fflat un ystafell draddodiadol 2 lawr (cyfleusterau coginio mewn ystafelloedd gwely) (enghraifft D7)

Fflatiau un ystafell traddodiadol - y rhai gyda chyfleusterau coginio ym mhob ystafell wely/uned lety.

(a) Naill ai - llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S.
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) (d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm gymysg. Gradd D, system LD2 gyda larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc a'r islawr/seler gyda larymau gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell YNGHYD Â larwm mwg gyda gwifrau at y prif gyflenwad nad yw'n cysylltu â phob fflat un ystafell.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

HMO 3/4 llawr a rennir (enghraifft D5)

Safon ddelfrydol (ar gyfer eiddo risg arferol)

(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30 (dim seliau mwg)
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws).
(d) Argymhellir cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc.
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System Larwm D LD3 (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres i'r gegin.
(g) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.

Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.

Fflat un ystafell draddodiadol 3 llawr (cyfleusterau coginio mewn ystafelloedd gwely) (example D8)

(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a synhwyrydd gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell gyda chyfleusterau coginio. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely.
(g) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt yn gysylltiedig ym MHOB fflat un ystafell.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

Fflat un ystafell draddodiadol 3 llawr (enghraifft D8)

(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a synhwyrydd gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell gyda chyfleusterau coginio. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely
YNGHYD Â
(g) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt yn gysylltiedig ym MHOB fflat un ystafell.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

Tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol - 2 lawr (enghraifft D10)

(a) Llwybr dianc cyffredin diogel gyda drysau tân FD30S (gyda seliau mwg), sef drysau mynediad i fflatiau
(b) O fewn fflatiau unigol - drysau cadarn, tynn sydd wedi'u hadeiladu'n dda.
(c) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng pob fflat.
(d) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
 (e) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc cyffredin (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(f) Blanced dân yn y gegin.
(g) System larwm LD2 Gradd D - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc cyffredin ynghyd â synhwyrydd gwers yng nghyntedd pob fflat
YNGHYD Â
(h) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt gysylltiedig yng nghyntedd pob fflat.
(i) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

Tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol - 3/4 llawr (enghraifft D11)

(a) Llwybr dianc cyffredin diogel gyda drysau tân FD30S (gyda seliau mwg), sef drysau mynediad i fflatiau
(b) O fewn fflatiau unigol - drysau cadarn, tynn sydd wedi'u hadeiladu'n dda.
(c) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng pob fflat.
(d) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(e) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc cyffredin (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(f) Blanced dân yn y gegin.
(g) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc cyffredin ynghyd â synhwyrydd gwers yng nghyntedd pob fflat. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely
YNGHYD Â
(h) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt gysylltiedig yng nghyntedd pob fflat.
(i) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.

Nodyn ar ddiffoddiaduron tân a systemau larwm

Mewn tai a rennir, argymhellir cael diffoddiadur tân amlbwrpas (1.5kg powdr sych neu AFFF 6 litr) ar bob llawr y llwybr dianc.

Ym mhob tŷ amlfeddiannaeth lle bo'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol, gan gynnwys tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol a fflatiau un ystafell, mae diffoddiaduron amlbwrpas (fel uchod) yn ofynnol oni bai bod y landlord yn gallu dangos drwy asesiad risg y gellir sicrhau lefel dderbyniol o ddiogelwch heb ddarparu diffoddiaduron.

LD3 - System sy'n cynnwys synwyryddion mewn mannau cerdded (e.e. cynteddau) sy'n ffurfio rhan o'r llwybr dianc o'r annedd yn unig.

LD2 - System sy'n cynnwys synwyryddion mewn mannau cerdded sy'n ffurfio rhan o'r llwybr dianc, ac ym mhob ystafell lle bo risg uchel o dân i breswylwyr.

Gradd D - System o un larwm mwg/gwres, neu fwy, a gaiff ei bweru gan y prif gyflenwad, gyda chyflenwad batri wrth gefn. Nid oes panel rheoli.

Gradd A - System o synwyryddion mwg/gwres a gaiff eu pweru gan y prif gyflenwad, sy'n cysylltu â phanel rheoli er mwyn rhoi gwybodaeth am leoliad y tân neu unrhyw nam.  Yn gyffredinol, rhaid i'r system gynnwys pwyntiau galw gyda llaw, a dylent fod ar bob llawr ac mewn mannau gadael terfynol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu