Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025 gan gynnwys dynodi ardaloedd ar gyfer trwyddedu ychwanegol
Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r polisi hwn yn disodli Polisi Trwyddedu HMO 2020 ac yn amlinellu'r ffordd y mae Cyngor Abertawe'n rhoi gofynion Deddf Tai 2004 ar waith o ran trwyddedu HMO a pheryglon iechyd a diogelwch. Mae ef hefyd yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu parhau i ddefnyddio pwerau disgresiwn y Ddeddf i sicrhau y caiff ei orfodi'n deg ac yn gyfiawn.
1.2 Amcangyfrifir bod cyfanswm o 2,200 o dai amlfeddiannaeth yn Abertawe. Rhaid i bob HMO â thri llawr neu fwy ac sydd wedi'i feddiannu gan bum meddiannydd neu fwy gael ei drwyddedu. Mae hyn yn ofyniad statudol a adweinir fel trwyddedu gorfodol. Rhaid i bob HMO sy'n bodloni'r disgrifiad hwn ym mhob rhan o Abertawe gael ei drwyddedu.
1.3 Mae pwerau disgresiynol ar gael i'r Cyngor i fynnu bod HMOau eraill nad ydynt yn destun trwyddedu gorfodol ac sy'n aml yn llai, yn cael eu trwyddedu. Mae adran 6 yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn. O gyfanswm amcangyfrifedig yr HMOau yn Abertawe, amcangyfrifir bod 1,850 yn adrannau etholiadol y Castell ac Uplands. Mae cynlluniau trwyddedu HMOau ychwanegol wedi bod mewn grym yn y ddwy ardal yma ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn 2006, gan ymgorffori HMOau llai gyda llai na thri llawr a'r rheini â thri meddiannydd neu fwy, gan gynnwys rhai fflatiau hunangynhwysol wedi'u haddasu. Yn 2020 ehangwyd y cynllun trwyddedu gwreiddiol i gynnwys St Thomas ac yn dilyn hynny, yn 2021, ward y Glannau a oedd newydd ei ffurfio.
1.4 Mae hyn yn golygu bod pob HMO yn adrannau etholiadol y Castell, Uplands a'r Glannau wedi bod yn destun trwyddedu, ac eithrio ambell eiddo a eithrir yn benodol o dan ddarpariaethau Deddf Tai 2004, e.e. y rhai a berchnogir ac a reolir gan brifysgol.
1.5 Mae cynlluniau trwyddedu HMOau ychwanegol yn para pum mlynedd ar y mwyaf.
1.6 Mae union nifer y tai amlfeddiannaeth yn Abertawe'n amrywio dros amser wrth i nifer y preswylwyr mewn eiddo newid. Mae'r manylion isod yn rhoi syniad o nifer a dosbarthiad daearyddol tai amlfeddiannaeth ar draws y ddinas, ynghylch HMOau trwyddedig.
Trwyddedwyd 1,848 o dai amlfeddiannaeth dan y cynlluniau gorfodol ac ychwanegol yn Abertawe ar 23 Awst 2024. Roedd y rhain yn y wardiau canlynol:
Y Castell | 510 |
Glandŵr | 3 |
Ystumllwynarth | 1 |
St Thomas | 112 |
Sgeti | 14 |
Townhill | 1 |
Uplands | 1,181 |
Y Glannau | 26 |
1.7 Mae materion cydlyniant cymunedol a chynaliadwyedd yn gysylltiedig â chrynodiadau uchel o HMOau yn Wardiau'r Castell ac Uplands. Mae gan y ddwy ward gyfrannau uchel a chynyddol o aelwydydd un person a sawl oedolyn. Mewn cyferbyniad, mae aelwydydd teuluol traddodiadol yn dirywio yn yr ardaloedd hyn.
1.8 Ochr yn ochr â phryderon cyffredinol am yr effaith y gall HMOau ei chael ar gymunedau penodol, yn enwedig ynghylch problemau gwastraff ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae aelodau ward a meddianwyr wedi codi pryderon am y cynnydd posib yn niferoedd y tai amlfeddiannaeth yn St Thomas. Mae hyn wedi bod yn bennaf ers datblygiad Campws y Bae Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2015 a'r datblygiad dilynol gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1. Mae pryderon yn ymwneud yn bennaf â'r posibilrwydd y bydd y gymuned yn chwalu a'r effaith arni yn y tymor hir, gyda niferoedd uwch o denantiaid HMO dros dro.
1.9 Mae tai amlfeddiannaeth yn destun cwynion mynych am gyflwr tai, sbwriel a'u heffaith ar gymdogion. Crynhoir cwynion yn y Castell ac Uplands, gan adlewyrchu nifer uchel y tai amlfeddiannaeth yn yr ardal. Mae gorfodi amodau trwyddedau'n ffactor arwyddocaol wrth sicrhau gwelliannau o ran cyflwr a rheoli HMO.
1.10 Mae'r Tîm HMO yn gyfrifol am archwilio tai amlfeddiannaeth a phrosesu ceisiadau newydd, ymweliadau cynnydd a rheoli, ceisiadau am wasanaeth adweithiol, cyngor a gorfodi, gan gynnwys erlyniadau. Ers i Bolisi Trwyddedu HMO 2011 gael ei gyflwyno, mae'r Cyngor wedi erlyn 46 o achosion a rhoi 47 o rybuddion syml. Mae'r Pwyllgor Trwyddedu wedi canfod nad oedd chwe landlord yn addas a phriodol, mae wedi diddymu 13 trwydded a gwrthod 10 cais. Apeliodd un landlord yn llwyddiannus i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor, ac adferwyd ei drwydded gyfredol, a chaniatawyd dau gais.
1.11 Mae llawer yn pryderu bod nifer ac amlder y tai amlfeddiannaeth mewn ardaloedd penodol yn cael effaith negyddol ar gynaliadwyedd cymunedau. Mae'r polisi hwn, sy'n seiliedig ar roi swyddogaethau ar waith o dan ran 2, Deddf Tai 2004, yn ymdrin â thrwyddedu, cyflwr a rheoli tai amlfeddiannaeth. Ni all fynd i'r afael â phroblemau dwysedd uchel o HMO sydd bellach yn fater cynllunio ac yr ymdrinnir ag ef bellach drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) newydd.
1.12 Adolygir y polisi hwn cyn i'r cynllun trwyddedu HMO ychwanegol ar gyfer wardiau'r Castell ac Uplands ddod i ben.
2. Nodau ac Amcanion
2.1 Nod y polisi yw gwella safonau tai a rheoli yn y sector rhentu preifat, a thai amlfeddiannaeth yn benodol.
2.2 Amcanion y polisi yw:
- Bodloni rhwymedigaethau statudol Deddf Tai 2004 a'r rheoliadau a wneir yn unol â hi
- Dileu cyflwr eiddo a safonau rheoli gwael drwy reoleiddio a gorfodi
- Hyrwyddo safonau uchel ar draws y sector HMO.
3. Gwybodaeth am Boblogaeth ac Aelwydydd Abertawe
3.1 Yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf o boblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 246,700 (amcangyfrifon canol blwyddyn 2023, Swyddfa Ystadegau Gwladol - SYG). Mae gan Abertawe'r ail boblogaeth uchaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy'n cynrychioli bron 8% o boblogaeth Cymru gyfan (3,164,400).
3.2 Yr amcangyfrifon aelwydydd canol blwyddyn swyddogol diweddaraf yw'r rhai ar gyfer canol 2023 (fel y'u cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2024). Mae'r amcangyfrifon hyn yn awgrymu bod tua 105,000 o aelwydydd yn Abertawe yn 2023.
3.3 Mae maint cyfartalog aelwyd yn darparu 'prif' fesur syml o gyfansoddiad aelwyd a chyfrifir hyn drwy rannu amcangyfrifon o nifer y bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat â nifer yr aelwydydd. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, sef 2008-2018, mae nifer yr aelwydydd yn Abertawe wedi tyfu'n gynt na'r boblogaeth aelwydydd preifat (yn unol â holl rannau Cymru). O ganlyniad, mae maint cyfartalog aelwyd yn Abertawe wedi lleihau o 2.28 yn 2008 i 2.22 person fesul aelwyd yn 2021 (er mae'n is na chyfartaledd Cymru, sef 2.27).
3.4 Roedd 36,200 o aelwydydd un personyn Abertawe yn 2021 (34.4% o'r cyfanswm), cyfran uwch na Chymru'n gyffredinol (31.9%) a Chymru a Lloegr (30.2%). Yn Abertawe Ganolog, mae'r ffigur hwn yn codi i 42%.
3.5 Mae gan Farchnad Dai Abertawe Ganolog hefyd y gyfran fwyaf o aelwydydd sy'n rhentu eu cartrefi'n breifat (32.1%) ac mae hyn yn ôl pob tebyg wedi'i gysylltu'n rhannol â myfyrwyr sy'n chwilio am lety a rentir yn breifat pan fyddant yn y brifysgol neu wrth raddio, os ydynt yn aros yn y ddinas. Roedd Abertawe'n gartref i oddeutu 22,678 o fyfyrwyr 16 oed neu'n hŷn yng Nghyfrifiad 2021 gydag 17,954 o'r myfyrwyr hyn yn 18 oed neu'n hŷn a'r rhan fwyaf o'r rheini heb fod yn hŷn na 24 oed.
3.6 Eiddo tair ystafell wely sy'n ffurfio'r gyfran fwyaf o eiddo a rentir yn breifat ar draws holl ardaloedd Abertawe ac eithrio'r Gorllewin ac Abertawe Ganolog lle mae eiddo dwy ystafell wely yn fwyaf cyffredin. Yn ogystal, mae'r gyfran fwyaf o eiddo rhent un ystafell wely i'w chael yn yr ardal Ganolog, y gellid ei briodoli i gyfran uwch o bobl 16 i 24 oed (gan gynnwys myfyrwyr) sy'n byw yn yr ardal. Mae gan yr ardal Ganolog gyfran uwch hefyd o eiddo rhent a chanddynt o leiaf bedair ystafell wely, y gellid ei briodoli i fyfyrwyr sy'n rhentu tai amlfeddiannaeth.
3.7 Nododd ddata o Gyfrifiad Poblogaeth y DU 2021 fod 18.0% o aelwydydd yn byw yn y sector rhentu preifat yn Abertawe (18,900). Mae nifer yr aelwydydd sy'n rhentu'n breifat yn Abertawe wedi cynyddu tua 3,600 neu 24% ers 2011, yn unol â thueddiadau cenedlaethol. Ar draws Cymru, mae 17% o aelwydydd ar gyfartaledd yn byw yn y sector rhentu preifat.
4. Anghenion Tai a Rôl Tai Amlfeddiannaeth
4.1 Roedd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2023 yn adrodd bod HMOau yn gwneud cyfraniad pwysig i'r sector rhentu preifat yn Abertawe, yn enwedig yn y wardiau canolog, drwy ddarparu tai ar gyfer grwpiau ac aelwydydd penodol, er enghraifft myfyrwyr. At hynny, maent yn cyfrannu at yr economi leol drwy ddarparu cyflenwad tai i'r rheini sy'n symud i ardal am resymau gwaith, neu i'r boblogaeth bresennol mewn swyddi â chyflog is.
4.2 Mae newidiadau a amlinellir yn y Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith yn arwain at fwy o alw am lety llai yn ogystal â chynnydd mewn llety a rennir gan bobl sengl dan 35 oed. O'r blaen, roedd gan bobl sengl dros 25 oed hawl i Fudd- dal Tai i dalu am lety hunangynhwysol un ystafell wely. Mae'r newidiadau'n golygu bod pobl sengl hyd at 35 oed bellach yn cael eu hasesu gan ddefnyddio'r gyfradd llety a rennir is. Mae hyn yn cynyddu'r galw am lety HMO yn Abertawe.
4.3 Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 gyfrifoldebau newydd i awdurdodau lleol helpu pobl ddigartref a'r rheini sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys opsiynau ar gyfer helpu pobl i ddod o hyd i gartref newydd yn y sector rhentu preifat ac mae tai amlfeddiannaeth yn parhau i ddarparu atebion ar gyfer rhai o'r sefyllfaoedd hyn.
4.4 Mae rôl y sector rhentu preifat wrth helpu i fodloni dyheadau tai aelwydydd lleol yn ehangu. Mae'r sector wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y myfyrwyr yn Abertawe wedi cynyddu'n sylweddol ac er bod y galw ar draws y farchnad dai leol wedi'i wasgaru'n dda, mae'r crynodiad o fyfyrwyr yn wardiau'r Castell ac Uplands yn dangos marchnad leol sy'n sensitif i ddylanwadau allanol.
4.5 Amlygodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2023 yr angen am gynnydd sylweddol yn nifer y cartrefi un ystafell wely, sydd, os na chânt eu darparu, yn dod yn ofyniad ar gyfer cartrefi un ystafell wely ychwanegol yn y sector preifat sy'n debygol o fod yn ofyniad i HMOau.
4.6 Mae cofnodion eiddo sydd wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor gan fod myfyrwyr yn byw yno yn awgrymu mai myfyrwyr sy'n byw mewn tua 65% o dai amlfeddiannaeth yn Abertawe. Mae'n bwysig sicrhau y darperir nifer priodol o letyai o safon i fyfyrwyr i ganiatáu ar gyfer twf cynaliadwy prifysgol Abertawe sy'n tyfu ochr yn ochr â llety a adeiladwyd yn benodol i fyfyrwyr. Mae llety a adeiladwyd at y diben yn helpu'n gynyddol i ddiwallu anghenion myfyrwyr ac o bosib gallai leihau'r pwysau am gael rhagor o dai amlfeddiannaeth.
5. Y Fframwaith Cyfreithiol
5.1 System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai
Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn berthnasol i bob tŷ, gan gynnwys tai amlfeddiannaeth, ni waeth be fo'r math neu'r ddaliadaeth. Mae'n cynnwys asesiad risg o effaith cyflwr tai ar iechyd meddianwyr ac asesiad o 29 o beryglon posib. Os ceir peryglon Categori 1 (sef y peryglon mwyaf difrifol), mae gan y Cyngor ddyletswydd i ofyn i'r perchennog gymryd camau gweithredu priodol. Os ceir peryglon Categori 2 (sef peryglon llai difrifol), gall y Cyngor gymryd camau gweithredu priodol yn unol â darpariaethau ei bolisïau gorfodi. Mae'n ofynnol i gynghorau asesu tai amlfeddiannaeth trwyddedadwy er mwyn sicrhau nad oes unrhyw swyddogaethau o dan ran 1 y Ddeddf (HHSRS) y dylent eu cyflawni. Mae'n rhaid gwneud hyn o fewn pum mlynedd i drwydded gael ei rhoi; yn ymarferol, bydd angen cynnal archwiliad.
5.2 Diffinio HMO
Ceir tŷ amlfeddiannaeth pan fo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelwyd yn rhannu cyfleusterau, fel cegin neu ystafell ymolchi, ac yn defnyddio'r tŷ fel eu hunig gartref, neu eu prif gartref, a lle bo rhent yn daladwy am ei ddefnyddio.
Mae'r Ddeddf yn diffinio adeilad fel HMO os yw'n bodloni un o'r meini prawf canlynol:
- Y Prawf Safonol - unrhyw adeilad lle bo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelod yn rhannu cyfleusterau sylfaenol;
- Y Prawf Fflat Hunangynhwysol - unrhyw fflat lle bo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelwyd yn rhannu cyfleusterau sylfaenol;
- Y Prawf Adeilad wedi'i Addasu - unrhyw adeilad sydd wedi'i addasu y mae ganddo un uned neu fwy nad yw'n hunangynhwysol ac mae tri o bobl neu fwy sy'n ei ddefnyddio'n ffurfio mwy nag un aelwyd;
- Blociau penodol o Fflatiau wedi'u Haddasu - unrhyw adeilad sydd wedi'i addasu sy'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol nad ydynt yn bodloni Safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 lle defnyddir mwy na thraean y fflatiau ar denantiaethau byr, a lle bo cyfanswm o dri o bobl neu fwy yn ffurfio mwy nag un aelwyd.
Eithrir adeiladau penodol o ddeddfwriaeth HMO:
- Adeiladau a reolir gan gyngor lleol, cymdeithas tai, awdurdod yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth iechyd;
- Cartrefi gofal cofrestredig;
- Neuaddau preswyl a reolir gan y brifysgol;
- Adeiladau a ddefnyddir gan gymunedau crefyddol;
- Adeiladau a ddefnyddir yn bennaf gan y perchennog, gan gynnwys landlordiaid preswyl lle bo'r perchennog-preswyliwr yn defnyddio'r adeilad ar y cyd â dau berson arall (lletywyr) ar y mwyaf;
- Adeiladau a ddefnyddir gan ddau berson yn unig nad ydynt yn ffurfio un aelwyd.
5.3 Trwyddedu HMO Gorfodol
Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i dai amlfeddiannaeth lle bo pum person (neu fwy) yn defnyddio eiddo tri llawr (neu fwy). Eithrir tai amlfeddiannaeth sy'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol yn unig, na chânt eu defnyddio fel fflatiau amlfeddiannaeth, ac eithrio lle trefnir y fflat ei hun ar dri llawr (heblaw am rai blociau o fflatiau wedi'u haddasu fel y cyfeirir atynt yn 5.2). Wrth asesu nifer y lloriau, ystyrir holl loriau llety preswyl, boed uwchlaw neu islaw'r llawr gwaelod, gan gynnwys croglofftydd y gellir byw ynddynt.
Bydd holl rannau preswyl yr adeilad yn ddarostyngedig i'r darpariaethau hyn lle bo'r eiddo'n gyffredinol yn gymwys i'w drwyddedu, ac eithrio unrhyw rannau o'r eiddo a ddefnyddir gan y landlord yn unig.
5.4 Cofrestr Gyhoeddus
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi cofrestr o'r trwyddedau HMO sydd ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth benodol. Bydd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill: enw a chyfeiriad deiliad y drwydded, manylion yr eiddo a hyd a dyddiad dechrau cyfnod y drwydded.
6 Trwyddedu HMO Ychwanegol
6.1 Gall y Cyngor fabwysiadu cynllun trwyddedu HMO ychwanegol a all gynnwys tai amlfeddiannaeth llai, risg is sydd y tu allan i drwyddedu gorfodol. Gall y cynllun ychwanegol fod yn seiliedig ar ardal, neu ardaloedd, neu gall fod yn berthnasol i holl ardal y Cyngor. Bydd angen i'r cynllun fodloni meini prawf eraill a bennir gan Lywodraeth Cymru a gellir ei roi ar waith lle bo problemau rheoli gyda thai amlfeddiannaeth presennol yn yr ardal yn unig.
6.2 Mae trwyddedu HMOau ychwanegol yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2023 - 2028 ac yn cysylltu'n arbennig â gwerth Ffocws ar Bobl - gan ganolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedol ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Rydym am sicrhau bod gan Abertawe dai o ansawdd da ac rydym yn gweithio i wella cyflwr a rheolaeth tai
6.3 Mae trwyddedu HMOau ychwanegol yn cefnogi'r flaenoriaeth a amlinellir yng Nghynllun Gwasanaethau Tai ac Iechyd y Cyhoedd 2024-2026 i hyrwyddo gwelliant yng nghyflwr tai'r sector preifat a'u heffeithiolrwydd ynni, gan ddefnyddio camau gorfodi lle bo'n briodol.
6.4 Mae rheoleiddio HMOau i bob pwrpas yn eu hatal rhag mynd yn broblem i gymdogion a chymunedau cyfagos o ran yr adeilad ffisegol ac ymddygiad meddianwyr. Mae eiddo sy'n achosi problemau yn niweidio cydlyniant cymunedol ac yn cael effaith negyddol ganlyniadol ar eiddo cyfagos, a allai arwain at gymdogaeth yn dirywio os nad eir i'r afael â'r broblem. Gall tai amlfeddiannaeth heb eu rheoleiddio gael effaith ddifrifol ar iechyd a lles unigolion. Mae meddianwyr mewn tai o ansawdd gwael neu anniogel yn llai tebygol o gyfrannu'n gadarnhaol at y ddinas a ffynnu mewn gwaith neu addysg. Gall y Cyngor wneud gwelliannau cadarnhaol drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, landlordiaid, asiantau, prifysgolion, yr heddlu ac asiantaethau gwirfoddol lleol.
6.5 Dangosir gwybodaeth am gwynion perthnasol yn ward y Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024 yn y tablau isod. Mae'r gallu i ymdrin â llawer o'r materion hyn yn gysylltiedig ag amodau a gymhwysir o ganlyniad i drwyddedu HMO ac yn enwedig trwyddedu HMO Ychwanegol yn wardiau'r Castell ac Uplands.
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl math | Pob eiddo preswyl | Tai Amlfeddiannaeth |
---|---|---|
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo | 223 | 64 |
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.) | 1273 | 391 |
Ymholiadau cyffredinol am HMO | - | 447 |
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO | - | 158 |
Ymholiadau am drwyddedu HMO | - | 316 |
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl math | Pob eiddo preswyl | Tai Amlfeddiannaeth |
---|---|---|
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo | 322 | 197 |
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.) | 861 | 573 |
Ymholiadau cyffredinol am HMO | - | 684 |
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO | - | 405 |
Ymholiadau am drwyddedu HMO | - | 601 |
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl math | Pob eiddo preswyl | Tai Amlfeddiannaeth |
---|---|---|
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo | 71 | 7 |
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.) | 218 | 26 |
Ymholiadau cyffredinol am HMO | - | 125 |
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO | - | 32 |
Ymholiadau am drwyddedu HMO | - | 83 |
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl math | Pob eiddo preswyl | Tai Amlfeddiannaeth |
---|---|---|
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo | 1 | - |
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.) | 30 | 2 |
Ymholiadau cyffredinol am HMO | - | 14 |
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO | - | 2 |
Ymholiadau am drwyddedu HMO | - | 0 |
6.6 Dangosir gwybodaeth am weithgarwch gorfodi mewn perthynas â thai, ac eithrio trwyddedu HMO, mewn tai amlfeddiannaeth yn y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2024 yn y tabl isod. Ymdrinnir â'r rhan fwyaf o broblemau drwy weithredu anffurfiol neu amodau trwydded.
Ward | Nifer yr Hysbysiadau Gwella a roddwyd | Nifer y Gorchmynion Gwahardd a roddwyd | Nifer y llythyrau rhybudd a anfonwyd mewn perthynas ag amodau rheoli neu drwyddedu |
---|---|---|---|
Y Castell | 5 | 5 | 5 |
Uplands | 6 | 5 | 17 |
St Thomas | 1 | 2 | 0 |
Y Glannau | 0 | 0 | 0 |
6.7 Caniatâd Cyffredinol
Rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyaeth gyffredinol ar 13 Mawrth 2007 i wneud ardaloedd dynodedig yn ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol gan y Cyngor o dan Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu HMO Ychwanegol) (Cymru) Caniatâd Cyffredinol 2007.
6.8 Dynodi
Mae dynodiad ardal sy'n destun trwyddedu ychwanegol yn dod i ben bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw i rym, oni bai iddo gael ei ddirymu'n flaenorol.
O dan delerau'r Gorchymyn Cydsynio Cyffredinol, mae'r Cyngor, drwy'r polisi hwn, yn dirymu'r dynodiad a wnaed yn 2020 mewn perthynas â wardiau'r Castell, Uplands a St Thomas a'r atodiad dilynol i gynnwys y Glannau yn 2022, a bydd y cynllun hwnnw'n peidio â bod mewn grym ar (-----/2026.)
Mae'r gofynion rhagnodedig ar gyfer ymgynghori wedi'u cymhwyso a bydd y gofynion ar gyfer cyhoeddi dynodi cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol yn cael eu cymhwyso i alluogi i wardiau'r Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas gael eu dynodi'n ardaloedd Trwyddedu HMO Ychwanegol o 2025/26, yn amodol ar delerau'r polisi hwn. Gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol (Y Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas) 2025.
Mae'r cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol hwn yn benodol berthnasol i bob HMO nad yw'n rhan o gylch gwaith trwyddedu gorfodol yn wardiau'r Castell, Uplands a St Thomas gan gynnwys y tai amlfeddiannaeth a ddiffinnir o dan Adran 257, Deddf Tai 2004 h.y. blociau o fflatiau hunangynhwysol 'wedi'u haddasu'n wael'. Yr unig eithriadau i hyn fydd y tai amlfeddiannaeth hynny sydd wedi'u heithrio'n benodol o drwyddedu o dan y rhannau perthnasol o Ddeddf Tai 2004.
Bydd trwyddedau HMO a roddwyd dan y cynllun Trwyddedu HMOau Ychwanegol blaenorol yn Wardiau'r Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas yn cael eu trosglwyddo drwodd i'r cynllun newydd. Ni fydd y cynllun newydd yn newid eu dyddiadau a'u hamodau trwydded newydd, ond pan ddaw'r drwydded i ben, bydd gofynion Cynllun Trwyddedu HMOau Ychwanegol (Y Castell, Uplands a St Thomas) 2021 yn berthnasol iddynt.
7 Proses Trwyddedu HMO
7.1 Mae'r broses trwyddedu HMO yn berthnasol i bob HMO sydd angen trwydded, boed dan y cynllun trwyddedu gorfodol neu ychwanegol.
7.2 Ceisiadau
Bydd y broses drwyddedu a'i hyd yn dechrau o'r dyddiad y derbyniwyd ffurflen gais wedi'i llenwi. Pan fydd ffurflenni anghywir neu anghyflawn, gellir rhoi trwydded am gyfnod byrrach sy'n ystyried yr oedi.
Ni dderbynnir ceisiadau gan yr un ymgeisydd i adnewyddu trwydded bresennol fwy na deufis cyn dyddiad dod i ben y drwydded bresennol.
Bydd y dyddiad pan dderbynnir ceisiadau'n pennu'r flaenoriaeth archwilio.
Archwilir eiddo fel arfer cyn rhoi trwydded. Bydd yr archwiliad hefyd yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau dan ran 1 sy'n gysylltiedig â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
7.3 Caniatáu Trwydded
Yn unol â Deddf Tai 2004, Adrannau 64 - 66, er mwyn caniatáu trwydded, mae'n rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon ar y canlynol:
Mae'r eiddo (neu gellir gwneud yr eiddo) yn rhesymol addas i'w ddefnyddio gan uchafswm nifer y meddianwyr, sef:
- Mae'n bodloni'r safonau cyfleusterau a nodir yn Atodiad A
- Mae ganddo ffordd foddhaol o ddianc os bydd tân, a rhagofalon tân eraill. Asesir risgiau unrhyw waith adfer ar gyfer pob eiddo, gan ddefnyddio'r atodlen yn Atodiad B fel sail.
Mae ymgeisydd y drwydded yn berson addas a phriodol
- Bydd y Cyngor yn rhoi trwydded i berchennog neu reolwr HMO ar yr amod ei fod yn hunan-ardystio ei fod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Person Addas a Phriodol a nodir yn Atodiad C
- Mewn achosion lle nad yw ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf hyn, bydd y Cyngor yn arfer ei ddisgresiwn i roi trwydded. Ystyrir yr achosion hyn gan y Pwyllgor Trwyddedu.
- Gall y Cyngor erlyn a diddymu trwydded os darperir gwybodaeth anwir sylweddol ar y ffurflen gais sy'n dylanwadu ar y penderfyniad i roi trwydded.
Mae trefniadau rheoli boddhaol ar waith.
Gall y Cyngor roi trwydded os caiff ei fodloni bod trefniadau rheoli boddhaol ar waith. Mae'n rhaid i'r rhain gynnwys y canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:
- Cymhwysedd i reoli (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)
- Meini prawf person addas a phriodol unrhyw berson sy'n rhan o reoli'r tŷ (gweler Atodiad C)
- Strwythurau rheoli addas (asesir y rhain yn ôl disgresiwn y Cyngor)
- Trefniadau ariannu priodol (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)
Gall gynnwys materion eraill fel:
- Y gallu i fodloni amodau'r drwydded (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)
- Unrhyw hanes o reoli'r eiddo'n anfoddhaol (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor).
Cynhwysir manylion y rheolwr, os caiff ei benodi, mewn trwydded a roddir gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn cynghori ymgeiswyr ar sut i ddangos trefniadau rheoli boddhaol.
7.4 Cymeradwyo Trwydded a'i Hyd
Bydd y Cyngor fel arfer yn caniatáu trwydded am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y cais, ond gall ganiatáu trwydded am gyfnod byrrach mewn rhai amgylchiadau fel a ddisgrifir isod.
Yn achos adnewyddu trwydded i'r un deiliad trwydded, bydd y Cyngor fel arfer yn caniatáu trwydded newydd am bum mlynedd o'r dyddiad y daeth y drwydded flaenorol i ben.
Fel cosb gorfodi, gall y Cyngor roi trwydded am gyfnod byrrach. Mae'r amgylchiadau ar gyfer y gosb hon yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:
- Oedi wrth gyflwyno ffurflen gais gyflawn
- Rhoi rhybudd syml i ymgeisydd y drwydded
- Os oes gan y Cyngor bryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun neu'r rheolaeth ohono
- Ystyriaethau'r Pwyllgor Trwyddedu.
Gyda'r newid i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, bydd yn ofynnol i ddeiliaid trwydded gyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddio'r eiddo fel HMO, lle bo'n briodol. Os yw'r caniatâd cynllunio yn yr arfaeth, neu os na chyflwynwyd cais amdano eto, bydd trwydded yn cael ei rhoi fel arfer am flwyddyn er mwyn penderfynu ar y caniatâd perthnasol.
7.5 Amrywio
Gall y Cyngor benderfynu amrywio trwydded, gan gynnwys lleihau tymor y drwydded, nifer y meddianwyr a ganiateir neu'r safonau sy'n gymwys. Gall wneud hyn os yw'n ystyried y bu newid mewn amgylchiadau ers yr adeg y caniatawyd y drwydded. Mae "newid mewn amgylchiadau" i'r diben hwn yn cynnwys darganfod gwybodaeth newydd. Gall hyn gynnwys os oes pryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun, yr amwynderau neu reolaeth yr HMO, ond nid yw'n gyfyngedig i hyn.
7.6 Gwrthod
Y Pwyllgor Trwyddedu fydd yn penderfynu ar wrthod.
Gall y pwyllgor wrthod cais dan yr amgylchiadau canlynol:
- Ni ellir gwneud yr eiddo yn addas i'w ddefnyddio
- Nid yw deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol
- Nid yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol.
Wrth ystyried a yw deiliad y drwydded neu'r rheolwr yn berson addas a phriodol, rhaid i'r pwyllgor ystyried:
- A fu toriadau o ran y materion a nodir yn Atodiad C
- Unrhyw faterion eraill sy'n cynnwys, ymysg pethau eraill, hanes blaenorol o reoli'r eiddo'n anfoddhaol.
7.7 Diddymu
Gall y Pwyllgor Trwyddedu ddiddymu trwydded os:
- Torrwyd amodau'r drwydded
- Nad yw deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol.
7.8 Amodau Trwydded
Mae Deddf Tai 2004 yn pennu amodau gorfodol trwydded sy'n ymwneud â:
- Darparu tystysgrifau diogelwch nwy blynyddol
- Diogelwch offer trydanol a chelfi
- Darparu larymau mwg, a'u cynnal a'u cadw
- Darparu datganiad ysgrifenedig o delerau i denantiaid.
Ar ben hynny, gall y Cyngor osod ei amodau dewisol ei hun. Trwy osod amodau mwy heriol, gall y Cyngor gael rheolaeth reoliadol fwy effeithiol dros safonau ffisegol tai amlfeddiannaeth a'u safonau rheoli.
Bydd y Cyngor yn caniatáu trwydded yn amodol ar yr amodau a nodir yn Atodiad Ch. Gall y Cyfarwyddwr Lleoedd, neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran, amrywio'r amodau hyn ar gyfer gofynion eiddo penodol.
7.9 Ffïoedd
Bydd y Cyngor yn codi tâl am geisiadau am drwydded HMO. Pennir ffïoedd i dalu am gostau yr eir iddynt wrth weinyddu'r cynlluniau trwyddedu.
Ni chaiff ffïoedd eu had-dalu oni bai am amgylchiadau eithriadol, yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.
7.10 Hysbysiadau Eithrio Dros Dro
Defnyddir y rhain pan fo landlord HMO, y dylid ei drwyddedu, yn hysbysu'r Cyngor am ei fwriad i gymryd camau er mwyn sicrhau na fydd angen i'r HMO gael ei drwyddedu mwyach.
Gall y Cyngor roi Hysbysiad Eithrio Dros Dro pan fo:
- Perchennog HMO trwyddedadwy'n datgan yn ysgrifenedig ei fod yn gofyn i'w wneud yn HMO na ellir ei drwyddedu, ac
- Mae'r Cyngor yn fodlon na fydd yn drwyddedadwy o fewn tri mis i'r dyddiad pan dderbyniwyd yr hysbysiad.
Ni fydd y Cyngor fel arfer yn rhoi mwy nag un Hysbysiad Eithrio Dros Dro fesul eiddo; wrth wneud hynny, bydd yn ystyried y cynigion ar gyfer yr eiddo, unrhyw ystyriaethau cynllunio a'r trefniadau i ddiwallu anghenion y meddianwyr, gan gynnwys y rhai a fydd yn debygol o gael eu symud.
Bydd y Cyngor yn rhoi ail Hysbysiad Dros Dro mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
8 Gorfodi
8.1 Yn gyffredinol, gall y Cyngor gymryd unrhyw gamau gorfodi perthnasol yn erbyn landlord sy'n gweithredu HMO heb drwydded neu sy'n peidio â chydymffurfio ag amodau trwydded HMO, neu landlord neu reolwr sy'n gosod eiddo i fwy o bobl nag a awdurdodir gan y drwydded, a hynny'n fwriadol.
8.2 Bydd y Cyngor yn ystyried diffyg cydymffurfio ac osgoi bwriadol a'r amgylchiadau hynny lle rhoddir meddianwyr neu gymdogion cyfagos mewn perygl, a hynny'n ddiangen.
8.3 Bydd y Cyngor yn arfer ei bwerau'n unol â Pholisi Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd 2018 a bydd yn eu defnyddio mewn modd cyson, tryloyw a chymesur.
8.4 Ystyrir gofynion ar gyfer cofrestru gofrestru landlordiaid a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid yn y sector rhentu preifat yng Nghymru o dan ran 1, Deddf Tai (Cymru) 2014 (Rhentu Doeth Cymru) pan roddir ystyriaeth i statws person addas a chymwys.
8.5 Deddf Tai 2004, Rhan 1 - System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS
Disgrifir y fframwaith ar gyfer HHSRS yn adran 3. Yn achos peryglon Categori 1 mewn tai amlfeddiannaeth, bydd y Cyngor yn arfer ei ddyletswydd statudol i ymyrryd a chymryd yr opsiynau gorfodi priodol. Yn achos peryglon Categori 2, bydd y Cyngor yn arfer ei bŵer dewisol ac yn ystyried yr opsiwn gorfodi priodol.
Gall y Cyngor gyflwyno amrywiaeth o hysbysiadau gorfodi, gan gynnwys Gwella, Adfer Brys, Gwahardd ac Ymwybyddiaeth o Beryglon; gellir atal neu amrywio pob un ohonynt.
Ar ben hynny, mae gan y Cyngor bwerau o dan Ddeddf Eiddo 1985 o ran dymchwel a datgan Ardaloedd Clirio.
8.6 Gorchmynion Ad-dalu Rhent
Gall landlord a ddyfernir yn euog o weithredu HMO heb drwydded fod yn destun Gorchymyn Ad-dalu Rhent gan Dribiwnlys Eiddo Preswyl (Tribiwnlys Haen Gyntaf).
Ar gais gan denant, gall Gorchymyn Ad-dalu Rhent ofyn i'r landlord ad-dalu rhent a dderbyniwyd ganddo dros gyfnod o hyd at 12 mis. Lle telir rhent fel Budd-dal Tai, gall y Cyngor wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am Orchymyn Ad-dalu Rhent.
8.7 Gorchmynion Rheoli Dros Dro a Therfynol
Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Cyngor gyflwyno hysbysiadau a chymryd camau gweithredu lle na ddisgwylir i HMO gael trwydded. Mewn amgylchiadau perthnasol, mae gan gynghorau ddyletswydd i weithredu. Dan amgylchiadau eithriadol, rhaid i gynghorau gymryd yr awenau o ran rheoli HMO, gan gymryd cyfrifoldeb am ei gynnal, gwneud gwelliannau angenrheidiol a chasglu rhent.
Mae'r Cyngor yn cadw'r pŵer i gyflwyno Gorchymyn Rheoli HMO mewn amgylchiadau eithriadol, gan ystyried y meini prawf a gynhwysir yn y Ddeddf.
8.8 Rheoliadau Rheoli
Mae Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 yn berthnasol i bob HMO ac eithrio rhai blociau o fflatiau wedi'u haddasu, a gynhwysir yn Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.
Mae'r rheoliadau'n gosod dyletswyddau penodol ar reolwyr, gan gynnwys cynnal a chadw gosodion a ffitiadau, mesurau diogelwch tân, cyflenwadau nwy a thrydan, a threfniadau gwaredu gwastraff. Mae'r rheoliadau hefyd yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr. Mae unrhyw un sy'n peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau hyn yn troseddu a gall olygu dirwy heb fod yn fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd) - gweler hefyd 8.9 isod.
Lle torrir y rheoliadau hyn, bydd y Cyngor fel arfer yn anfon llythyr rhybuddio at y person perthnasol, gan nodi mesurau adfer a'r goblygiadau os na fydd yn mynd i'r afael â hwy.
Lle bo achosion sylweddol o dorri'r rheoliadau hyn, gall y Cyngor erlyn ar unwaith.
8.9 Cosbau
Mae'r Ddeddf yn pennu nifer o droseddau sy'n gysylltiedig â thrwyddedu a'r cosbau cyfatebol, gan gynnwys y canlynol:
- Gweithredu HMO heb drwydded neu ganiatáu i HMO gael ei feddiannu gan fwy o bobl nag a ganiateir yn y drwydded: dirwy diderfyn
- Torri amod trwydded: dirwy nad yw'n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol
- Darparu gwybodaeth anghywir mewn cais am drwydded: dirwy nad yw'n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol.
Mae'r raddfa safonol yn system lle pennir uchafsymiau dirwyon yn erbyn graddfa safonol.
Mae'n amddiffyniad yn erbyn unrhyw un o'r uchod os gall y person a gyhuddir ddangos bod ganddo esgus rhesymol.
9 Dirprwyo
9.1 Dirprwyir yr opsiynau gorfodi a gynhwysir yn rhan 1 (System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai), rhan 2 (Trwyddedu HMO), rhan 4 (Gorchmynion Rheoli a Hysbysiadau Gorlenwi), rhan 6 (Pwerau Mynediad, etc) a'r atodlenni perthnasol yn Neddf Tai 2004 i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.
9.2 Dirprwyir penderfyniadau sy'n ymwneud â gwrthod neu ddiddymu trwydded ar sail person addas a phriodol a threfniadau rheoli boddhaol i'r Pwyllgor Trwyddedu.
9.3 Lle rhoddir trwydded am gyfnod byrrach na phum mlynedd, fel cosb, bydd hawl i apelio i'r Pwyllgor Trwyddedu.
9.4 Dirprwyir newidiadau i'r manylebau technegol yn Atodiadau A (Cyfleusterau) a B (Ffordd o Ddianc a Rhagofalon Tân Eraill) i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.
9.5 Dirprwyir newidiadau i amodau trwydded (Atodiad Ch) i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.
10 Tai Amlfeddiannaeth na ellir eu trwyddedu
10.1 Bydd tai amlfeddiannaeth nad yw'r gofynion trwyddedu'n berthnasol iddynt yn ddarostyngedig i Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 neu Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.
10.2 Asesir risgiau pob eiddo sy'n cael ei archwilio o dan ran 1 y Ddeddf. Bydd y gwaith adfer ar gyfer diogelwch tân yn seiliedig ar Atodiad B.
Atodiad A - HMO safonau amwynderau
Arweiniad i landlordiaid fflatiau un ystafell, tai a rennir a thai amlfeddiannaeth eraill.
Ar y dudalen hon
Trwyddedu HMO - Safonau amwynderau
Deddfwriaeth
Golyga Deddf Tai 2004 fod gofyniad cyfreithiol ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO) penodol i gael trwydded er mwyn gweithredu'n gyfreithlon.
Er nad oes angen trwydded ar bob HMO i weithredu, rhaid iddynt gydymffurfio â'r isafswm safonau cyfreithiol ar gyfer ffordd o ddianc os bydd tân ac amwynderau.
Cyn rhoi trwydded neu sicrhau bod eiddo'n cydymffurfio â deddfwriaeth, mae'n rhaid i'r cyngor ystyried ffactorau penodol. Un ohonynt yw amwynderau'r eiddo, i sicrhau bod yr eiddo'n addas i'w feddiannu gan nifer y meddianwyr.
Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)
Mae Deddf Tai 2004 yn cynyddu safonau amwynderau tai amlfeddiannaeth yn sylweddol a'r nod yw gwella safonau'n gyffredinol yn y math hwn o lety.
Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amwynderau safonol sy'n ofynnol mewn HMO.
Os ydych yn gyfrifol am reoli HMO, rhaid i chi dalu sylw arbennig i ofyniad y Rheoliadau hyn.
Isafswm maint ystafelloedd gwely
Mae'r cyngor wedi mabwysiadu arweiniad ar gyfer isafswm arwynebedd llawr ar gyfer mathau penodol o ystafelloedd gwely mewn HMO trwyddedig.
- Ystafell wely sengl (lle darperir lolfa ar wahân) - 6.5m2
- Ystafell wely sengl (lle na ddarperir lolfa ar wahân) - 10m2
- Ystafell wely ddwbl (lle darperir lolfa ar wahân) - 10.2m2
- Ystafell wely ddwbl (lle na ddarperir lolfa ar wahân) - 15m2
- Fflat un ystafell sengl - 13m2
Cyfleusterau ymolchi a glanweithiol
Oni bai fod yr uned lety unigol h.y. ystafell wely, fflat un ystafell, fflat hunangynhwysol, etc yn cynnwys cyfleusterau ymolchi a thoiled er defnydd yr aelwyd unigol honno*, yna rhaid darparu cyfleusterau toiled ac ymolchi yn ôl y cymarebau canlynol:
DS 'Ystafell ymolchi' - ystafell â baddon neu gawod
'Ystafell ymolchi' - ystafell sy'n cynnwys baddon neu gawod, toiled a basn golchi dwylo.
1-4 persons | 1 ystafell ymolchi lawn: Yn cynnwys baddon neu gawod, basn golchi dwylo a thoiled |
---|---|
5 persons | 1 ystafell ymolchi: yn cynnwys baddon neu gawod AC 1 toiled ar wahân: gyda basn golchi dwylo (neu ail ystafell ymolchi sy'n cynnwys toiled) |
6-10 persons | 2 ystafell ymolchi: pob un yn cynnwys baddon/cawod AC O leiaf 2 doiled: y mae'n rhaid i un fod ar wahân a chynnwys basn golchi dwylo, gall yr ail fod yn un o'r ystafelloedd ymolchi |
- Rhaid i'r holl faddonau, cawodydd a basnau golchi dwylo gynnwys tapiau sy'n darparu cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr twym cyson.
- Rhaid i'r holl ystafelloedd gwely fod wedi'u gwresogi a'u hawyru'n ddigonol e.e. rheiddiadur gwres canolog awyru ar ffurf ffenestr y gellir ei hagor o faint digonol a/neu awyru mecanyddol, meddu ar ddyfais sy'n gor-redeg.
- Rhaid i'r holl ystafelloedd ymolchi a thoiledau fod o faint digonol a dylent fod yn ddiogel i'w defnyddio. (Gofyniad HHSRS).
- Dylai'r holl faddonau, toiledau, basnau golchi dwylo a chawodydd fod yn 'addas i'r diben' h.y. mewn cyflwr da, yn ddiogel i'w defnyddio ac yn gallu cael eu glanhau'n hawdd.
- Rhaid bod gan yr holl gawodydd, baddonau a basnau golchi dwylo sblasgefnau addas.
- Dylai'r holl ystafelloedd ymolchi a thoiledau mewn HMO gael eu lleoli'n addas yn y tŷ.
DS * Aelwyd - pobl sy'n aelodau o'r un teulu h.y. parau priod, perthnasau, partneriaid sy'n cyd-fyw.
- Rhaid i'r holl gyfleusterau a restrir yn y tabl uchod fod yn gallu cael eu defnyddio fel fflatiau un ystafell a rennir a thai HMO a rennir.
Mae'r tabl trosodd yn rhoi cynlluniau opsiynol ar gyfer ystafelloedd ymolchi a thoiledau ar gyfer nifer y preswylwyr mewn HMO er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.
Nifer y meddianwyr | Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 | Opsiwn 4 | Opsiwn 5 |
---|---|---|---|---|---|
4 | 1 ystafell ymolchi 'lawn' | ||||
5 | 1 baddon/ystafell gawod AC 1 toiled ar wahân â basn golchi dwylo | Ystafell ymolchi 'lawn' (h.y. gyda thoiled a basn golchi dwylo) AC 1 ystafell gawod/ymolchi | 2 ystafell ymolchi 'lawn' sy'n cynnwys baddon/cawod, toiled a basn golchi dwylo | ||
6-10 | 1 ystafell ymolchi sy'n cynnwys baddon/cawod AC 1 ystafell ymolchi lawn sy'n cynnwys baddon/cawod, toiled a basn golchi dwylo AC 1 toiled ar wahân â basn golchi dwylo | 2 ystafell ymolchi 'lawn' gyda baddon/ chawod, basn golchi dwylo a thoiled AC 1 ystafell gawod/ymolchi | 2 ystafell ymolchi 'lawn' gyda baddon/ystafell gawod, basn golchi dwylo a thoiled AC 1 toiled ar wahân â basn golchi dwylo/ystafell ymolchi | 2 ystafell gawod/ymolchi AC 2 doiled ar wahân â basn golchi dwylo | 3 ystafell ymolchi lawn sy'n cynnwys baddon/cawod, toiled a basn golchi dwylo |
DS
Ystafell ymolchi lawn - baddon/cawod, toiled a basn golchi dwylo
Ystafell ymolchi - ystafell sy'n cynnwys baddon neu gawod
Dylai pob toiled ar wahân gynnwys basn golchi dwylo
Cyfleusterau cegin - Llety a rennir
Oni bai fod yr uned lety h.y. ystafell wely, fflat un ystafell, fflat hunangynhwysol etc. yn cynnwys cyfleusterau coginio bwyd, yna rhaid darparu cyfleusterau cegin, fel a ga:
Maint/ cynllun y gegin
Rhaid bod cegin maint a chynllun addas sydd â chyfleusterau er mwyn i'r rhai sy'n ei rhannu storio, paratoi a choginio bwyd.
Yn gyffredinol, dylai maint y gegin fod fel a ganlyn:
- cegin i'w defnyddio gan 1 - 5 person ~ o leiaf 7m2
- cegin i'w defnyddio gan 6 - 10 person ~ o leiaf 10.5m2
Cyfarpar
Rhaid bod gan y gegin y cyfarpar canlynol, y mae'n rhaid iddo fod yn addas i'r diben ac yn addas ar gyfer nifer y bobl sy'n rhannu'r cyfleusterau:
- Unedau sinc (â bwrdd draenio)
i'w defnyddio gan 1 - 5 person ~ 1 uned sinc
i'w defnyddio gan 6 - 10 person ~ 2 uned sinc (neu sinc powlen ddwbl â bwrdd draenio)
Rhaid i bob uned sinc feddu ar gyflenwad o ddŵr twym ac oer a sblasgefn anhydraidd.
Ar gyfer uchafswm o 6 pherson ~ bydd 1 uned sinc a pheiriant golchi llestri'n dderbyniol.
- Popty (h.y. pentan 4 cylch a phopty)
i'w ddefnyddio gan 1 - 5 person ~ 1 popty maint llawn
i'w ddefnyddio gan 6 pherson ~ 2 bopty maint llawn neu 1 popty gyda phentan 6 chylch yn ogystal â microdon i'w ddefnyddio gan
7 - 10 person ~ 2 bopty maint llawn
(Rhaid bod arwyneb gwaith o leiaf 500mm gyferbyn â phob popty).
- Oergelloedd
i'w defnyddio gan 1 - 4 person ~ 1 oergell safonol dan y cownter
i'w defnyddio gan 5 - 8 person ~ 2 oergell safonol dan y cownter (neu oergell fawr gyfwerth)
i'w defnyddio gan 9 - 12 person ~ 3 oergell safonol dan y cownter
- Rhewgelloedd
I'w darparu yn ogystal â oergelloedd yn yr un gymhareb a maint os nad oes adran rewgell yn yr oergell.
DS ni chaiff blychau iâ eu cyfrif fel adran rewgell.
- Cypyrddau Storio (ar gyfer bwyd ac offer)
1 uned waelod/wal safonol 500mm fesul preswylydd.
DS Ni chaiff cypyrddau o dan unedau sinc eu cyfrif fel cwpwrdd bwyd/offer.
- Arwynebau gwaith (er mwyn paratoi bwyd)
O leiaf 1m x 0.6m - i gynnwys sblasgefn anhydraidd 0.45m o uchder.
DS Rhaid bod arwyneb gwaith o leiaf 500mm gyferbyn â phob popty.
- Socedi Trydanol
Argymhellir darparu o leiaf 3 soced pŵer dwblym mhob cegin gyferbyn ag arwynebau gwaith, yn ogystal â soced y popty.
- Cyfleusterau gwaredu gwastraff
Darparu offer addas yn y gegin ar gyfer gwastraff cegin.
- Ffaniau Echdynnu
Dylent gael eu gosod lle y bo'n briodol a byddant yn hanfodol os nad oes unrhyw awyru naturiol mewn cegin.
- Blancedi a Drysau Tân
I'w gosod yn unol ag Arweiniad Cyfeirio Cyflym LACORS (ar wefan y cyngor) neu fel a nodir mewn atodlenni gwaith sy'n atodedig i Hysbysiad Trwyddedu neu Statudol.
Llety hunangynhwysol
a) Cyfleusterau Cegin
Pan fo cyfleusterau cegin at ddefnydd aelwyd unigol yn unig. h.y. mewn fflat hunangynhwysol neu fflat un ystafell unigol, rhaid darparu'r canlynol:
- Popty maint addas i gynnwys pentan 2 i 4 cylch a phopty neu ficrodon.
- Uned sinc (â bwrdd draenio) â digon o ddŵr twym ac oer cyson.
- Arwyneb gwaith ar gyfer paratoi bwyd, o leiaf 1m x 0.6m DS Rhaid bod arwyneb gwaith o leiaf 500mm gyferbyn â phob popty.
- Oergell safonol o dan y cownter.
- Rhaid darparu rhewgell yn ogystal â'r oergell. DS Byddai un oergell/rhewgell safonol yn bodloni'r gofyniad hwn.
- Cwpwrdd ar gyfer storio bwyd ac offer, uned waelod neu wal safonol o leaif 500mm.
- Socedi trydanol digonol. Argymhellir y dylid darparu o leiaf 2 soced dwbl yn ogystal â soced y popty.
b) Cyfleusterau Ystafell Ymolchi
Pan fo cyfleusterau ystafell ymolchi at ddefnydd aelwyd unigol yn unig h.y. mewn fflatiau hunangynhwysol neu fflatiau un ystafell unigol, rhaid darparu o leiaf y canlynol:
- Toiled
- Baddon neu gawod â digon o ddŵr twym ac oer cyson
- Basn golchi dwylo
Rhaid darparu'r rhain mewn ystafell amgaeedig â chynllun priodol a system awyru da, naill ai
- yn y llety byw, neu
- o fewn agosrwydd rhesymol i'r llety byw.
Gwresogi
Rhaid bod gan bob uned llety byw mewn HMO ffordd ddigonol o wresogi h.y. system y gellir ei rheoli gan y preswylwyr, sydd wedi'i gosod a'i chynnal yn ddiogel ac yn gywir ac sy'n gallu gwresogi'r adeilad cyfan. Rhaid bod preswylwyr yn gallu rheoli'r tymheredd.
Enghraifft: System gwres canolog nwy/olew â rheiddiaduron unigol yn yr eiddo â thermostat canolog (neu ar reiddiaduron unigol) y gall preswylwyr eu rheoli eu hunain, neu wresogyddion storio trydanol â rheolyddion thermostatig unigol.
Rhaid bod yr holl ystafelloedd ymolchi'n cael eu gwresogi a'u hawyru'n ddigonol.
Atodiad B - Ffordd o Ddianc - Rhagofalon Tân Diogelwch Tân Tai - Canllaw Cyflym (Cymru)
Ar y dudalen hon
(Wedi'i baratoi ar y cyd â Phanel Technegol Tai Cymru Gyfan)
Mae'r Canllaw Cyflym hwn yn rhoi crynodeb o'r mesurau diogelwch tân a amlinellir yn "Housing - Fire Safety: Guidance on fire safety provisions for certain types of existing housing" a gyhoeddwyd gan LACORS ym mis Awst 2008.
Mae'r canllaw yn darparu crynodeb byr i swyddogion gorfodi a landlordiaid o'r mesurau diogelwch tân priodol y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer nifer o fathau o eiddo, ac yn ceisio cysondeb o ran rhoi mesurau diogelwch tân ar waith. Fodd bynnag, dylai swyddogion a landlordiaid ymgyfarwyddo â darpariaethau'r arweiniad cenedlaethol, sydd ar gael yn www.lacors.gov.uk.
Cyflwynodd Deddf Tai 2004 System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, sy'n ddull y gellir ei ddefnyddio i asesu cyflwr tai. Mae'n defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar risg a'i nod yw darparu system sy'n dileu risgiau o beryglon i iechyd a diogelwch mewn anheddau neu'n eu lleihau. Rhaid i rai tai hefyd gyflawni safon dderbyniol o ddiogelwch tân o dan ddarpariaethau trwyddedu HMO. Gorfodir y darpariaethau hyn gan gynghorau lleol.
Mewn rhai eiddo, rhaid i landlordiaid gynnal asesiad risg tân o dan ddarpariaethau Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Gorfodir y darpariaethau hyn gan awdurdodau tân ac achub.
Mae arweiniad cenedlaethol LACORS yn argymell y dylid rhoi atebion i ddiogelwch tân sy'n seiliedig ar risg ar waith ar gyfer pob eiddo unigol; felly, ni ddylid ystyried y ddogfen hon yn rhagnodol.
Sylwer bod y testunau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn arweiniad yn unig. Gellir cynnal mesurau diogelwch tân eraill er mwyn cyflawni lefel gyfwerth o ddiogelwch tân. Fodd bynnag, os dilynir argymhellion y Canllaw Cyflym hwn, dylai fod yn bosib cyflawni lefel dderbyniol o ddiogelwch tân mewn eiddo o risg arferol. Efallai bydd angen mesurau ychwanegol mewn eiddo o risg uwch.
Sut i ddefnyddio'r Canllaw Cyflym hwn
Cyflwyniad
- Mae'r wybodaeth a roddir yn y canllaw hwn o ran darparu ffordd ddiogel o ddianc os oes tân yn cyfeirio at y lefel 'ddelfrydol' o fesurau diogelwch tân sy'n ofynnol ar gyfer pob math o eiddo. Yn gyffredinol, bydd 'delfrydol' yn golygu llwybr dianc diogel 30 munud ar gyfer pob HMO.
- Gall fod yn bosib i 'lacio'r' safonau delfrydol hyn mewn amgylchiadau penodol, e.e. lle ystyrir eiddo yn risg isel ar ôl cwblhau asesiad risg System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).
- Sylwer bod enghreifftiau DI, D2, etc, yn y tablau yn y canllaw'n cyfeirio at yr enghreifftiau ym mhrif arweiniad LACORS.
Er mwyn defnyddio'r canllaw, rhaid i chi wybod y canlynol:
- Nifer y lloriau yn yr eiddo
- Y math o feddiannaeth.
- Lefel risg yr eiddo hwnnw.
Yna gellir defnyddio'r tabl priodol yn y canllaw i ddarparu rhestr o'r math o waith sy'n ofynnol ar gyfer math penodol o eiddo.
1. Nifer y lloriau
- Llawr gwaelod + llawr cyntaf = 2 lawr
- Llawr gwaelod + llawr cyntaf + ail lawr = 3 llawr, etc.
DS: Ystyrir tŷ 2 lawr gydag islawr neu atig y gellir byw ynddo/ynddi fel eiddo 3 llawr (4 llawr, os yw'r ddau'n bresennol).
2. Deiliadaeth
Mae 3 phrif math (gweler y diffiniadau llawn ar dudalen 3 gyferbyn).
- HMO a rennir
- HMO 'tebyg' i fflat un ystafell
- HMO fflat un ystafell draddodiadol
DS: Mae tai amlfeddiannaeth a rennir a thai amlfeddiannaeth tebyg i fflat un ystafell yn debyg iawn, gyda mân wahaniaethau o ran math o denantiaeth, drysau y gellir eu cloi, grŵp sengl neu grwpiau unigol/llai.
3. Risg
Asesir hyn gan y swyddog archwilio. 3 math cyffredinol:
- Risg isel
- Risg arferol
- Risg uchel
DS: Mae'r canllaw hwn yn nodi manylion ar gyfer tai amlfeddiannaeth o risg 'arferol'. Bydd y rhan fwyaf o dai amlfeddiannaeth yn y categori hwn. (Rhaid i eiddo risg isel feddu ar yr holl nodweddion a restrir yng ngwaelod tabl Enghraifft D4 ar dudalen 4).
Crynodeb
Pan gaiff y 3 maen prawf eu sefydlu, defnyddiwch adran gywir y canllaw i gael syniad o'r gwaith angenrheidiol.
DS: Fe'ch argymhellir yn gryf i aros am arolygiad HHSRS gan swyddog o'r adran hon cyn ymgymryd â gwaith.
Sylwer - at ddibenion y canllaw hwn, bydd y diffiniadau canlynol yn berthnasol
Deiliadaeth aelwyd sengl - tŷ lle mae un person, pâr di-briod neu deulu yn byw, a lle nad yw'r eiddo yn dŷ amlfeddiannaeth.
Tŷ Amlfeddiannaeth a Rennir - Tŷ Amlfeddiannaeth lle rhentir yr holl eiddo gan grŵp y gellir ei adnabod fel myfyrwyr, cydweithwyr neu ffrindiau, fel cyd-denantiaid. Fel arfer, bydd gan bob preswylydd ei ystafell wely ei hun, ond bydd yn rhannu cegin, cyfleusterau bwyta, ystafell ymolchi, toiled, ystafell fyw a holl rannau eraill y tŷ. Bydd un cytundeb tenantiaeth. Bydd gan y grŵp yr un nodweddion ag aelwyd un teulu, ond bydd yn HMO, yn dechnegol, gan nad yw'r preswylwyr yn perthyn i'w gilydd.
HMO tebyg i fflat un ystafell (gyda chyfleusterau coginio a rennir) - adeilad sydd wedi'i rannu'n unedau gosod neu ystafelloedd gwely (un ystafell yn unig fel arfer) ar wahân a'i osod i unigolion nad oes cysylltiad rhyngddynt neu sawl grŵp bach. Fel arfer, rhennir ceginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau.
HMO fflat draddodiadol un ystafell (gyda chyfleusterau coginio unigol) - adeilad sydd wedi'i rannu'n unedau gosod neu ystafelloedd gwely (un ystafell yn unig fel arfer) ar wahân a'i osod i unigolion nad oes cysylltiad rhyngddynt. Gall pob uned neu ystafell wely gynnwys cyfleusterau coginio ond rhennir ystafelloedd ymolchi a thoiledau.
Deiliadaeth aelwyd sengl 2 lawr (enghraifft D1)
- Nid yw llwybr diogel yn ofyniad, ond dylai adeiladwaith y llwybr dianc fod yn gadarn ac yn gonfensiynol, ac ni ddylai fynd trwy ystafelloedd risg.
- Lle bo'r ffordd o ddianc yn mynd trwy ystafell risg, gellir ystyried defnyddio ffenestri dianc i ystafelloedd y gellir byw ynddynt.
- Lle mae safonau adeiladu'n wael, mae pellteroedd teithio'n hir, neu mae ffactorau risg uchel eraill yn bresennol, efallai y bydd angen llwybr diogel 30 munud.
- Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
- Blanced dân yn y gegin.
- System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc yn ogystal â'r seler/islawr).
Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.
Deiliadaeth aelwyd sengl 3/4 llawr (enghraifft D2)
- Nid yw llwybr diogel yn ofyniad, ond dylai adeiladwaith y llwybr dianc fod yn gadarn ac yn gonfensiynol, ac ni ddylai fynd trwy ystafelloedd risg.
- Lle mae safonau adeiladu'n wael, mae pellteroedd teithio'n hir, neu mae ffactorau risg uchel eraill yn bresennol, efallai y bydd angen llwybr diogel 30 munud.
- Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
- Blanced dân yn y gegin.
- System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc yn ogystal â'r seler/islawr).
Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.
HMO 2 lawr a rennir (enghraifft D4)
1. Safon ddelfrydol (ar gyfer eiddo risg arferol)
(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30 (dim seliau mwg)
(b) Dylai waliau/nenfydau rhwng unedau llety fod o adeiladwaith cadarn, traddodiadol.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws) NEU dderbyn adeiladwaith traddodiadol cadarn mewn cyflwr da.
2 Lawr + islawr/atig y gellir byw ynddo/ynddi - dylid trin yr eiddo fel tŷ 3 llawr a rennir.
(d) Argymhellir cael diffoddiadur 6 litr neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg AFFF amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc.
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD3 Gradd D (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc, yn ogystal â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres sy'n cysylltu â'r gegin.
NEU
2. Mewn tai risg isel a rennir (gweler isod)
- Drysau cadarn, tynn A/NEU ffenestri dianc i ystafelloedd sy'n arwain at lwybr dianc. Dylai waliau/nenfydau ar y llwybr dianc fod o adeiladwaith cadarn, traddodiadol.
- Drws tân ychwanegol (FD30) ar y drws olaf rhwng y gegin a'r llwybr dianc.
- Manylion fel yn (b) ac (f) uchod.
DS. Mae gan eiddo risg 'isel' y nodweddion canlynol:
- Lefel isel o ddeiliadaeth - i gyd yn abl yn gorfforol;
- Tân yn annhebygol o ddigwydd a deunyddiau llosgadwy/ fflamadwy'n brin;
- Tân yn annhebygol o ymledu drwy'r eiddo. Canfod cyflym er mwyn caniatáu i breswylwyr ddianc
- Mwy nag un ffordd o ddianc sy'n dderbyniol.
Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.
HMO 2 lawr tebyg i fflat un ystafell (gyda chyfleusterau coginio a rennir) (enghraifft D7)
Tai 'tebyg i fflatiau un ystafell' - ystafelloedd unigol gyda chyfleusterau coginio a rennir (e.e. lle na ddefnyddir eiddo gan un grŵp, mae contractau unigol, cloeon ar ddrysau, etc).
(a) Naill ai - llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S neu - mewn eiddo risg isel, drysau tynn, cadarn a ffenestri dianc.
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) Larwm LD2 Gradd 2 - larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres ym mhob cegin a rennir YNGHYD Â larymau Gradd D cysylltiedig ym mhob ystafell wely.
GALL Gorchymyn Diogelwch Tân fod yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
Fflat un ystafell draddodiadol 2 lawr (cyfleusterau coginio mewn ystafelloedd gwely) (enghraifft D7)
Fflatiau un ystafell traddodiadol - y rhai gyda chyfleusterau coginio ym mhob ystafell wely/uned lety.
(a) Naill ai - llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S.
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) (d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm gymysg. Gradd D, system LD2 gyda larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc a'r islawr/seler gyda larymau gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell YNGHYD Â larwm mwg gyda gwifrau at y prif gyflenwad nad yw'n cysylltu â phob fflat un ystafell.
Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
HMO 3/4 llawr a rennir (enghraifft D5)
Safon ddelfrydol (ar gyfer eiddo risg arferol)
(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30 (dim seliau mwg)
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws).
(d) Argymhellir cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc.
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System Larwm D LD3 (sef larymau mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a larwm gwres i'r gegin.
(g) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.
Nid yw Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r math hwn o eiddo.
Fflat un ystafell draddodiadol 3 llawr (cyfleusterau coginio mewn ystafelloedd gwely) (example D8)
(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a synhwyrydd gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell gyda chyfleusterau coginio. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely.
(g) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt yn gysylltiedig ym MHOB fflat un ystafell.
Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
Fflat un ystafell draddodiadol 3 llawr (enghraifft D8)
(a) Llwybr diogel 30 munud gyda drysau tân FD30S
(b) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng unedau llety.
(c) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(d) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(e) Blanced dân yn y gegin.
(f) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc ynghyd â'r lolfa a'r seler/islawr, a synhwyrydd gwres sy'n cysylltu â phob fflat un ystafell gyda chyfleusterau coginio. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely
YNGHYD Â
(g) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt yn gysylltiedig ym MHOB fflat un ystafell.
Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
Tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol - 2 lawr (enghraifft D10)
(a) Llwybr dianc cyffredin diogel gyda drysau tân FD30S (gyda seliau mwg), sef drysau mynediad i fflatiau
(b) O fewn fflatiau unigol - drysau cadarn, tynn sydd wedi'u hadeiladu'n dda.
(c) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng pob fflat.
(d) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(e) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc cyffredin (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(f) Blanced dân yn y gegin.
(g) System larwm LD2 Gradd D - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc cyffredin ynghyd â synhwyrydd gwers yng nghyntedd pob fflat
YNGHYD Â
(h) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt gysylltiedig yng nghyntedd pob fflat.
(i) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.
Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
Tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol - 3/4 llawr (enghraifft D11)
(a) Llwybr dianc cyffredin diogel gyda drysau tân FD30S (gyda seliau mwg), sef drysau mynediad i fflatiau
(b) O fewn fflatiau unigol - drysau cadarn, tynn sydd wedi'u hadeiladu'n dda.
(c) Bwlch o 30 munud i'r waliau/nenfydau rhwng pob fflat.
(d) Bwlch o 30 munud i'r seler/islawr (gan gynnwys y drws)
(e) Rhaid cael diffoddiadur 6 litr AFFF neu ddiffoddiadur powdr sych 1.5kg amlbwrpas ar bob llawr y llwybr dianc cyffredin (yn amodol ar asesiad risg o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân).
(f) Blanced dân yn y gegin.
(g) System larwm LD2 Gradd A - synwyryddion mwg sy'n cysylltu â'r llwybr dianc cyffredin ynghyd â synhwyrydd gwers yng nghyntedd pob fflat. I gynnwys panel rheoli, pwyntiau galw a 75db o leiaf wrth ben y gwely
YNGHYD Â
(h) Synwyryddion mwg Gradd D nad ydynt gysylltiedig yng nghyntedd pob fflat.
(i) Nid oes angen goleuadau argyfwng neu arwyddion, oni bai bod y llwybr dianc yn gymhleth.
Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i'r mathau hyn o eiddo.
Nodyn ar ddiffoddiaduron tân a systemau larwm
Mewn tai a rennir, argymhellir cael diffoddiadur tân amlbwrpas (1.5kg powdr sych neu AFFF 6 litr) ar bob llawr y llwybr dianc.
Ym mhob tŷ amlfeddiannaeth lle bo'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol, gan gynnwys tai sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol a fflatiau un ystafell, mae diffoddiaduron amlbwrpas (fel uchod) yn ofynnol oni bai bod y landlord yn gallu dangos drwy asesiad risg y gellir sicrhau lefel dderbyniol o ddiogelwch heb ddarparu diffoddiaduron.
LD3 - System sy'n cynnwys synwyryddion mewn mannau cerdded (e.e. cynteddau) sy'n ffurfio rhan o'r llwybr dianc o'r annedd yn unig.
LD2 - System sy'n cynnwys synwyryddion mewn mannau cerdded sy'n ffurfio rhan o'r llwybr dianc, ac ym mhob ystafell lle bo risg uchel o dân i breswylwyr.
Gradd D - System o un larwm mwg/gwres, neu fwy, a gaiff ei bweru gan y prif gyflenwad, gyda chyflenwad batri wrth gefn. Nid oes panel rheoli.
Gradd A - System o synwyryddion mwg/gwres a gaiff eu pweru gan y prif gyflenwad, sy'n cysylltu â phanel rheoli er mwyn rhoi gwybodaeth am leoliad y tân neu unrhyw nam. Yn gyffredinol, rhaid i'r system gynnwys pwyntiau galw gyda llaw, a dylent fod ar bob llawr ac mewn mannau gadael terfynol.
Atodiad C - Meini Prawf Person Addas a Phriodol
Cyn y gall y cyngor roi Trwydded, mae'n rhaid iddo benderfynu a yw deiliad y drwydded neu reolwr arfaethedig y tŷ'n addas ac yn briodol.
At y diben hwn, mae'r materion canlynol yn berthnasol os yw'r fath berson:
(a) wedi cyflawni trosedd sy'n cynnwys twyll, anonestrwydd, trais, cyffuriau neu droseddau rhywiol a restrir yn Atodlen 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003;
(b) wedi gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail rhyw, lliw, hil, lleiafrif ethnig, neu darddiad cenedlaethol neu anabledd mewn cysylltiad â busnes, neu
(c) wedi torri unrhyw gyfraith sy'n ymwneud â thai neu gyfraith landlord a thenant, neu
(d) wedi torri unrhyw Gôd Ymarfer Cymeradwy a wnaed o dan Ddeddf Tai 2004.
Atodiad D - Amodau trwyddedu tŷ amlfeddiannaeth
Eiddo
Mae'r amodau hyn yn orfodol ac fe'u gosodir gan Gyngor Abertawe ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO) sy'n destun cynllun trwyddedu o fewn cwmpas rhan 2 Deddf Tai 2004. Mae gan y Cyngor y disgresiwn i roi amodau trwydded eraill ar waith mewn achosion priodol.
Gosodir yr amodau hyn o dan Bolisi Trwyddedu HMO y Cyngor 2025.
Pan gyfeirir at y Cyngor, yr ystyr fydd Cyngor Abertawe.
Nifer y bobl a ganiateir i ddefnyddio'r eiddo
1. Ni ddylai nifer y bobl sy'n byw yn yr eiddo fod yn fwy na'r uchafswm nifer a nodir ar y drwydded.
2. Lle bo'r niferoedd yn fwy na'r lefel a ganiateir gan y drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded gymryd y camau cyfreithiol priodol i leihau'r niferoedd cyn gynted ag y bo modd.
3. Ni ddylid newid y modd y defnyddir pob ystafell, na'r lefel, heb ganiatâd y Cyngor.
Newidiadau i'r eiddo, trefniadau rheoli neu ddeiliad y drwydded
4. Ni ddylid gwneud gwaith addasu ar yr eiddo a all effeithio ar amodau'r drwydded heb hysbysu'r Cyngor ymlaen llaw.
5. Rhaid hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid mewn amgylchiadau deiliad y drwydded, y rheolwr neu unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r eiddo ei hun, neu'n ymwneud â'i reoli, o fewn 14 niwrnod i'r newid ddigwydd. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw newid o ran manylion cyswllt neu werthiant yr eiddo.
6. Os oes unrhyw newidiadau arfaethedig yn golygu na fydd yr eiddo'n addas bellach i'w ddefnyddio fel HMO, nad yw'r trefniadau rheoli bellach yn foddhaol neu nad yw deiliad trwydded neu unrhyw reolwr bellach yn cael eu hystyried yn bobl addas a phriodol, gall y Cyngor amrywio neu ddirymu'r drwydded.
Trefniadau gosod
7. Bydd deiliad y drwydded yn rhoi datganiad ysgrifenedig i holl feddianwyr y tŷ ynghylch amodau eu deiliadaeth.
8. Bydd deiliad y drwydded yn darparu'r canlynol i bob preswylydd newydd ar ddechrau ei ddeiliadaeth:
a) Gwybodaeth ysgrifenedig am drefniadau ailgylchu a storio gwastraff (y tu mewn a thu allan i'r eiddo), trefniadau casglu a gwaredu gwastraff, gan gynnwys sut i gael sachau ailgylchu (rhaid arddangos canllaw'r Cyngor ar ailgylchu a gwaredu gwastraff y tu mewn i'r eiddo);
b) Gwybodaeth ysgrifenedig am y gweithdrefnau dianc o'r adeilad os oes tân, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddeall y larwm, pwysigrwydd drysau tân a diogelu'r llwybr dianc, sicrhau nad oes rhwystrau ar y llwybr dianc, a sut i ddefnyddio'r cyfarpar ymladd tân a ddarperir yn gywir. Bydd deiliaid y drwydded yn sicrhau bod yr holl feddianwyr hollol ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chamrybuddion tân;
c) Manylion ysgrifenedig y trefniadau sydd ar waith i ymdrin â gwaith atgyweirio a sefyllfaoedd argyfwng yn yr eiddo, neu mewn cysylltiad ag ef. Dylai hyn gynnwys enwau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost lle bo modd;
ch) Gwybodaeth ysgrifenedig am ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y'i hamlinellir yn amod 29 y drwydded hon.
9. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod pob preswylydd yn llofnodi'r Datganiad o Ddealltwriaeth ar ôl derbyn yr wybodaeth uchod. Mae'n rhaid cyflwyno copi o'r datganiad wedi'i lofnodi ar gais gan y Cyngor.
Cyflwr yr eiddo
10. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gyflawni'r gwaith yn yr atodlen atodedig o fewn y cyfnodau penodedig a nodir.
11. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gadw adeiledd ac adeiladwaith y tŷ mewn cyflwr da.
12. Mae'n rhaid cadw ymddangosiad allanol y tŷ mewn cyflwr addurnol da. Rhaid i holl waliau allanol y tŷ a baentiwyd gael eu paentio o leiaf unwaith yn ystod cyfnod y drwydded ac yn amlach os bydd angen iddynt gydymffurfio.
13. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodion, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir i'w defnyddio gan y meddianwyr yn gweithio'n iawn ac yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, diogel a threfn gweithio lawn.
14. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau y datrysir pob problem sy'n gysylltiedig â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw adeiladwaith yr adeilad, offer, cyfarpar neu gelfi, o fewn cyfnod sy'n briodol i frys y broblem ar ôl i'r meddianwyr, y Cyngor, asiant gosod neu reoli neu ymwelwyr â'r eiddo ei hysbysu amdani.
15. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr eiddo'n cydymffurfio â safonau lleoedd gwag mabwysiedig y Cyngor.
16. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr eiddo'n bodloni safonau amwynderau mabwysiedig y Cyngor, gan ystyried uchafswm nifer y meddianwyr a ddatgenir ar y drwydded. Cynhelir yr holl amwynderau, cyfleusterau a chyfarpar hynny fel eu bod yn gweithio'n dda.
17. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod gwresogi gwagle digonol yn cael ei ddarparu a'i gynnal ym mhob uned llety byw.
18. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod yr eiddo'n cyrraedd lleiafswm perfformiad gradd ynni E oni bai fod yr eiddo wedi'i eithrio yn unol â'r meini prawf a bennir yn Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015. Darperir copi o'r Dystysgrif Perfformiad Ynni i'r Cyngor ar gais.
19. Mae'n rhaid inswleiddio lleoedd gwag mewn toeon/croglofftydd, caeadau croglofftydd a thanciau dŵr poeth i'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu cyfredol fel y'u nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.
Rhagofalon tân
20. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau y darperir ffyrdd priodol o ddianc, cyfleusterau rhagofalon tân a chyfarpar yn yr eiddo yn unol â safon fabwysiedig y Cyngor. Bydd deiliad y drwydded yn darparu datganiad ar gais gan y Cyngor ynghylch dyluniad, gosodiad a chyflwr y system larwm a chanfod tân, gan gynnwys y system atal tân os oes un wedi'i gosod.
21. Bydd y deliad trwydded yn sicrhau bod y system larwm a chanfod tân, gan gynnwys y system atal tân os oes un wedi'i gosod, a'r diffoddiaduron tân a ddarperir yn yr eiddo mewn cyflwr da a bod y system larwm, gan gynnwys seinwyr, synwyryddion mwg a'r system atal tân, os oes un wedi'i gosod, yn cael eu profi ar gyfnodau priodol yn unol â chyfarwyddiadau'r gosodwr/gwneuthurwr. Rhaid datrys unrhyw ddiffygion ar unwaith, a chadw cofnod ysgrifenedig o brofi a chynnal a chadw'r larwm a'r system atal tân, os oes un wedi'i gosod. Dylid cynnal a chadw'r larwm tân, a'r system atal tân os oes un wedi'i gosod, yn unol â Safonau BS 5839 Rhan 6. Dylid cynnal a chadw'r offer diffodd tân bob blwyddyn, ac yn unol ag argymhellion y gosodwr a'r gwneuthurwr. Rhaid i'r holl gofnodion fod ar gael i'w harolygu ar gais gan y cyngor.
22. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod trefniadau ar waith i sicrhau bod person priodol ar gael i fynd i'r eiddo ar unrhyw adeg os oes galwad tân diangen, er mwyn ailosod y system larwm tân yn gywir. Rhaid darparu manylion i'r Cyngor.
23. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y profir y system larwm tân gan gontractwr priodol a chymwys ar ôl pob tân a galwad tân diangen er mwyn sicrhau yr ailosodir y system yn gywir. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y dywedir wrth y Cyngor am dân yn yr eiddo o fewn 24 awr i ddeiliad y drwydded neu gynrychiolydd enwebedig ddod yn ymwybodol o'r tân.
Nwy, Trydan, Carbon Monocsid a Chelfi
24. Os cyflenwir nwy i'r tŷ, bydd deiliad y drwydded yn cyflwyno tystysgrif diogelwch nwy a roddwyd i'r eiddo o fewn y 12 mis diwethaf i'r Cyngor. Ceir y dystysgrif gan gontractwr sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestr Diogelwch Nwy; bydd yn cynnwys pob gosodyn, offeryn a ffliw nwy a ddarperir gan ddeiliad y drwydded o fewn yr eiddo.
25. Bydd deiliad y drwydded yn cadw'r holl gyfarpar trydanol y mae'n ei ddarparu yn yr eiddo mewn cyflwr diogel. Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno datganiad ganddo o ran diogelwch y fath gyfarpar i'r Cyngor ar gais.
26. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr adroddiad cyflwr gosodiadau trydanol ar gyfer yr eiddo yn cael ei adnewyddu bob pum mlynedd o leiaf. Mae'r holl waith Cod 1 a 2 a restrir yn yr adrannau Diffygion ac Awgrymiadau i'w cwblhau. Rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu'r adroddiad i'r Cyngor ar gais.
27. Bob tro y bydd y cylchedau a'r/neu'r gwaith gosod trydanol yn cael eu newid mewn unrhyw ffordd, rhaid i ddeiliad y drwydded ddangos tystysgrif ychwanegol gan drydanwr cymwys i'r Cyngor yn cadarnhau cyflwr boddhaol y cylchedau a'r/neu'r gosodiadau trydanol.
28. Ni ddylid cyflenwi gosodiadau trydanol sy'n darparu pŵer i'r larymau tân neu'r systemau goleuadau argyfwng trwy fesuryddion tocyn na thrwy gyflenwad mesurydd unrhyw ddeiliad.
29. Mae'n rhaid darparu larwm carbon monocsid (CO) sy'n gweithio mewn unrhyw ystafell sy'n cynnwys peiriant sy'n llosgi, neu sy'n gallu llosgi tanwydd solet, nwy o'r prif gyflenwad neu LPG (nwy petrolewm hylifedig).
30. Dylai deiliad y drwydded ddarparu celfi i'r eiddo sy'n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau Dodrefnu (Diogelwch Tân) 1988 (fel y'i diwygiwyd) yn unig. Dylid cadw pob celficyn o'r fath mewn cyflwr diogel ac mewn cyflwr da. Rhaid i ddeiliad y drwydded roi datganiad i'r perwyl hwn i'r Cyngor ar gais.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chydlyniant Cymdogaeth
31. Bydd deiliad y drwydded yn cymryd pob cam rhesymol ac ymarferol i atal neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan feddianwyr neu ymwelwyr â'r eiddo. Bydd hyn yn cynnwys:
a) Nodi ystyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ysgrifenedig ar gyfer pob preswylydd;
b) Esbonio effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bobl eraill yn yr ardal;
c) Cofnodi manylion pob cwyn a dderbynnir yn uniongyrchol am ymddygiad gwrthgymdeithasol;
ch) Defnyddio cosbau priodol dan y contract meddiannaeth lle bo angen.
32. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod yr eiddo'n cael ei archwilio'n rheolaidd i asesu a oes tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddeiliaid yn gwrthod cydymffurfio â Rheoliadau Rheoli HMO perthnasol. Dylai hyn fod o leiaf bob chwarter, ond yn amlach os ceir cadarnhad o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu os oes cwynion wedi'u derbyn. Dylid cadw cofnodion o archwiliadau o'r fath ac unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd.
33. Bydd deiliad y drwydded yn darparu enwau'r meddianwyr presennol ar gais i'r Cyngor ac yn cydweithredu â'r Cyngor er mwyn dileu problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau sy'n effeithio ar gymdogion. Ar gais, bydd deiliad y drwydded yn dangos ei fod wedi cymryd camau rhesymol ac ymarferol i reoli'r broblem, gan gynnwys tystiolaeth o'r rhybuddion llafar neu ysgrifenedig y maent wedi'u rhoi.
34. Pan fo gan ddeiliad y drwydded reswm i gredu bod gweithgaredd troseddol yn digwydd yn yr eiddo, rhaid iddo sicrhau bod yr awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu.
Trefniadau gwastraff
35. Bydd y deiliad trwydded yn darparu bin gwastraff cyffredinol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, bin ailgylchu ar gyfer papur, bin ailgylchu ar gyfer gwydr a thuniau, bin ailgylchu ar gyfer plastigion caled a blwch 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd y gellir ei gadw y tu allan a blwch gwastraff bwyd i'w gadw yn y gegin. Rhaid darparu cyflenwad pedair wythnos cychwynnol o'r holl sachau du ac ailgylchu perthnasol i holl feddianwyr newydd eiddo, ynghyd â manylion clir ynghylch y gofynion a'r casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Abertawe.
36. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y darperir digon o gyfleusterau storio allanol addas sy'n ddiogel rhag plâu ar gyfer gwastraff cartref ac ailgylchu sy'n aros i gael eu gwaredu. Lle bo'n rhesymol ymarferol, dylai'r rhain fod yn agos i'r man casglu ar y stryd ac os yw hwn o flaen yr eiddo, dylid eu hamgáu mewn modd addas. Rhaid darparu cyfleusterau'n unol â'r gofynion storio gofynnol a nodir yn y tabl isod.
Nifer y preswylwyr | Gwastraff na ellir ei ailgylchu | Ailgylchu | Blwch gwastraff bwyd |
---|---|---|---|
1-5 | 1 x 240 litr | 1 x 23 litr | |
6-8 | 1 x240 litr | 1 x 240 litr | 2 x 23 litr |
9-10 | 1 x 240 litr | 2 x 240 litr | 2 x 23 litr |
11+ | Dylid cael cyngor penodol er mwyn pennu gofynion |
37. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod y meddianwyr yn ymwybodol o'u dyletswyddau o ran glendid gerddi, iardiau a chyrtiau blaen.
38. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar feddianwyr, cymdogion a'r gymuned ehangach pan gyflawnir unrhyw waith adeiladu, gwaith gwella a gwaith cynnal a chadw cyffredinol; lle bo modd, ni ddylai unrhyw wastraff sy'n deillio o waith adeiladu neu wella ar yr eiddo gronni yng nghwrtil yr eiddo neu'n agos ato. Pan na ellir osgoi'r fath groniadau, ceir gwared arnynt cyn gynted ag y bydd yn ymarferol bosib, i gyfleuster gwaredu gwastraff trwyddedig.
39. Ni chaniateir i unrhyw wastraff arall, fel hen gelfi neu offer, gronni yng nghwrtil yr eiddo. Os trefnir i gael gwared ar y fath eitemau, dylid eu gosod o flaen yr eiddo'n unig ar y dyddiad casglu.
40. Bydd deiliad y drwydded yn cael gwared ar unrhyw wastraff a adewir gan feddianwyr sy'n gadael yr eiddo cyn gynted â phosib a chyn i feddianwyr newydd ddefnyddio'r eiddo.
41. Caiff y gerddi, y cyrtiau blaen a'r waliau/ffensys terfyn eu cadw'n glir o ordyfiant, sbwriel neu groniadau eraill a'u cynnal mewn cyflwr glân a thaclus.
Cyffredinol
42. Caiff copi o'r drwydded sydd mewn grym ar hyn o bryd o ran yr eiddo ei arddangos yn glir mewn safle amlwg yn yr eiddo.
43. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y cyflwynir manylion ysgrifenedig y trefniadau sydd ar waith i ymdrin â sefyllfaoedd argyfwng yn yr eiddo, neu mewn cysylltiad ag ef, i feddianwyr eiddo cyfagos. Dylai hyn gynnwys enwau a rhifau ffôn.
44. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau, hyd eithaf ei wybodaeth, fod unrhyw un sy'n rhan o reoli'r eiddo yn 'berson addas a phriodol' at ddibenion Deddf Tai 2004 ac yn meddu ar y drwydded Rhentu Doeth Cymru briodol.
45. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â rheoli'r eiddo'n hollol ymwybodol o'r amodau trwydded hyn ac o'r graddau y bydd ei gysylltiad â'r eiddo'n caniatáu i ddeiliad y drwydded gydymffurfio â'r amodau hyn.
46. Bydd deiliad y drwydded yn mynd ar unrhyw gwrs datblygiad proffesiynol a/neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r codau ymarfer cymeradwy y bydd y Cyngor yn eu darparu neu'n eu cydnabod yn ystod cyfnod y drwydded.
47. Bydd deiliad y drwydded yn cadw unrhyw gofnodion a thystysgrifau y cyfeirir atynt yn yr amodau trwyddedu hyn am hyd cyfan y drwydded a rhaid eu cyflwyno i'r Cyngor ar gais.
Cyfyngiadau'r Drwydded
Trosglwyddo trwydded - Niellir trosglwyddo'r drwydded i berson, sefydliad neu eiddo arall.
Cwmnïau Cofrestredig - Os yw deiliad y drwydded yn gwmni cofrestredig ac yn cael ei ddiddymu yn ystod y cyfnod y mae'r drwydded yn weithredol, ni fydd y drwydded mewn grym o ddyddiad diddymu'r cwmni.
Marwolaeth deiliad y drwydded- Os yw deiliad y drwydded yn marw yn ystod y cyfnod y mae'r drwydded yn weithredol, ni fydd y drwydded mewn grym o ddyddiad ei farwolaeth.
Cyflwr eiddo - Nid yw'r drwydded hon yn brawf nac yn dystiolaeth bod y tŷ yn ddiogel ac yn rhydd o beryglon a diffygion. Nid yw'r drwydded yn rhwystro camau cyfreithiol troseddol neu sifil rhag cael eu cymryd yn erbyn deiliad y drwydded, nac unrhyw un arall sydd â budd yn yr eiddo, os canfyddir unrhyw beryglon neu niwsans neu unrhyw broblemau eraill mewn perthynas â chyflwr yr eiddo.
Rheoli Adeiladau - Nid yw'r drwydded hon yn rhoi unrhyw gymeradwyaethau, caniatâd na chaniatâd Rheoli Adeiladu, yn ôl-weithredol neu fel arall. Nid yw'r drwydded hon yn cynnig unrhyw amddiffyniad nac esgus yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan yr Is-adran Rheoli Adeiladu.
Caniatâd Cynllunio - Nidyw'r drwydded hon yn rhoi unrhyw gymeradwyaethau na chaniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 nac unrhyw ddeddfwriaeth gynllunio gysylltiedig, yn ôl-weithredol neu fel arall. Dylech wirio bod y caniatâd cynllunio cywir ar waith. Nid yw'r drwydded hon yn cynnig unrhyw amddiffyniad nac esgus yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan Swyddogion Gorfodi Cynllunio. Os ydych yn ansicr ynghylch y materion a amlinellir uchod, dylech ofyn am gyngor cynllunio proffesiynol.
Sylwer- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych unrhyw ganiatâd angenrheidiol arall i alluogi defnyddio'r eiddo fel tŷ amlfeddiannaeth. Nid yw cyflwyno trwydded yn trechu unrhyw ddarpariaethau cyfreithiol preifat neu gyhoeddus eraill yn hyn o beth.