Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiadau cyfreithiol a chyhoeddus

Is-ddeddfau

Caiff is-ddeddfau eu creu gan y cyngor i ymdrin yn effeithiol â materion o fewn ei ardal.

Gorchmynion rheoleiddio traffig

Hysbysiadau statudol cyfredol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o gynigion a gorchmynion a wnaed gan Ddinas a Sir Abertawe.

Hysbysiad o geisiadau am eiddo newydd ac amrywiadau

Mae ceisiadau newydd am drwyddedau mangre ac amrywiadau i drwyddedau presennol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 wedi'u rhestru isod. Bydd yr hysbysiadau hyn yn aros yma am y cyfnod cyflwyno sylwadau o 28 niwrnod.

Hysbysiad o gais i roi caniatâd seremonïau dinesig i eiddo

Mae'n rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r cais gyda chyfnod o dair wythnos ar gyfer gwrthwynebiadau. Bydd hysbysiadau'n cael eu harddangos ar y we-dudalen hon.

Tystysgrifau diogelwch ar gyfer meysydd chwaraeon

Mae Rheoli Adeiladu Abertawe'n ymdrin â thystysgrifau cyffredinol ac arbenigol ar gyfer stadia chwaraeon dynodedig yn yr ardal.

Hysbysiadau cofrestru tir comin

Ceisiadau a dderbynnir ar gyfer ychwanegiadau i'r gofrestr tir comin.

Datganiad o gyfrifon

Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).

Hysbyseb o waredu rhan o fan agored - Tir sy'n ffinio â Bwlch Road, Casllwchwr

Hysbysir trwy hyn fod Dinas a Sir Abertawe, fel perchennog y parsel o dir a ddisgrifir isod sy'n cael ei ddal a'i gynnal fel tir cyhoeddus agored, yn cynnig gwaredu'r tir dan sylw i berchennog/berchnogion yr eiddo cyffiniol gyda'r bwriad o gynnwys y parsel o dir yn yr eiddo a'i ddefnyddio fel tir gardd.