Cau llwybrau troed dros dro
Cau llwybrau troed dros dro ar gyfer gwaith ffordd neu er mwyn osgoi perygl i'r cyhoedd.
Cais i gau llwybr dros dro Cais i gau llwybr dros dro
| Dyddiad dechrau a hyd | Disgrifiad | Llwybr troed yr effeithir arni | Hysbysiad |
|---|---|---|---|
| Dydd Gwener 17 Hydref 2025 | Am gyfnod o 21 diwrnod (neu nes bod y gwaith wedi'i gwblhau, pa un bynnag sydd gyntaf - rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd 21 i'w gwblhau). | Hysbysiad - llwybr troed rhwng Whitestone Avenue a Caswell Bay Road Er mwyn i Wales and West Utilities allu ymgymryd â gwaith ailosod prif gyflenwad nwy yn y lleoliad uchod, bu'n angenrheidiol cau'r ffordd uchod dros dro i draffig cerbydau. | Hysbysiad a chynllun - Whitestone Avenue a Caswell Bay Road (Word doc, 437 KB) |
| Dydd Llun 6 Hydref 2025 | Am gyfnod o 11 wythnos, neu os bydd y gwaith wedi'i gwblhau'n gynt na hynny, hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau. | Hysbysiad - Llwybr yr Arfordir (a llwybrau mynediad) rhwng Limeslade a Rotherslade (MU2)
Rhaid cau'r llwybr hwn am resymau iechyd a diogelwch wrth i'r gwaith gael ei gyflawni i wneud gwelliannau i arwyneb llwybr yr arfordir. | Llwybr yr Arfordir rhwng Limeslade a Rotherslade (MU2) - hysbysiad (Word doc, 43 KB) |
| Dydd Llun 15 Medi 2025 | Am gyfnod o 4 mis neu lai, os caiff y gwaith ei gwblhau'n gynharach. | Hysbysiad - Clydach (llwybr halio'r gamlas / llwybr troed 42) Llwybr halio'r gamlas o'i gyffordd â'r Llwybr Teithio Llesol ar ffin orllewinol y gwaith (tua'r de o rif 31 Y Stryd Fawr), tua'r dwyrain am 500 metr i Ynyspenllwch Road, ac yna ar draws y ffordd am 80 metr arall. Rhaid cau'r llwybr er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a charthu'r gamlas. | Cau llwybr troed dros dro - Clydach (llwybr halio’r gamlas / llwybr troed 42) - hysbysiad (Word doc, 79 KB) |
