Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Rwyf wedi derbyn rhybudd terfynol Treth y Cyngor

Os ydych wedi cael hysbysiad terfynol, peidiwch â'i anwybyddu.

Talwch Dreth y Cyngor nawr Talwch e'

Pam ydw i wedi cael hysbysiad terfynol?

Nid ydych wedi talu treth y cyngor yn unol â'r rhandaliadau a nodwyd ar eich bil diweddaraf. Mae'n golygu nad oes gennych yr hawl bellach i dalu mewn rhandaliadau ac mae'r cyfanswm ar eich cyfrif bellach yn ddyledus.

Erbyn pryd mae'n rhaid i mi dalu?

Mae'n rhaid i'r swm y mae'ch hysbysiad yn dweud ei fod yn orddyledus gael ei dalu'n llawn o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y llythyr neu caiff gwŷs llys ei hanfon atoch. Bydd hyn yn golygu £70 o gostau llys a gaiff eu hychwanegu at yr hyn sydd eisoes gennych i'w dalu.

Ewch i'n tudalen taliadau ar-lein i wneud taliad llawn neu, os na allwch dalu'n llawn, cysylltwch â ni i drafod eich dyledion a gweld sut gallwn helpu.

Dwi eisoes wedi talu

Os ydych eisoes wedi talu'r cyfanswm, cysylltwch â ni ar unwaith gan ei bod yn bosibl nad ydym wedi cael y taliad.

Ni allaf dalu

Os na allwch dalu, cysylltwch â ni i weld sut gallwn helpu. Er eich bod wedi colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau, os ydych yn talu'ch rhandaliadau dyledus ac yn cytuno i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, efallai y byddwn yn caniatáu i chi dalu mewn rhandaliadau unwaith eto.

Beth sy'n digwydd os na thalaf?

Bydd methu gwneud yr un o'r uchod yn arwain at y cyngor yn gwneud cais i'r lys yr ynadon am wŷs ar gyfer diffyg taliad ac, yn y pen draw, gallai arwain at ddefnyddio beilïod i gasglu treth y cyngor sy'n ddyledus. Mae hyn yn debygol o effeithio ar eich gallu i gael credyd neu wasanaethau eraill.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2024