Cadw'n iach trwy gerdded
Beth am ymuno ag un o'n teithiau cerdded rheolaidd dan arweiniad hyfforddwr?
Gall fod yn anodd pan sylweddolwch fod angen i chi ddechrau ymarfer corff yn fwy, p'un a ydych wedi cael braw iechyd, yn dod dros salwch neu wedi sylweddoli nad ydych mor heini ag roeddech yn arfer bod.
Gall fod yn anodd dechrau a chael yr ysgogiad y mae ei angen arnoch. Efallai nad ydych yn siŵr lle hoffech gerdded neu efallai mae angen i chi fagu hyder.
Mae'n hysbys bod cerdded yn un o'r gweithgareddau gorau: mae am ddim, yn hygyrch i bawb ac yn rhoi'r cyfle i chi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
Mae'n un o'r ffyrdd hawsaf i blant gyflawni'r 60 munud o weithgarwch corfforol a amgymhellir bob dydd er mwyn i'w calon guro'n gyflymach nag arfer. Bydd y 60 munud o weithgarwch bob dydd yn eu helpu i ddefnyddio'u hegni ac atal braster gormodol rhag cael ei storio yn y corff. Mae hefyd yn helpu cyhyrau ac esgyrn ifanc i dyfu'n gywir.
Ac mae angen 30 munud o weithgarwch corfforol 5 gwaith yr wythnos ar oedolion, felly gall cerdded eich helpu i gyflawni hyn mewn ffordd rad, hawdd a difyr.
Grwpiau cerdded dan arweiniad hyfforddwr
Mae grwpiau cerdded dan arweiniad hyfforddwr yn lle perffaith i ddechrau. Mae bob amser yn gysur gwybod nad ydych ar eich pen eich hunan ac y bydd rhywun gerllaw i ateb cwestiynau neu bryderon sydd gennych.
Cynhelir nifer o deithiau cerdded dan arweiniad yn Abertawe bob wythnos - gan roi'r cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd yn ogystal â mwynhau'r agweddau cymdeithasol ar y daith (fel arfer, rydym yn stopio am goffi ar ddiwedd y llwybr!).
Dyma rai o'r teithiau cerdded a gynhelir yn Abertawe. Maent i gyd am ddim ac yn addas i bobl o bob gallu. Ffordd wych o wneud ymarfer corff, cwrdd â phobl newydd a mwynhau'r tywydd!
Dydd Llun
10.30am - 11.30am Canolfan Datblygu Gorseinon** ('Cerdded a Sgwrsio').
7.00pm Lleoliadau amrywiol yn ardal Gorseinon (teithiau cerdded gyda'r hwyr dros yr haf).
I gael mwy o wybodaeth am deithiau cerdded Gorseinon ar y Llun, ffoniwch: Hilary (07816372756)
Dydd Iau
10.00am - 11.30am Parc Llewelyn** (Cerdded Nordig)
Dydd Gwener
10.30am - 12.30pm Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 (Cerdded Nordig)
**egwyl goffi ar ôl y daith
Cerdded Nordig
Cerdded Nordig yw cerdded trwy ddefnyddio polion. Mae cerddwyr yn rhoi pwysau ar bob polyn wrth gerdded ac, o ganlyniad, maent yn gweithio cyhyrau rhannau uchaf y corff yn ogystal â'r coesau. Mae'r gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer pobl o unrhyw oed neu lefel ffitrwydd a gellir ei wneud trwy gydol y flwyddyn. Mae'n weithgaredd cymdeithasol iawn am ei bod yn hawdd cerdded a sgwrsio ar yr un pryd. Mae cyfuno ymarfer corff â natur yn golygu y gallwch fwynhau'r awyr iach a bydd hefyd yn codi'ch hwyliau.
Manteision
- llosgi mwy o galorïau na cherdded arferol
- cydbwysedd a sefydlogrwydd gwell
- cynnydd mewn cryfder cyffredinol
- dycnwch cynyddol mewn cyhyrau craidd
- gweithio'r corff cyfan - ffyrfhau grwpiau cyhyrau rhannau uchaf ac isaf y corff
- lleihau pwysau ar y pengliniau a'r cymalau.
Cyfarpar
Gall unrhyw un wneud cerdded Nordig unrhyw le ac nid oes rhaid i'r cyfarpar fod yn ddrud. Wrth brynu polion cerdded Nordig, mae'n rhaid i'r cerddwr sicrhau bod y polion ar yr uchder cywir er mwyn lleddfu unrhyw straen ar y cluniau a'r pengliniau. Gellir prynu polion cerdded Nordig o amrywiaeth o fannau megis archfarchnadoedd, siopau chwaraeon a siopau nwyddau awyr agored.
Teithiau Cerdded Iechyd a Lles Abertawe
Mae'r teithiau cerdded wedi'u categoreiddio fel teithiau cerdded iechyd sy'n para tua awr, a bydd lluniaeth fel arfer yn dilyn, oni bai y nodir yn wahanol. E-bostiwch john.Ashley@abertawe.gov.uk am wybodaeth am hyfforddiant.
Dydd Llun
- 9.45am: Coed Cwm Penllergaer (Sied Dynion Eagle's Nest). Byddwn yn cwrdd yn y maes parcio. Arweinydd: John Davies.
- 10am: Grŵp Cerdded Coedwig Clun 10am - 12.30pm, yn dechrau 28 Tachwedd 2022 am chwe wythnos. Chwe thro ysgafn a arweinir gan Andrew Price o Dryad Bushcraft. Bydd tri thro cyn y Nadolig a thri yn y Flwyddyn Newydd. Gallwch ddysgu am hanes cyfoethog Coedwig Clun a'r planhigion, y ffyngau a'r coed gwahanol rydym yn eu gweld ar hyd y ffordd. Ni chodir tâl am y troeon ond mae'n hanfodol cadw lle. Ffoniwch Nico Jenkins ar 07902 523567.
- 11am: Parc Treforys Byddwn yn cwrdd ac yn parcio yn y clwb golff. Mae'r grŵp weithiau'n mynd ymhellach i ffwrdd, er enghraifft cronfeydd dŵr Lliw a Choed Cwm Penllergaer. Arweinwyr: Sian Price, Terry Frayne. Mae'r grŵp yn cyfathrebu trwy WhatsApp, trwy wahoddiad.
- 11am: Taith gerdded â chŵn yng Nghoed Cwm Penllergaer. Byddwn yn cwrdd yn y maes parcio ac yn cael coffi ar ôl y daith. Mae'r teithiau cerdded ar ddydd Llun oddi ar y ffordd ac yn mynd ar hyd tir heriol a gallant bara mwy na 2 awr. I'r rheini sydd am fynd ar daith gerdded haws, dewch ar ddydd Gwener, lle mae'r teithiau cerdded yn fyrrach ac yn llai heriol. Gofynnwch am Rob neu Keith, a fydd yn eich cyflwyno i weddill y grŵp.
- 11am: Grŵp Cerdded Lles Clydach. Teithiau cerdded wythnosol yn ardal Clydach sy'n seiliedig ar anghenion, gallu a hoffterau'r cyfranogwyr. Bydd opsiwn i fynd am baned yn lleol ar ôl y daith gerdded. Arweinwyr: Sue Powell a Christina Lacey. Ffoniwch Sue ar 07463 285097
- 12pm: Cerdded Nordig yn Blackpill gyda Kim Cwrdd am 12 ganol dydd yn The Woodman, Blackpill. Does dim angen profiad blaenorol gan y bydd Kim yn darparu'r polion a chyflwyniad i dechneg Cerdded Nordig. Pris y sesiwn yw £3 am un neu 4 am £10. Rhaid cadw lle cyn y sesiwn drwy ffonio Kim ar 07710 075269 neu drwy e-bostio kim@fabcompany.co.uk
- 12.30pm: Taith gerdded fer Cerddwyr Llansamlet, Llyn y Fendrod. Arweinydd: y Cynghorydd Ryland Doyle.
- 1.30pm: Taith Gerdded Lles Pennard. Byddwn yn cwrdd yn yr Ardd Les y tu allan i Feddygfa Pennard am daith gerdded hamddenol i bobl o bob gallu i wella ffitrwydd, helpu lles a gwneud ffrindiau newydd. Mwynhewch dro i Southgate, lle byddwn yn stopio i gael paned a sgwrs cyn dychwelyd. Mae'r teithiau cerdded hyn am ddim. Cadwch le trwy ffonio neu anfon neges destun i 07826 296677.
Dydd Mawrth
- 10am: Parc Coed Bach, Pontarddulais. Byddwn yn cwrdd ger y cyrtiau tenis am dro o gwmpas y goedwig a'r caeau chwarae cyn cael coffi (ac weithiau gwrando ar iwcalilis!) yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais.
- 10am: Parc Cwmdoncyn, mynedfa Park Drive. Cerdded Nordig gyda Kim, darperir polion a chyfarwyddiadau. Bydd angen cadw lle drwy Sport and Health sessions and activities
- 10.15am: Grŵp Cerdded Llyfrgell Tregŵyr. Mae'r grŵp yn mynd ar daith gerdded wahanol bob tro. Gysylltu â Peter Jones, 07840 542048 neu peterlj0nes@yahoo.com.
Dydd Mercher
- 10am: Grŵp Cerdded Llyfrgell Gorseinon. Mae'r grŵp yn aml yn teithio ar y bws (dewch â'ch pàs bws) i leoedd amrywiol. Er enghraifft, o ardal Bynea i gyrchfan Gateway ar hyd Llwybr Arfordir Llanelli. Mae'r Mwmbwls yn boblogaidd oherwydd bod llawer o fariau/caffis i gael lluniaeth ar ôl hynny. Mae Marina Abertawe'n lleoliad tebyg arall. Gall y teithiau cerdded ddigwydd rhwng 10:00 a 12:15 neu 13:00. Ffoniwch Peter Jones ar 07840 542048 neu peterlj0nes@yahoo.com.
- 10am: Caeau chwarae Elba, Tregwyr. Arweinwyr: Donna Kendall (CALl) a'r Cynghorydd Susan Jones 01792 872 561
- 10.30am: Parc Singleton. Byddwn yn cwrdd ger y Bwthyn Swistirol a bydd lluniaeth ar gael yn Lolfa'r Pabïau (Parc De la Beche). Arweinydd: Trish Jones.
- 11am: Tro Iechyd Casllwchwr. Cwrdd am 10.50am ym Maes Parcio Blaendraeth Casllwchwr (ger yr ardal chwarae) - parcio am ddim. Cerdded am ryw awr gyda phaned o goffi ac, o bosib, cinio o The Mint Pod. Arweinydd y Daith, Cynghorydd Andrew Thomas, 07504 105792.
- 12pm: Cerdded Nordig gyda Kim, Canolfan Ddinesig. Cwrdd am 12 ganol dydd ym maes parcio'r Ganolfan Ddinesig. Does dim angen profiad blaenorol gan y bydd Kim yn darparu'r polion a chyflwyniad i dechneg Cerdded Nordig. Pris y sesiwn yw £3 am un neu 4 am £10. Rhaid cadw lle cyn y sesiwn drwy ffonio Kim ar 07710 075269 neu drwy e-bostio kim@fabcompany.co.uk
- 1pm: Tro a Sgwrs Mind Abertawe yn cwrdd ar risiau Neuadd Brangwyn. Am ddim i bawb sydd am gwrdd â phobl newydd a mwynhau Bae Abertawe hyfryd. Mae ymchwiliadau gwyddonol wedi dangos bod cadw'n gorfforol heini, cysylltu â natur a chymdeithasu ag eraill yn gwella iechyd meddwl ac yn lleihau unigrwydd. Mae Tro a Sgwrs yn canolbwyntio ar wella gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael ag arwahanrwydd. Dewch i gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd cyfeillgar. 01792 642999, admin@swanseamind.org.uk
- 1pm: Grŵp Cerdded Adferiad, 1pm - 3pm. Dewch i fynd am dro a sgwrsio! Darparu cyfleoedd yn Abertawe i ofalwyr a'r rheini sy'n derbyn gofal i gwrdd â ffrindiau, adeiladu ar eu cryfderau wrth ddysgu gan eraill a rhannu profiadau a gwybodaeth. Nid oes angen unrhyw lefel ffitrwydd benodol. Cysylltwch â Debbie drwy ffonio 07813 120317 neu e-bostiwch swansea@adferiad.org.
- 2pm: Cerddwyr Llansamlet. Byddwn yn cwrdd ger Llyfrgell Llansamlet, neu ymhellach i ffwrdd weithiau. Sefydlwyd y grŵp hwn i fwynhau teithiau cerdded o gwmpas Llansamlet a'r ardaloedd cyfagos. Bydd pob taith gerdded yn para oddeutu 2 awr ac ni fydd yn rhy heriol. Mae'n ffordd wych o gadw'n heini a chwrdd â phobl newydd. Arweinydd: y Cynghorydd Ryland Doyle ar 07855 034215.
Dydd Iau
- 10am: Mamau a Phramiau, Canolfan Adnoddau Cymuned Forge Fach, Clydach. Grŵp Cerdded wythnosol sy'n addas i bramiau gyda llwybr gwahanol bob wythnos. Dewch i wneud ffrindiau newydd, gwella'ch ffitrwydd a chael hwyl ar hyd y daith! Trefnydd: Natalie Whitehurst.
- 10.15am: Taith Gerdded Gymdeithasol Marina Abertawe gyda Heneiddio'n Dda a Gweithredu dros Bobl Hŷn. Byddwn yn cwrdd yn The Swigg ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i fynd am dro am oddeutu awr o gwmpas y marina, a bydd diodydd poeth am ddim yn The Swigg i ddilyn. Os hoffech ddod, e-bostiwch Rhys.Thomas@abertawe.gov.uk neu stephanie.booth@actionforelders.org.uk neu ffoniwch 03033 030 132 or 0797 734 6177.
- 11am: Cerdded Nordig, Bae Abertawe. Yn addas i ddechreuwyr neu gerddwyr profiadol. Byddwn yn cwrdd bob dydd Iau am 11:00 ym maes parcio dwyreiniol y Ganolfan Ddinesig cyn cael coffi a theisen yng Nghaffi Glan y Môr. Cysylltwch â Kim Davies i gadw'ch lle - 0771 007 5269 neu kim@fabcompany.co.uk
- 12pm: Grŵp Cefnogi Iechyd Meddwl Dynion. Cyfle i wneud y mwyaf o'n hamgylchedd naturiol yn ystod taith gerdded gymunedol i ddynion. Gall mynd allan yng nghwmni pobl eraill ein hysgogi i fynd i leoedd na fydden ni fel arfer yn mynd iddynt ar ein pennau ein hunain. Gall fod yn haws siarad a chreu cysylltiadau ag eraill wrth gerdded heb bwysau neu agenda pendant. Byddwn yn cwrdd ar y morglawdd gyferbyn â'r ciosg yng nghaffi The Secret.
- 1pm: Taith Gerdded Lles Gorseinon. Awn i'r gogledd neu'r de ar Lwybr Gŵyr a'r llwybr newydd o Bontybrenin i Dregŵyr, ac weithiau ymhellach i ffwrdd. Byddwn yn cwrdd ym maes parcio Aldi. Arweinydd: Glenn Lewis.
Dydd Gwener
- 10am: Cynhelir teithiau cerdded Blas ar Gŵyr ar ddydd Gwener olaf y mis. Maent ychydig yn hirach na'r teithiau cerdded Iechyd a Lles arferol ac yn gyfle delfrydol i chi wneud cynnydd mewn awyrgylch cymdeithasol. E-bostiwch john.ashley@abertawe.gov.uk.
- 10am: Tro Iach o Lyfrgell Fforest-fach i Barc Ravenhill. Dewch i gerdded gyda ni bob dydd Gwener am 10am ac yna cewch baned a sgwrs yn ôl yn y llyfrgell. Dewch i gwrdd â phobl newydd, cwrdd â ffrindiau newydd, gwella'ch hwyliau, gwella'ch ffitrwydd a lleihau straen. Ffoniwch y Cydlynwyr Ardaloedd Lleol, Emma ar 07966 246024 neu Peter ar 07833 095498
- 10.15am: Cerdded nordig cymdeithasol ar lannau Abertawe gyda choffi yn y marina. Byddwn yn cwrdd ym maes parcio'r Llyfrgell Ganolog. Bydd polion nordig ar gael i ddechreuwyr.
- 11am: Llwybr beiciau Dynfant a llwybrau eraill. Byddwn yn cwrdd yng Nghlwb Rygbi Dynfant, tafarn y Railway Inn, neu weithiau mewn lleoliad arall. Arweinydd: Sarah James (CALl). Am fanylion y daith gerdded yr wythnos hon, e-bostiwch Sarah James, sarah.james@swansea.gov.uk neu ffoniwch 07929 743466.
- 11am: Taith gerdded â chŵn yng Nghoed Cwm Penllergaer. Byddwn yn cwrdd yn y maes parcio ac yn cael coffi ar ôl y daith. Mae'r teithiau cerdded ar ddydd Llun oddi ar y ffordd ac yn mynd ar hyd tir heriol a gallant para mwy na 2 awr. I'r rheini sydd am fynd ar daith gerdded haws, dewch ar ddydd Gwener, lle mae'r teithiau cerdded yn fyrrach ac yn llai heriol. Gofynnwch am Rob neu Keith, a fydd yn eich cyflwyno i weddill y grŵp.
Dydd Sadwrn
- 9.30am: Cerddwyr Llansamlet. Rydym yn cwrdd bob pythefnos ym maes parcio llyn y Parc Menter ar Valley Way i gerdded am 90 munud gan geisio dychwelyd erbyn 11am i gael paned mewn caffi lleol. Cadwch lygad ar y dudalen Facebook i weld y troeon diweddaraf, neu ffoniwch arweinydd y tro, y Cynghorydd Ryland Doyle ar 07855 034215
Dydd Sul
- 10.15am: Cerdded nordig cymdeithasol ar lannau Abertawe gyda choffi yn y marina. Byddwn yn cwrdd ym maes parcio'r Llyfrgell Ganolog. Bydd polion nordig ar gael i ddechreuwyr.
Arall
- Mae U3A Abertawe'n cynnal pum tro rheolaidd sy'n amrywio o ran hyd ac anhawster.
- Mae Coed Actif yn cynnal rhaglenni cerdded a gweithgareddau awyr agored byr.
- Mae Canolfan Gofalwyr Abertawe'n cynnal rhaglenni gweithgareddau awyr agored achlysurol i ofalwyr yn unig.
- Clwb Woofs and Walks ym Mhenllergaer, diwrnodau amrywiol. Cefnogir y clwb gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe trwy'r grant Gaeaf Llawn Lles.
Mae Canolfan Les Abertawe yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys Grwpiau Cerdded i Fenywod a Dynion. Gallwch gymryd rhan ar unrhyw bryd, does dim angen cadw lle. E-bostiwch y ganolfan am ragor o wybodaeth: centre@wellbeingswansea.co.uk.
Am fod yn Arweinydd Cerdded Iechyd?
Hoffech chi annog pobl i gerdded? Ydych chi'n mwynhau cwrdd ag eraill a'u helpu? Oes gennych awr neu fwy o amser rhydd yr wythnos? Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol, chi yw'r person delfrydol i fod yn Arweinydd Cerdded Gwirfoddol.
I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, e-bostiwch John Ashley John.Ashley@abertawe.gov.uk.