Prosiect cael gwared ar iorwg Castell Pennard
Mae Castell Pennard sy'n edrych dros Bae y Tri Chlogwyn yn un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Gŵyr. Clwb Golff Pennard sy'n berchen ar ac yn rheoli'r castell fel Heneb Gofrestredig.
Mae tyfiant iorwg trwchus ar wal y gogledd yn peri pryder oherwydd mae'n effeithio ar gyflwr yr Heneb Gofrestredig a'r planhigion prin y mae'n eu cynnal. Mae tîm Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yng Nghyngor Abertawe wedi bod yn cefnogi Clwb Golff Pennard i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Yn 2021 cyfarwyddwyd Black Mountains Archaeology i gynnal arolwg ffotogrametrig 3D o'r castell. Darparodd yr arolwg ffotogrametrig gofnod manwl o gyflwr y castell ac roedd yn sail ar gyfer y cais a wnaed i Cadw i gael cydsyniad ar gyfer y gwaith.
Gellir gweld ac archwilio allbwn syfrdanol yr arolwg ffotogrammetrig 3D ar-lein trwy fynd i: https://tinyurl.com/35jwpnsp , neu drwy edrych ar y fideo YouTube yma: https://tinyurl.com/239tp7mh.
Mae graddfa ymosodiad yr iorwg ar adeiledd y wal yn llawer mwy na'r disgwyl. Felly, ni fyddai triniaeth chwynladdwr wedi cael fawr o effaith a gallai'r coesynnau marw achosi i'r adeiledd ddod yn ansefydlog.
Yn lle, bydd rhai ardaloedd o waith cerrig yn cael eu dadadeiladu dros dro fel y gellir mynd ati i dynnu'r iorwg oddi ar y cerrig. Bydd yn rhaid ailosod pob carreg yn yr union leoliad y daeth hi ohono, a dodi morter calch tebyg yn lle'r hen forter.
Ystyriaethau eraill:
- Gellir defnyddio morter calch pan nad yw'n rhy oer, yn rhy boeth, yn rhy wlyb neu'n rhy sych - felly'r amser gorau i ailadeiladu fydd yr hydref, y gwanwyn a dechrau'r haf.
- Bydd angen cryn dipyn o sgaffaldiau i allu wneud y gwaith yn ddiogel, ac mae cyrraedd y safle hwn o'r ffordd yn her logistaidd.
- Mae dau blanhigyn prin yn tyfu ar y castell: unig leoliad llysiau'r bystwn melyn Draba aizoides yn y DU yw clogwyni De Gŵyr a Chastell Pennard, ac mae dosbarthiad heboglys Môr Hafren Hieracium eustonomyn gyfyngedig iawn ar draws y DU, ac fe'i cyfyngir i lond llaw o safleoedd yn Ne Cymru a Gogledd Dyfnaint.
Er y bydd cael gwared ar yr iorwg yn fuddiol i'r ddau blanhigyn hyn yn y tymor hir drwy leihau'r gystadleuaeth am adnoddau, bydd yn rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw'r poblogaethau ar y castell yn cael eu difrodi yn y broses!
Gyda chefnogaeth gan Celtic Wildflowers mae strategaeth lliniaru wedi'i datblygu â'r nod o ddiogelu'r poblogaethau planhigion prin a, gobeithio, rhoi hwb iddynt. Mae hadau wedi'u casglu o'r ddau blanhigyn ac yn cael eu hegino a'u tyfu gan Celtic Wildflowers yn eu meithrinfa. Yn ystod y gwaith ailadeiladu, caiff pocedi bach eu creu yn y morter calch newydd a bydd planhigion bach a dyfwyd yn y feithrinfa'n cael eu plannu yno.
Lle bo'r angen, mae'r holl waith yn cael ei wneud gyda goruchwyliaeth ecolegol ac archaeolegol, a chyda Chydsyniad Heneb Gofrestredig i warchod a chadw'r nodweddion pwysig hyn.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025.