Leadfield, Ffynnon Deml
Yn wahanol i'r tirlun a ddyluniwyd gerllaw ym Mharc Treforys, mae hon yn ardal fawr o laswelltir (mae merlod yn pori yno ar hyn o bryd) gydag ardal gorsiog sy'n gynefin gwych i amffibiaid fel brogaod, llyffantod a madfallod.
Rai blynyddoedd yn ôl, bu'r cymunedau lleol yn brwydro yn erbyn cais cynllunio i ddatblygu'r safle ac ymddengys fod ei ddyfodol fel ardal agored bellach yn ddiogel.
Ar hyn o bryd, does dim llawer o goed yno, and mae cynlluniau i blannu coedwig gymunedol yn y dyfodol. Mae rhai nodweddion archeolegol diddorol ar y safle, gan gynnwys hen ffynnon a gweddillion gwaith maes hynafol.
Uchafbwyntiau
- Golygfeydd anhygoel.
Gwybodaeth am fynediad
Mynydd-bach, y Clâs, Treforys
Cyfeirnod Grid SS659982
OS Explorer Map 165, Abertawe
Mynedfa oddi ar Heol Caemawr neu drwy Barc Treforys.
Digwyddiadau yn Leadfield, Ffynnon Deml on Dydd Gwener 22 Tachwedd
Dim rhagor ar gael
Dyddiad blaenorolDim enghreifftiau o hyn
Dyddiad nesafDim enghreifftiau o hyn