Lido Blackpill

Mae Lido Blackpill am ddim a does dim rhaid cadw lle. Rhaid ymweld â'r Lido pan fydd y tywydd yn braf, gyda'i bwll padlo gwych, ei ardal chwarae i blant, ei wal ddringo a'i gyfleusterau picnic.
Mae cadeiriau cynfas ar gael i chi eu llogi o £2.75 y gadair y dydd.
Gydag atyniad arobryn Gerddi Clun gerllaw a Bae Abertawe, mae digon i'w wneud i sicrhau diwrnod gwych i'r teulu.
Oriau agor ar gyfer y lido
Ar agor bob dydd rhwng dydd Gwener 2 Mai a dydd Sul 28 Medi 2025 (gan gynnwys gwyliau banc).
I gael rhagor o wybodaeth am Lido Blackpill: outdoorattractions@swansea.gov.uk