Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal perygl llifogydd Cwm Tawe Isaf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i breswylwyr a busnesau yng Nghwm Tawe Isaf sydd mewn perygl llifogydd o afon Tawe, Nant-y-Fendrod a Nant Bran.

Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys:

  • Bro Tawe
  • Parc Menter Abertawe
  • Parc Carafannau Riverside 
  • Ystâd Ddiwydiannol Beaufort
  • Ystâd Ddiwydiannol Plas-marl

Os yw eich cartref mewn perygl llifogydd, darganfyddwch yr hyn i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Mae rhybuddion am lifogydd ar waith yn ardal Cwm Tawe Isaf. Rhybuddion llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru (Yn agor ffenestr newydd)) neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.

Cyngor ar lifogydd i breswylwyr ardal Cwm Tawe Isaf

Os ydych chi'n byw yn ardal Cwm Tawe Isaf, mae yna bethau y gallwch eu gwneud er mwyn paratoi'n well ar gyfer llifogydd.

Dylech:

Beth i'w wneud mewn argyfwng:

  • byddwch yn barod i weithredu'n gyflym i gyrraedd man diogel - gall hyn gynnwys bod yn barod i adael eich cartref
  • cydweithiwch â'r Gwasanaethau Brys os ydynt yn gofyn i chi adael eich eiddo, a dilynwch eu cyfarwyddiadau.
  • meddyliwch am eich plant - oes gennych yr eitemau hanfodol y mae eu hangen arnoch i edrych ar eu hôl?
  • meddyliwch am eich anifeiliaid anwes - os maent yn fach, a oes modd eu cludo mewn cludwr anifeiliaid anwes neu flwch diogel? Oes gennych unrhyw fwyd neu gyflenwadau eraill ar eu cyfer?
  • diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr a chloi eich eiddo pan rydych yn gadael
  • dylech osgoi cerdded neu yrru drwy lifogydd - gall dŵr llifogydd fod yn beryglus iawn, gall ychydig iawn o ddŵr llifogydd fod yn ddigon i'ch bwrw oddi ar eich traed.
  • cadwch blant a phobl ddiamddiffyn i ffwrdd o ddŵr llifogydd
  • golchwch yn drylwyr a gofynnwch am gymorth meddygol os ydych chi'n dod i gysylltiad â dŵr llifogydd, gan y gallai fod yn halogedig

Gweithdrefnau gadael

Os oes angen i chi adael eich cartref, mae'n debyg y bydd Swyddog yr Heddlu'n rhoi gwybod i chi (fodd bynnag, nid dyma'r achos bob amser). Byddai gwrthod gadael eich cartref ar eu cyngor nhw yn eich rhoi chi, eich teulu a'r rhai sy'n ceisio eich helpu mewn perygl. Rhowch wybod iddynt am unrhyw gymdogion sy'n hen neu'n sâl y mae'n bosib y bydd angen cymorth arbennig arnynt.

Ar ôl gadael eich cartref cewch fynd i ganolfan orffwys a gynhelir gan staff y cyngor. Mae'r bobl sy'n cynnal y ganolfan orffwys wedi'u hyfforddi a gallant roi help a chefnogaeth i chi.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i aros yn y ganolfan orffwys, yn enwedig os ydych am aros gyda ffrindiau neu deulu. Mae'n bwysig dweud wrth yr Heddlu neu staff y cyngor i ble rydych chi'n mynd er mwyn i chi gael gwybod pryd y bydd hi'n ddiogel i fynd adref.

Rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn penderfynu gadael eich cartref pan fydd rhybudd llifogydd ar waith fel y gellir eich cyfrif os oes rhaid gadael cartrefi.

Cyngor llifogydd i fusnesau yn ardal Cwm Tawe Isaf

Os ydych yn cynnal busnes yn ardal Cwm Tawe Isaf, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i baratoi'n well ar gyfer llifogydd.

Dylech:

Beth i'w wneud mewn argyfwng:

  • blaenoriaethwch ddiogelwch eich staff a'ch cwsmeriaid
  • byddwch yn barod i weithredu'n gyflym i gyrraedd man diogel - gall hyn gynnwys bod yn barod i adael mangre eich busnes
  • cydweithiwch â'r Gwasanaethau Brys os ydynt yn gofyn i chi adael eich eiddo, a dilynwch eu cyfarwyddiadau 
  • osgowch gerdded neu yrru trwy lifogydd - gall dŵr llifogydd fod yn hynod beryglus
  • symudwch stoc a phethau gwerthfawr i fan diogel ar loriau uwch (os oes gennych amser!)
  • diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr a chloi eich eiddo pan rydych yn gadael
  • dylech atal staff rhag dod i'r ardal
  • dylech ailgyfeirio cyflenwadau a thrafnidiaeth i eiddo arall

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol i breswylwyr a busnesau

Gorsaf radio

BBC Radio Wales (Yn agor ffenestr newydd) - 94.6 FM

Heart FM (Yn agor ffenestr newydd) - 106 FM

The Wave (Yn agor ffenestr newydd) - 96.4 FM

Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Cyfoeth Naturiol Cymru twitter (Yn agor ffenestr newydd)

Heddlu De Cymru twitter (Yn agor ffenestr newydd)

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru twitter (Yn agor ffenestr newydd)

Cyngor Abertawe twitter (Yn agor ffenestr newydd)

Y Swyddfa Dywydd twitter (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Gorffenaf 2021