Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyn Cychod Singleton

Dewch i reidio pedalo a theithio o gwmpas y llyn neu rhowch gynnig ar chwarae golff gwallgof gyda'r teulu.

Mae gwasanaeth pedalos a golff gwallgof Llyn Cychod Singleton wedi dod i ben ar ddiwedd tymor 2024. Cymerwch gip yma yng ngwanwyn 2025 i gael y manylion ynghylch pryd bydd y lleoliad ar agor eto. 

Mae Llyn Cychod Singleton ar waelod Lôn Sgeti rhwng Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe, o fewn pellter cerdded i Barc Singleton.

Yn ogystal â haid o elyrch preswyl, mae'r llyn yn gartref i amrywiaeth o bedalos ceir, elyrch, dreigiau a phedalos llai llachar eu lliw. Mae cwrs golff gwallgof lliwgar 18 twll ar y safle gyda meinciau picnic a lle chwarae antur i blant.

Amserau agor

Golff gwallgof a llyn cychod (23 Mawrth - 22 Medi 2024):

10.00am - 5.00pm (6.00pm yn ystod gwyliau haf yr ysgol)

  • bob penwythnos
  • 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol (gan gynnwys gwyliau banc)

Prisiau

Gallwch dalu gydag arian parod neu gerdyn.

Prisiau golff gwallgof

  • Safonol -  £4.50
  • Consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £4.00
  • Pasbort i Hamdden - £3.30
  • Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) - £13.00

Prisoedd pedalos y llyn cychod

Pris fesul pedalo am 30 munud:

  • Cwch 4 sedd safonol - £10.00
  • Cwch 4 sedd Consesiynol (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £7.50
  • Cwch 4 sedd Pasbort i Hamdden - £6.00

Mae siacedi achub yn ffitio plant 2 oed ac yn hŷn, bydd cynorthwywyr yn sicrhau eu bod yn ffitio.

14 oed yw'r isafswm oedran ar gyfer mynd â'r cychod allan heb oruchwyliaeth gan oedolyn. 

Pysgota

Mae'r llyn hefyd yn cynnwys nifer o gerpynnod, merfogioaid, ysgrytennod a chochiaid. Dim ond ar rai adegau y gellir pysgota gan fod y pedalos yn gweithredu ar y llyn. Rhaid bod gennych drwydded gwialen bysgota.

Gwybodaeth am fynediad

Oherwydd llwybrau anwastad a grisiau serth (at y pedalos), nid yw atyniadau'r llyn cychod yn gwbl hygyrch.

Caniateir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar y pedalos os ydynt dan reolaeth ac ar dennyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Lyn Cychod Singleton outdoorattractions@swansea.gov.uk

Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu