Toglo gwelededd dewislen symudol

Llysgenhadon Ifanc

Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

Young Ambassadors (IS)

Llysgenhadon Ifanc yn Abertawe 

Mudiad Llysgenhadon Ifanc: Mudiad arweinyddiaeth ieuenctid â'r bwriad o ddatblygu arweinwyr Cymru'r dyfodol drwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae. Bydd Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio'u rôl i ysbrydoli, dylanwadu ar bobl, arwain a mentora o fewn ac ar draws maes addysg a chymunedau, i ymgysylltu a chefnogi'r gymdeithas i fod yn iach ac yn actif. 

Bydd y tîm Chwaraeon ac Iechyd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau a chymunedau lleol i recriwtio, hyfforddi a sicrhau cynnydd y Llysgenhadon Ifanc ar hyd eu llwybr cynnydd. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn Abertawe, e-bostiwch Llysgenhadon.Ifanc@abertawe.gov.uk 

Bydd y llwybr yn cynnwys y canlynol - 

  • Llysgenhadon Ifanc Efydd - Ysgol Gynradd (blwyddyn 5 a 6) 
  • Llysgenhadon Ifanc Efydd+ - Ysgol Gyfun (CA3, CA4)
  • Llysgenhadon Ifanc Arian - Ysgol Gyfun (CA3, CA4)
  • Llysgenhadon Ifanc Aur - CA3, CA4 ac Addysg Bellach
  • Llysgenhadon Ifanc Platinwm - CA4 ac Addysg Bellach

Youth Sport Trust (Chwaraeon Cymru) - Gweledigaeth, Cenhadaeth a Phwrpas

Gweledigaeth: Mudiad arweinyddiaeth ieuenctid â'r bwriad o ddatblygu arweinwyr Cymru'r dyfodol drwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae. Bydd Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio'u rôl i ysbrydoli, dylanwadu ar bobl, arwain a mentora o fewn ac ar draws maes addysg a chymunedau, i ymgysylltu a chefnogi'r gymdeithas i fod yn iach ac yn actif. 

Cenhadaeth: Darparu cefnogaeth barhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn i Lysgenhadon Ifanc ddatblygu i fod yn arweinwyr ifanc hyderus, cryf eu cymhelliant a medrus. Rydym am iddynt ddysgu trwy arwain gan ddarparu cyfleoedd cadarnhaol a gwerth chweil, a phrofiadau a fyddant yn gwella'u sgiliau cyfannol. 

Pwrpas: Trwy gydweithio ar draws sectorau, datblygu, cefnogi a grymuso Llysgenhadon Ifanc ar y cyd i hwyluso gweithgareddau, meithrin ymdeimlad o berthyn, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a defnyddio pŵer eiriolaeth i helpu i drawsnewid Cymru i fod yn genedl mwy actif ac iach. 
 

Close Dewis iaith