
Pobl Ifanc Actif
Mae'r Tîm Pobl Ifanc Actif (PIA) yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd a chlybiau chwaraeon lleol ar draws Abertawe. Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol cyffrous i bobl ifanc rhwng 5 ac 16 oed, fel rhan o'i raglenni allgyrsiol mewn ysgolion ac yn ei gymunedau lleol.
Yn ôl Arolwg Chwaraeon Ysgolion diweddaraf Chwaraeon Cymru (2015) yng Nghymru, mae 48.8% o ddisgyblion uwchradd a 47.4% o ddisgyblion cynradd yn Abertawe'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir y tu allan i'r cwricwlwm (sef chwaraeon allgyrsiol neu glwb) o leiaf deirgwaith yr wythnos. Mae'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru'n cyfeirio at hyn fel 'gwirioni ar chwaraeon'.
Hoffai PIA Abertawe weld pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes ac mae sawl rhaglen a ariennir gan Chwaraeon Cymru sy'n ein helpu i gyflawni hyn.
5 x 60
Mae disgyblion ar draws Cymru'n mwynhau ffordd newydd a dyfeisgar o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Abertawe.
Aml-sgiliau a Champau'r Ddraig
Beth yw Aml-sgiliau a Champau'r Ddraig?
Chwarae i Ddysgu
Adnodd ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed, yw Chwarae i Ddysgu, sy'n cyflwyno sgiliau corfforol sylfaenol mewn ffordd gyfannol sy'n hwyl ac yn ddiddorol.

Llysgenhadon Ifanc
Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes
Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig
Mae'r Tîm Pobl Ifanc Actif wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn gweithio.