Llys Nini
Mae'r safle yn cynnwys glaswelltir, glaswelltir gwlyb, glaswelltir wedi'i wella a heb ei wella, coetir collddail hynafol, nentydd, pyllau, prysgwydd ar hen domen diwydiannol, hen waith glo brig sydd wedi'i adfer a choetir wedi'i goedlannu.
Uchafbwyntiau
Mae rhywogaethau o ddiddordeb yn cynnwys barcutiaid coch, llygod bronfelen, madfallod, infertebratau dwr, ieir bach yr haf a gwyfynod.
Dynodiadau
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 203)
Cyfleusterau
- Ymweliadau addysgol drwy drefniant
- Ystafell ddosbarth a darlithfa
- Cuddfan gwylio adar
- Gwersi wedi'u paratoi ar gyfer pob cyfnod addysg allweddol
- Taflen wybodaeth i athrawon ar ymweliadau â'r safle
- Toiled
- Maes parcio
- Hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
- Bwrdd tapio i'r rhai â nam ar y golwg
- Swyddog addysg gwirfoddol (rhan-amser)
Gwybodaeth am fynediad
Penllergaer
Cyfeirnod Grid SS609995
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Oriau agor
bob dydd 11.00am - 3.45pm (ac eithrio dydd Mercher).
Llwybrau cerdded
Mae'r pwll a'r llwybr coediog yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Ceir
Maes parcio ar y safle. Mynediad i'r safle oddi ar yr A48 rhwng Penllergaer a Phontlliw.
Bysus
Mae'r safle bws agosaf ger diwedd y dramwyfa i Lys Nini, tua 12 munud o gerdded.