Toglo gwelededd dewislen symudol

Lwfansau cyfalaf a Chymorth Adfer Tir

Lwfansau cyfalaf

Gall lwfansau cyfalaf ar gyfer eiddo masnachol fod yn werthfawr iawn. Gall fod rhyddhad treth ar gael ar gyfer rhwng 15% a 45% o bris prynu'r eiddo. Mae'n debygol y bydd swyddfa neu warws syml ar y pen isaf ac y bydd cartref gofal neu westy moethus ar ben uchaf yr amrediad. Daw gwerth y lwfansau o "ffitiadau" yn yr eiddo. Dylid nodi'r rhain wrth brynu'r eiddo er mwyn sicrhau'r lwfans.

Yn dechnegol, diffinnir ffitiadau sy'n berthnasol i lwfansau cyfalaf fel "offeryn neu beiriant sydd wedi'i osod mewn neu ar adeilad....ac a fydd yn dod, yn ôl y gyfraith, yn rhan o'r adeilad hwnnw....".

Asedau offer a pheiriannau nodweddiadol

  • nodweddion integrol:
    • lifftiau, grisiau symudol, llwybrau cerdded symudol, systemau gwresogi aer a dŵr, systemau awyru, systemau dŵr twym ac oer, systemau trydanol, cysgodion solar allanol, weirio a chwndidau cyfrifiaduron/telegyfathrebu, cyfarpar diogelwch tân/arwyddion/goleuadau argyfwng, drysau sy'n cau'n awtomatig, arwyddion allanol, rhwystrau mewn meysydd parcio
  • ffitiadau:
    • ceginau, ystafelloedd ymolchi, systemau larymau tân, systemau teledu cylch cyfyng, ceblau rhyngrwyd a systemau ffôn.

Pwy all hawlio?

  • perchnogion eiddo masnachol, rhydd-ddeiliad neu lesddaliad, sy'n talu treth gorfforaeth y DU neu dreth incwm
  • mae perchnogion eiddo masnachol yn gymwys i hawlio os ydynt yn gwmni, yn fasnachwr unigol neu'n bartneriaeth ac maent naill ai'n cynnal busnes masnachol neu fusnes prydlesu eiddo (gan gynnwys gosodiadau gwyliau wedi'u dodrefnu)
  • yn gyffredinol, nid yw 'tai annedd' yn gymwys. Felly, fel arfer nid yw eiddo a brynwyd ar sail ddomestig er mwyn ei rentu yn gymwys
  • Ar yr amod eich bod yn dal i fod yn berchen ar yr eiddo yn ystod y flwyddyn dreth pan rydych chi'n cyflwyno'r cais, does dim terfyn amser ar gyfer hawlio. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os gwnaethoch brynu'ch eiddo yn y 1990au, efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth o hyd.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch weld Cyfrifydd Arbenigol sy'n arbenigo yn y maes hwn. Mae nifer o gyfrifyddion sy'n arbenigo yn y gwaith hwn yn gweithio ar sail 'dim hawl, dim ffi'.

Cymorth Adfer Tir

  • ar gyfer gwariant ar ôl 1 Ebrill 2009 i lanhau tir sydd wedi dod i'ch meddiant mewn cyflwr halogedig
  • mae Cymorth Adfer Tir yn rhoi cymorth yn erbyn treth gorfforaeth yn unig (wedi dod i feddiant cwmni at ddibenion ei fusnes masnachu neu rentu eiddo)
  • mae'n rhoi gostyngiad o 100%, yn ogystal â gostyngiad ychwanegol o 50% ar gyfer gwariant cymwys a gafwyd gan gwmnïau i lanhau tir a brynwyd oddi wrth trydydd parti mewn cyflwr halogedig.

Mae'r mathau o gymorth

  • perchennog preswyl/cyfradd y buddsoddwr - 150%
  • cyfradd y datblygwr - 50% (hawlio 100% o gostau adeiladau hefyd)
  • ar gyfer cwmnïau sy'n gwneud colled, gellir hawlio credyd treth - 24%

Ystyrir bod tir neu adeiladau mewn cyflwr halogedig os oes halogi ar y safle o ganlyniad i weithgarwch diwydiannol sy'n:

  • achosi niwed perthnasol, neu
  • mae posibilrwydd difrifol y gallai achosi niwed perthnasol, neu
  • mae'n achosi, neu mae posibilrwydd difrifol y gallai achosi, lygredd sylweddol yn nŵr y ddaear, nentydd, afonydd neu ddyfroedd arfordirol

Mae niwed perthnasol yn cynnwys effaith andwyol sylweddol ar iechyd bodau dynol, neu anifeiliaid, neu ddifrod i adeiladau sy'n cael effaith go iawn ar y ffordd y mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio.

Mae gwariant cymwys yn cynnwys:

  • cost sefydlu lefelau'r halogi, cael gwared ar yr halogi neu ei ymatal, fel nad oes posibilrwydd o niwed perthnasol mwyach. Fodd bynnag, ni cheir unrhyw gymorth os na wneir y gwaith adfer.

Ar gael i gael gwared ar halogi sy'n deillio o:

  • asbestos, difwynwyr sylffad yn y pridd, tanwydd, difwynwyr olew (olew/diesel/tanciau petrol), canclwm Japan, unrhyw lygryddion o ganlyniad i weithgarwch diwydiannol blaenorol ar y safle).

Ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf a refeniw

Y cyfyngiad amser ar gyfer hawliadau cymorth adfer tir ôl-weithredol yw hyd at dair blynedd. I gael rhagor o wybodaeth, ceisiwch gyngor annibynnol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ebrill 2023