Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu mainc - cwestiynau cyffredin

Gallwch gael atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin y gofynnir i ni am fabwysiadu mainc.

Yn anffodus, rydym wedi gorfod gohirio ceisiadau newydd ar gyfer mabwysiadu meinciau presennol dros dro oherwydd ôl-groniad o archebion. Caiff y broses ymgeisio ei rhoi ar waith unwaith eto cyn gynted â phosib, ond ni allwn rhoi dyddiad penodol ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer rhoi meinciau newydd ar agor o hyd yn ystod y cyfnod hwn. Diolch am eich amynedd.   

 

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu mainc a rhoddi mainc?
Beth sy'n digwydd os nad yw mainc ar gael yn y lleoliad a ddymunir?
Beth mae'r gost yn ei gynnwys?
Am ba mor hir y bydd y fainc yn aros yno?
A allaf drefnu i gael fy mainc wedi'i hadnewyddu?
Beth sy'n digwydd os yw fy manylion cyswllt yn newid ar ol i mi fabwysiadu neu roddi mainc?
Ydy'r pris yn destun TAW?
Faint o amser mae'r broses yn ei gymryd?
Sut caiff y taliadau eu prosesu?

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu mainc a rhoddi mainc?

Gellir mabwysiadu mainc sydd mewn bod ond caiff meinciau newydd eu rhoddi.

Beth sy'n digwydd os nad yw mainc ar gael yn y lleoliad a ddymuir?

Os nad oes lle ar gael i fainc yn y lleoliad a ddymunir, bydd aelod o'r Tîm Parciau'n trafod lleoliadau amgen â chi.

Beth mae'r gost yn ei gynnwys?

Mae'r pris Rhoddi Mainc a ddarperir yn cynnwys:

  • Cyflenwi a danfon mainc newydd o'ch dewis
  • Sylfaen addas
  • Gwaith gosod
  • Plac gydag arysgrif o'ch dewis.

Mae'r pris Mabwysiadu Mainc a ddarperir yn cynnwys:

  • Mainc a ddefnyddiwyd
  • Plac gydag arysgrif o'ch dewis.

Am ba mor hir y bydd y fainc yn aros yno?

Bydd y fainc yn aros yn y lleoliad am oes y fainc yn unig. Ar ôl yr amser hwn byddwn yn ceisio cysylltu â'r mabwysiadwr / rhoddwr i drafod yr opsiynau sydd ar gael. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am roi mainc newydd yn lle'r hen un pan fydd yn cyrraedd diwedd ei hoes naturiol oherwydd traul arferol, neu o ganlyniad i ddifrod, boed hwnnw'n ddamweiniol neu'n fwriadol.

A allaf drefnu i gael fy mainc wedi'i hadnewyddu?

Ni chaiff y rhoddwr na'i deulu wneud unrhyw waith cynnal a chadw neu ail-weithio (gan gynnwys unrhyw baentio neu farneisio. Dylid cyflwyno pob cais am gynnal a chadw neu ailweithio i'r is-adran Parciau. Os bydd angen unrhyw waith cynnal a chadw neu adnewyddu, yna bydd angen talu am hyn. Ffoniwch neu anfonwch neges at ein staff cyfeillgar a fydd yn gallu eich cynghori.

Beth sy'n digwydd os yw fy manylion cyswllt yn newid ar ôl i mi fabwysiadu neu roddi mainc?

Cyfrifoldeb y rhoddwr / mabwysiadwr yw hysbysu Cyngor Abertawe o unrhyw newid i fanylion cyswllt yn ystod cyfnod y rhodd  mabwysiadu. cysylltwch â'r is-adran parciau i ddiweddaru unrhyw fanylion cyswllt.

Ydy'r pris yn destun TAW?

Os yw unigolyn preifat yn rhoddi neu'n mabwysiadu mainc, ni fydd yn destun TAW. Fodd bynnag, os yw busnesau neu sefydliadau'n rhoddi neu'n mabwysiadu mainc, bydd yn destun TAW.

Faint o amser mae'r broses yn ei gymryd?

Unwaith y byddwn yn derbyn ymholiad drwy'r ffurflen ar-lein, caiff ei brosesu cyn gynted â phosib. Bydd aelod o'r Tîm Parciau'n cysylltu i drafod lleoliad y fainc, cymryd manylion ar gyfer y plac ac agluro'r broses. Unwaith y cytunir ar yr holl fanylion hyn, mae'r broses fel arfer yn cymryd tua 30 wythnos o glirior'r taliad i osod y fainc, yn ddibynnol ar gyflenwyr, llwyth gwaith a chyfyngiadau tywydd.

Sut caiff y taliadau eu prosesu?

Unwaith y cytunir ar yr holl fanylion, caiff dolen talu ar-lein ei ebostio atoch. Os na allwch ddefnyddio'r system taliadau ar-lein, gallwch drefnu gyda'r is-adran Parciau i dalu dros y ffôn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ionawr 2025