Mabwysiadwch fainc coffa
Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli gyda'r geiriau o'ch dewis wedi'u hysgythru ar fainc yn y parc y mae'r rhoddwr wedi'i ddewis o'r lleoliadau sydd ar gael.
Yn anffodus, rydym wedi gorfod atal ceisiadau newydd am y cynllun Mabwysiadu Mainc dros dro. Mae hyn oherwydd y llwyth wrth gefn o osod meinciau ar gyfer archebion presennol, a achoswyd gan broblemau cyflenwi y tu hwnt i'n rheolaeth.
Bydd y broses ymgeisio ar waith eto cyn gynted â phosib, ond ar hyn o bryd ni allwn ddarparu dyddiad penodol. Gwiriwch y wefan yn fisol i weld os yw'r broses ymgeisio wedi agor eto. Diolch am eich amynedd.
Mae cynllun 'Mabwysiadu Mainc' Dinas a Sir Abertawe'n ffordd wych o gefnogi a mwynhau parciau a gerddi Abertawe lle mae llawer o bobl yn mwynhau treulio amser gyda'u teuluoedd ac yn rhoi lle i breswylwyr eistedd ac ymlacio, boed law neu hindda.
Mae mabwysiadu mainc yn ffordd ddelfrydol o nodi carreg filltir, digwyddiad neu goffáu bywyd anwylyn neu anifail anwes.
Mae ein cynllun mabwysiadu'n cynnig cyfle i fusnesau, sefydliadau neu unigolion roi arian ar gyfer mainc newydd neu i fabwysiadu mainc bresennol a chael lle personol a phendant mewn un o'n gerddi prydferth.
Manylion mabwysiadu / rhoi
Gellir mabwysiadu'r meinciau am hyd at 10 mlynedd.
Rhoi mainc newydd:
Pris ar gyfer preswylwyr - £2,174 (ac eithrio TAW)
Pris ar gyfer busnesau - £2,608.80 (gan gynnwys TAW)
Mabwysiadu mainc bresennol:
Pris ar gyfer preswylwyr - £1,449 (ac eithrio TAW)
Pris ar gyfer busnesau - £1,738.80 (gan gwynnwys TAW)
I gydnabod y cyfraniad, byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli, gyda'r geiriau o'ch dewis wedi'u hysgythru ar y fainc mewn parc o'ch dewis o'r lleoliadau sydd ar gael. Bydd y rhodd yn ariannu ac yn talu costau cadw a chynnal y fainc a'r plac ysgythredig.
Bydd y gwaith gosod fel arfer yn cael ei wneud pan fydd amodau tir a thywydd addas yn caniatáu hynny. Sylwer bod y broses gyfan fel arfer yn cymryd hyd at 26-30 wythnos o ddyddiad derbyn y taliad, i osod y plac. Sylwer, mewn amgylchiadau eithriadol, y gall yr amser prosesu fod yn fwy nag 30 wythnos.
Sedd a roddir - safleoedd sydd ar gael
Dim ond ar dir sy'n eiddo i Ddinas a Sir Abertawe y gellir rhoi neu fabwysiadu meinciau o dan y cynllun hwn. Ystyrir ceisiadau i fabwysiadu mainc bresennol neu osod mainc newydd yn y lleoliadau a restrir isod. Nodwch y lleoliad a ddymunir pan fyddwch yn gwneud yr ymholiad.
Mae angen uwchraddio nifer o feinciau presennol yn y lleoliadau canlynol cyn gynted â phosib, a byddai rhoi mainc newydd yn eu lle yn gwella'r ardal yn sylweddol er mwyn i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr eu mwynhau:
- Yn rhan fwyaf o barciau Abertawe (ac eithrio Gerddi Clun a Pharc Gwledig Dyffryn Clun). Gellir dod o hyd i restr o bob parc yma: A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored.
- Gerddi Botaneg, Parc Singleton.
- Llyn y Fendrod.
- Promenâd Abertawe rhwng Blackpill a Neuadd y Sir (y Ganolfan Ddinesig).
- Tir Castell Ystumllwynarth (meinciau presennol i'w mabwysiadu'n unig).
- Gerddi Clun (argaeledd cyfyngedig).
- Llwybr beicio'r Clun (mae lleoliadau'n brin).
- Llwybr Beicio Cwm Tawe Isaf - Clydach i Abertawe (mae lleoliadau'n brin).
Yn anffodus, gan nad oes safleoedd addas ar ôl, nid oes modd mabwysiadu mainc neu osod mainc newydd yn y lleoliadau canlynol:
- Gerddi Clun
- Parc Gwledig Dyffryn Clun
- Mynydd Cilfái
- Pob llwybr ar hyd clogwyni a baeau arfordir Gŵyr, gan gynnwys:
- Bae Rhosili
- Bae Horton
- Bae Porth Einon
- Bae Oxwich
- Bae Pwll Du
- Bae Caswell
- Bae Langland
- Bae Rotherslade
- Bae Limeslade
- Bae Bracelet
- Promenâd y Mwmbwls rhwng Knab Rock a Blackpill
- Promenâd Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a'r Ardal Forol.
Bydd angen i unrhyw fainc/sedd a ddewisir gyd-fynd â'r ardal y maent yn mynd iddi a bydd angen i'r tîm Parciau gadarnhau'r lleoliad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch gwerthiannau@abertawe.gov.uk.