Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mabwysiadu neu roddi coeden - amodau a thelerau

Mae'r cynllun presennol yn canitau rhoddi coeden newydd neu fabwysiadu coeden bresennol drwy bryniant arbennig. Bydd hyn yn ddibynnol ar oes lleoliadau addas ar gael ac wedi cytuno arnynt gan y parc ac argaeledd y goeden.

Amodau a thelerau - Cwsmeriaid preifat

Byddwn yn trafod rhywogaethau'r coed a'r safle plannu a chi. Bydd y rhywogaethau yn ddibynnol ar stoc ein cyflenwyr a bydd angen i'r safle fod yn addas ar gyfer y rhywogaethau a ddewisir.

Am resymau esthetig ac ymarferol, yn anffodus ni allwn roi caniatad i osod plac coffa sefydlog ar waelod y goeden. Fodd bynnag, rhoddir caniatad i hongian plac coffa ar y goeden.

Rhaid cytuno ymlaen llaw ar unrhyw eiriad ar blaciau a'r cyngor ac ni fydd y cyngor yn cytuno ar unrhyw eiriad o natur wleidyddol.

Gellir plannu coed ar safleoedd addas lle mae digonedd o le'n unig

Bydd y coed yn cael eu plannu yn ol disgresiwn y cyngor.

Os bydd angen seremoni plannu, gellir trefnu hyn heb unrhyw gost ychwanegol yn ystod oriau gwaith arferol, fodd bynnag, bydd angen rhoi gwybod.

Os yw'r goeden a roddir gennych yn cael ei difrodi neu os yw'n cael afiechyd o fewn y 5 mlynedd gyntaf, byddwn yn gosod coeden newydd o'r un rhywogaeth os yn bosib, neu goeden arall sy'n addas.

Bydd Cyngor Abertawe'n berchen ar bob coeden.

Sylwer na fydd y cyngor yn gyfrifol am unrhyw goed sy'n cael eu dwyn neu unrhyw ddifrod maleisus a wnaed iddynt, nac unrhyw ddifrod a wnaed gan anifail i'r coed a roddir.

Ni ddylai unrhyw addumiadau e.e. blodau gael eu clymu na'u gosod ar y goeden/llwyn a roddir neu'r ardal o'i hamgylch ar unrhyw adeg.

Cynghorir yr ymgeisydd i gwrdd a'r Swyddog Parciau perthnasol ar y safle i gadarnhau lleoliad dewisol y goeden a roddir cyn cyflwyno'r cais.

Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am roddi neu fabwysiadu coeden.

Ni fydd Cyngor Abertawe'n caniatau gwasgaru llwch.

Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn ar ol derbyn taliad yn unig.

Mae Cyngor Abertawe'n cadw 'cofrestr o roddion' sy'n cynnwys manylion enw, cyfeiriad, rhif ffon a lleoliad coeden y rhoddwr (nid oes unrhyw dal am gofnodion ar y gofrestr) ac fe awgrymir bod ymgeiswyr yn rhoi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid cyfeiriad yn ystod cyfnod y cynllun. Nid yw'r gofrestr yn cael ei harddangos ar wefan y cyngor.

Fel arfer, caiff coed eu plannu yn ystod mis Ionawr / Chwefror

Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod eich coeden yn sefydlu'n llwyddiannus yn ei lleoliad newydd, gan gynnwys dyfrio a thocio ffurfiannol fel y bo'n briodol. Fel arfer, mae'r gofal arbennig hwn yn angenrheidiol am yr ychydig fylynddoedd cyntaf ar ol plannu'r goeden ac mae'r rhoddion yn cael eu cyfririo i gynnwys hyn, yn ogystal a'r gost o blannu a gosod stanciau. Ar ol i'r goeden sefydlu, byddwn yn parhau i gynnal unrhyw waith cynnal a chadw heb unrhyw gostau ychwanegol.

Amodau a thelerau - busnesau / sefydliadau

Mae pob cost yn cynnwys TAW.