Mabwysiadu mainc - amodau a thelerau
Treuliwch funud yn darllen ein hamodau a thelerau.
Yn anffodus, rydym wedi gorfod gohirio ceisiadau newydd ar gyfer mabwysiadu meinciau presennol dros dro oherwydd ôl-groniad o archebion. Caiff y broses ymgeisio ei rhoi ar waith unwaith eto cyn gynted â phosib, ond ni allwn rhoi dyddiad penodol ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer rhoi meinciau newydd ar agor o hyd yn ystod y cyfnod hwn. Diolch am eich amynedd.
Cynllun seddau a roddir
Gallwn ddarparu seddi cadarn gyda'ch neges bersonol ynghlwm wrth blac.
Mae pris y sedd a ddarperir yn cynnwys:
- Cyflenwi a dosbarthu
- Sylfaen addas
- Gosod
- Plac
Placiau ac ysgythriad
Mae tri phrif fath o blac y gellir eu gosod; maent yn 55mm o uchder ac mae eu hyd yn addas i'w ffitio ar yr astell gefn uchaf.
- Dur gwrthstaen
- Pres
- Plastig
- Arysgrif yn yr astell uchaf (seddi Brompton a Grafton yn unig).
Sylwer: Bydd placiau efydd yn colli sglein gydag amser.
Mae placiau plastig yn ddewis amgen, pob tywydd, gyda llythrennau du ar gefndir lliw efydd.
Sylfaen a phadiau
Bydd lleoliad y sedd yn dibynnu ar y sylfaen y caiff y sedd ei rhoi arni - mae hyn yn berthnasol i seddi plastig Grafton a seddi wedi'u hailgylchu'n unig, a fydd yn cael eu gosod yn sownd naill ai ar sylfaen goncrit neu bad concrit o dan bob un o'r ddau gynhaliad unionsyth.
Cyngor Abertawe fydd yn talu am osod y sedd a'i chynnal a'i chadw yn y dyfodol.
Manylion y seddi a roddir sydd ar gael
Amodau a thelerau
- Er y bydd y cyngor yn ceisio darparu ar gyfer dewis yr ymgeisydd ar gyfer y math o sedd a'i lleoliad, mae'r cyngor yn cadw'r hawl i wrthod cais os nad yw'r sedd yn cyd-fynd â'r seddi cyfagos a/neu os yw'r lleoliad a ffefrir yn anaddas.
- Bydd y gost fesul sedd yn gallu newid os bydd cais i leoli sedd mewn lleoliad lle cyfyngir ar fynediad sy'n atal mynediad i gerbydau ac yn golygu bod costau ychwanegol i'r cyngor.
- Mae'r cynllun sedd a roddir ar gael ar gyfer rhoi seddi ar dir sy'n eiddo i adran Diwylliant a Thwristiaeth Dinas a Sir Abertawe yn unig, ac os gwneir cais am sedd ar dir dan berchnogaeth adran arall o'r cyngor, byddai'n rhaid i ni gael caniatâd yr adran berthnasol cyn derbyn cais y rhoddwr.
- Pan fydd rhoddwr yn dymuno cyfrannu sedd, fe'i cynigir ar y sail bod safle gwag ar gael yn yr ardal honno. Yn anffodus, ni allwn osod seddi ychwanegol a roddir mewn ardaloedd lle mae gormod o seddi ac os felly, cynigir dewis i'r rhoddwr o safle arall sydd ar gael neu ddewis arall.
- Ar ôl gosod y sedd daw'n eiddo i'r cyngor, a'r cyngor fydd yn atebol ac yn gyfrifol am yr holl ofynion cynnal a chadw dros gyfnod o ddeng mlynedd. Caiff hyn ei adolygu yn ôl ei ddisgresiwn. Ni ddylai'r rhoddwr, ei deulu na'i gynrychiolydd wneud unrhyw waith cynnal a chadw o unrhyw fath.
- Bydd y cyngor yn cynnal a chadw meinciau a roddir a phlaciau pan ystyrir bo hynny'n angenrheidiol.
- Cynghorir ymgeiswyr i roi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid cyfeiriad yn ystod cyfnod y cyflwyniad.
- Cynghorir yr ymgeisydd i gwrdd â'r Swyddog Parciau perthnasol ar y safle i gadarnhau lleoliad dewisol y sedd a roddir cyn cyflwyno'r cais.
- Caiff yr holl seddi i'w lleoli mewn parciau a mannau agored eu gosod yn ddiogel ar sylfaen addas sy'n gweddu i leoliad y sedd gan ddefnyddio dull cymeradwy. Fodd bynnag, ni all y cyngor gymryd cyfrifoldeb am ddifrod maleisus, seddi a ddygir, na difrod oherwydd gweithredoedd natur.
- Yn yr achos annhebygol y caiff y plac coffa ei ddifrodi neu ei ddwyn o fewn deuddeng mis ar ôl ei osod, bydd y cyngor yn gosod un newydd ac yn talu amdano. Ond, os caiff mainc ei difrodi ac nid oes modd ei hatgyweirio, bydd y cyngor yn cael gwared arno ac yn rhoi gwybod i chi am hyn. Codir y tâl safonol sy'n berthnasol ar yr adeg honno am fainc i'w gosod yn ei lle.
- Nid yw'r ffaith bod y cyngor yn derbyn y cais hwn yn golygu y rhoddir unrhyw hawliau neu freintiau eiddo.
- Mae'r rheolwr yn cadw'r hawl i amrywio neu wrthod arysgrif anaddas.
- Ni fydd Cyngor Abertawe'n caniatáu i weddillion amlosedig gael eu gwasgaru.
- Nid oes gan y cyngor unrhyw ymrwymiad i dderbyn unrhyw gais am sedd a roddir ac mae'n gobeithio y bydd ymgeiswyr yn deall bod nifer ac arddull y seddi'n ystyriaeth bwysig os yw'r cyngor am gadw mannau agored cyhoeddus yn edrych yn ddeniadol ac yn glir.
- Ni ddylai unrhyw addurniadau er enghraifft blodau gael eu clymu na'u gosod ar y sedd a roddir neu'r ardal o'i hamgylch ar unrhyw adeg.
- Gosodir seddi o fis Hydref tan fis Mawrth a phan fydd cyflwr y tir a'r tywydd yn addas.
- Caiff yr holl geisiadau a dderbynnir i brynu seddi eu hychwanegu at y gofrestr, a chant eu gosod yn nhrefn y dyddiad y derbyniwyd y cais.
- Y cleient sy'n gyfrifol am roi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid o ran manylion cyswllt.
- Y cyfnod mabwysiadu yw 10 mlynedd - ar ôl i'r cyfnod o 10 mlynedd fynd heibio, bydd y cyngor yn ceisio cysylltu â'r cleient yn ysgrifenedig i ddweud bod y cyfnod wedi mynd heibio a chynnig opsiynau. Os nad yw'r cyngor yn cael ymateb gan y cleient o fewn 28 niwrnod calendr, mae'n cadw'r hawl i symud y fainc neu ei hamnewid neu gynnig y safle i gleient arall ei fabwysiadu.
- Gall gymryd hyd at 26-30 wythnos i gyflenwi a gosod sedd ar ôl derbyn archeb yn ystod y cyfnod gosod.
- Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn pan fo angen.