Rhoddi neu fabwysiadu mainc- Manylion y meinciau sydd ar gael
Gallwn ddarparu meinciau gyda phlac arnynt sy'n cynnwys eich neges bersonol.
Yn anffodus, rydym wedi gorfod gohirio ceisiadau newydd ar gyfer mabwysiadu meinciau presennol dros dro oherwydd ôl-groniad o archebion. Caiff y broses ymgeisio ei rhoi ar waith unwaith eto cyn gynted â phosib, ond ni allwn rhoi dyddiad penodol ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer rhoi meinciau newydd ar agor o hyd yn ystod y cyfnod hwn. Diolch am eich amynedd.
Bwriadwn gadw meinciau tebyg wedi'u grwpio gyda'i gilydd am resymau esthetig. Bydd ein Tîm Meinciau'n trafod hyn â chi pan fyddwch yn dewis y math o fainc a'r ardal.
Mainc Grafton
Mainc ffurf gyfoes gyda ffrâm haearn bwrw ac estyll pren caled a chaen sy'n gwarchod y ffrâm rhag effeithiau'r môr. Mae'r ffrâm sylweddol a'r estyll pren trwm yn gwneud y fainc hon yn addas ar gyfer ardaloedd defnydd trwm. Mae'r ffurf hon yn fwyaf cyffredin mewn lleoliadau blaendraeth fel Promenâd Abertawe.
Mainc plastig wedi'i ailgylchu
Mainc drom a chadarn wedi'i gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, o blastigion a ddefnyddiwyd gan ddiwydiant a defnyddwyr. Mae'n gallu gwrthsefyll tywydd garw ac nid oes angen fawr ddim gwaith cynnal a chadw arni. Ar gael mewn lliw brown neu wyrdd.
Mainc Harlech
Mae hon yn fainc boblogaidd a chost-effeithiol, sy'n gadarn iawn ac yn gwrthsefyll fandaliaeth.
Mainc Brompton
Mainc bren drom â dyluniad traddodiadol i'w defnyddio yng Ngerddi Botaneg Parc Singleton a Gerddi Clun yn unig. Mae'r estyll cefn 16mm o drwch yn lleihau fandaliaeth heb ddifetha'r dyluniad cain hwn.