Maethu preifat
styr maethu preifat yw pan fo plentyn dan 16 oed yn cael gofal gan rywun nad yw'n rhiant neu'n berthynas agos.
Ydych chi'n gofalu am blentyn rhywun arall?
Oes rhywun arall yn gofalu am eich plentyn chi?
Os bydd rhywun yn gwneud trefniadau preifat i ofalu am blentyn nad yw'n perthyn iddo am fwy nag 28 niwrnod, mae'r gyfraith yn dweud bod bod yn rhaid dweud wrth yr awdurdod lleol os yw rhywun yn gofalu am blentyn neu ei rieni yn y ffordd hon. Yr enw ar hyn yw Maethu Preifat.
Pan geir trefniant maethu preifat, rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ymweld â'ch cartref i sicrhau bod y plentyn yn cael gofal da mewn amgylchedd diogel ac addas gan roi cyngor a chefnogaeth briodol i'r gofalwr.
Dyma rai enghreifftiau o faethu preifat:
- plentyn sy'n byw yn y wlad hon am resymau addysgol y mae ei rieni'n byw dramor
- plentyn sy'n byw gyda theulu ffrind o ganlyniad i anawsterau gartref
- person ifanc sy'n byw gyda theulu cariad
- plentyn sy'n aros gyda ffrindiau neu gymydog am resymau addysgol pan fydd ei rieni'n symud i weithio mewn ardal arall.
I roi gwybod am maethu preifat i Gyngor Abertawe ffoniwch: Un pwynt cyswllt (UPC).