Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am faethu preifat

Rôl y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn trefniadau maethu preifat.

Beth yw ystyr maethu preifat?

Ystyr maethu preifat yw pan fo plentyn dan 16 oed (dan 18 oed os yw'n anabl) yn cael gofal gan rywun nad yw'n rhiant neu'n 'berthynas agos'. Mae'n drefniant preifat sy'n cael ei wneud rhwng rhiant a'r sawl sy'n gofalu am y plentyn (o'r enw gofalwr maeth preifat) am 28 niwrnod neu fwy. Nid oes rhaid i chi gael eich talu i fod yn ofalwr maeth preifat.

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid dweud wrth yr awdurdod lleol os yw rhywun yn gofalu am blentyn neu ei rieni yn y ffordd hon.

Beth yw ystyr 'perthynas agos'?

Rhiant, mam-gu neu dad-cu, brawd, chwaer, ewythr, modryb neu lys-riant sy'n briod â rhiant y plentyn sy'n cael gofal.  Felly, er enghraifft, byddai cefnder sy'n gofalu am blentyn yn ofalwr maeth preifat.  Ni fyddai rhywun â chyfrifoldeb rhiant cyfreithiol dros y plentyn yn ofalwr maeth preifat.

Beth mae angen ei ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol am y trefniadau hyn?

Mae'n rhaid i rieni neu ofalwyr maeth preifat ddweud wrth y cyngor 6 wythnos cyn i'r trefniant ddechrau.  Os na allech - er enghraifft, pe bai'n argyfwng - dywedwch wrthym cyn gynted ag y bo modd.  Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ddweud wrthym o fewn 48 awr.

Enghreifftiau o drefniadau maethu preifat:

  • plentyn sy'n byw gyda rhieni ffrind am fod ei rieni ei hun wedi symud o'r ardal i weithio neu i ymweld â theulu estynedig mewn gwlad dramor.
  • plentyn sy'n byw gyda hen fodryb oherwydd bod ei rieni wedi ysgaru neu wahanu neu oherwydd materion eraill gartref.
  • plentyn o dramor sydd wedi dod i'r DU am resymau addysgol a bydd yn byw gyda'i gefnder.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, megis cymydog neu ffrind, neu os cewch wybod am drefniant maethu preifat trwy'ch gwaith, cysylltwch â ni a gofynnwch am gyngor: Un pwynt cyswllt (UPC).

Nid oes rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn gofalu am blentyn am gyfnod byr, er enghraifft i helpu ffrind i adfer ar ôl salwch neu i ofalu am ffrind eich plentyn eich hunan ar gyfer gwyliau.  Mae'n rhaid i chi ofalu am rywun am o leiaf 28 niwrnod er mwyn iddo gael ei ystyried fel maethu preifat.

Beth fydd yn digwydd ar ôl dweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol am y trefniadau?

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn:

  • ymweld â'r gofalwr a'r plentyn i siarad â nhw a gwirio bod popeth yn iawn;
  • trafod a oes cyngor neu gefnogaeth ychwanegol y gallwn ni neu sefydliadau eraill eu rhoi;
  • sicrhau bod gan bawb yr holl wybodaeth angenrheidiol, gwirio bod y gofalwr ac aelodau eraill ei aelwyd yn addas i ofalu am y plentyn - bydd hyn yn cynnwys gwiriad Cynllun Datgelu a Gwahardd (Yn agor ffenestr newydd);
  • gwirio bod y cartref lle bydd y plentyn yn byw'n ddiogel.

Ar ôl hyn, mae'n rhaid i ni benderfynu a yw'r trefniadau er lles gorau'r plentyn. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt fod yn berffaith, ond cawn ddod â'r lleoliad i ben os ydym yn ystyried nad yw er lles gorau'r plentyn.

Caiff rhieni neu ofalwyr maeth preifat apelio i lys ynadon os ydynt yn anghytuno.

Fel rhan o'r trefniadau, cawn ofyn i ofalwyr wneud pethau penodol, er enghraifft i sicrhau bod y plentyn yn cadw mewn cysylltiad â'i rieni neu i sicrhau y diwellir anghenion diwylliannol y plentyn. Hefyd, bydd angen i ni ymweld â'r gofalwr a'r plentyn yn rheolaidd i sicrhau bod popeth yn iawn.

Beth fydd yn digwydd os na ddywedaf wrthych?

Mae'r gofalwr yn colli'r cyfle i gael cyngor a chefnogaeth gan y cyngor a sefydliadau eraill a allai helpu.

Os ydych yn rhiant sy'n caniatáu i ofalwr maeth preifat ofalu am eich plentyn, neu os ydych yn ofalwr maeth preifat, ac nid ydych yn dweud wrthym, rydych yn torri'r gyfraith.  Gallech gael eich erlyn a'ch dirwyo.

Sut mae cysylltu â ni

Os ydych:

  • yn rhiant plentyn rydych yn bwriadu ei leoli gyda gofalwr maeth preifat, neu wedi lleoli plentyn gyda gofalwr maeth preifat;
  • yn maethu plentyn yn breifat ar hyn o bryd neu'n bwriadu gwneud hyn; neu'n
  • rhywun sy'n credu bod plentyn yn cael ei faethu'n breifat ac ni roddwyd gwybod i'r awdurdod lleol am y trefniant;

dylech gysylltu â'r canlynol: Un pwynt cyswllt (UPC).

 

Close Dewis iaith