Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachu ym mharth mewnol canol y ddinas

Mae gan barth mewnol canol y ddinas leiniau sefydledig a ddynodwyd gan Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas. Mae 11 o leiniau dynodedig ar hyn o bryd.

Nod y cynllun yw gwella proffil masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas o ran gwedd a rheolaeth y lleiniau yn ogystal â rhoi llwyfan i ddatblygu busnesau yng nghanol y ddinas.

Sut i wneud cais am lain yng nghanol y ddinas

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'n ffurflen cais masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas.Mae'n rhaid i chi dalu'r ffi ar gyfer y mis cyntaf gyda'r cais a lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol.

Caniatâd cynllunio

Trefnir y caniatâd cynllunio ar gyfer parth mewnol canol y ddinas gan Gyngor Abertawe.

Proses ymgynghori

Caiff yr holl geisiadau a dderbynnir eu hystyried yn berthnasol i'r telerau a nodir yn y pecyn cais a bod ffïoedd y mis cyntaf neu'r ffi lawn am y cyfnod y gwneir cais amdano wedi eu hamgáu yn y cais.

Er mwyn lleihau'r oedi i ymgeiswyr, bydd cyfnod ymgynghori o 28 niwrnod yn dechrau ar yr adeg hon ar ôl i'n Panel Dyrannu Masnachu ar y Stryd graffu arnynt cyn eu cynnig i fasnachwyr unigol. Bydd y broses yn talu sylw arbennig i ddyluniad a chynnal a chadw'r stondin a'r amrywiaeth a'r math o gynnyrch/wasanaethau a gynigir.

Ffïoedd

Ffioedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas Ffioedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi ar gyfer y mis cyntaf gydag unrhyw gais neu dalu'n llawn am gyfnod y cais.

Os ydych chi'n dewis talu'r ffi ar gyfer y mis cyntaf yn unig, rhaid llenwi a chyflwyno ffurflen debyd uniongyrchol gyda'ch ffurflen gais. Yna caiff y ffïoedd sy'n weddill eu hanfonebu i'w talu ar y cyntaf o'r mis, neu o gwmpas y cyntaf o'r mis, i'w talu drwy ddebyd uniongyrchol.

Caniatâd dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â Rheolaeth Canol y Ddinas drwy e-bostio CityCentreManagement@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 633090 yn ystod oriau swyddfa.

Lluniau o leiniau masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Mae naw llain yn y parth mewnol. Mae lluniau o bob llain yn ogystal â map sy'n dangos lleoliad pob llain ar gael ar y dudalen hon.

Arweiniad ar gwblhau cais ar gyfer masnachu ar y stryd yng nghanol dinas Abertawe

Lluniwyd yr wybodaeth hon i gynorthwyo masnachwyr stryd posib yng nghanol dinas Abertawe i gyflwyno cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Templed asesiad risg diogelwch tân

Asesiad risg tân yw archwiliad trefnus o'ch gweithrediad, y gweithgareddau a gynhelir a thebygolrwydd y gallai tân ddechrau a pheri niwed i eraill.
Close Dewis iaith