Mosg Abertawe
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Nadolig 2024 a'r Flwyddyn Newydd - Amserau agor banciau bwyd a chymorth bwyd
Banc bwyd
- Dydd Sul, 12.40pm - 1.40pm
Os bydd angen i gleient gael mynediad at ein banc bwyd, rhaid iddo gael ei atgyfeirio gan sefydliad. Ewch i'n gwefan i gael y manylion llawn, gan gynnwys rhestr o sefydliadau atgyfeirio: https://www.swanseamosque.org/foodbank
Rydym yn derbyn e-byst oddi wrth ein partneriaid atgyfeirio, sy'n nodi gwybodaeth am gleientiaid ac sy'n cadarnhau eu bod yn hapus i'r banc bwyd dderbyn eu manylion personol.
Gofynnwn i'n partneriaid atgyfeirio anfon e-bost atom erbyn dydd Gwener yn foodbank@swanseamosque.org gyda'r wybodaeth ganlynol:
- enw llawn y cwsmer
- cyfeiriad
- rhif ffôn cyswllt
- nifer y bobl yn yr aelwyd, ac unrhyw ofynion dietegol arbennig
Gall pob cleient ddod i'n banc bwyd unwaith bob pythefnos (bob yn ail wythnos).
Rydym yn darparu bwyd sych yn unig. Ewch i'n gwefan i weld y rhestr lawn o fwyd rydym yn ei ddarparu.
Rhoddion: Gall y rheini sydd am roi bwyd gysylltu â foodbank@swanseamosque.org a threfnu diwrnod i adael y bwyd neu roi rhodd ar ddydd Sadwrn rhwng 1.00pm a 2.00pm ym Mosg Abertawe.
Cynhyrchion mislif am ddim
- Dydd Sul, 12.40pm - 1.40pm