Mynydd Bach y Cocs (wedi'i gysylltu â Chomin Fairwood)
Comin 65 hectar yw hwn wedi'i gysylltu gan lwybr troed â Choed Gelli Hir - safle sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n ei reoli.
Ceir cymysgedd o rostir, prysgwydd a glaswelltir ar y comin. Mae sawl llwybr troed a ffordd fach yn croesi'r safle.
Dynodiadau
- Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN, Mynydd Bach y Cocs)
Cyfleusterau
Mae'r cyfleusterau agosaf yn y Crwys, tua 1.5 milltir i ffwrdd:
- Tafarn y Joiners Arms
- Tafarn y Poundffald
- Siop y Country Stores
Gwybodaeth am fynediad
Ger y Crwys a Wernbwll, Gŵyr
Cyfeirnod Grid SS558937
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Llwybrau troed
Mae sawl llwybr cerdded yn croesi'r safle.
Ceir
O'r Crwys ewch ar y ffordd fach i'r gorllewin i gyfeiriad Cilonnen.
Bysus
Mae'r safle bws agosaf yn y Crwys, tua 1.5 milltir o'r safle.
Digwyddiadau yn Mynydd Bach y Cocs (wedi'i gysylltu â Chomin Fairwood) on Dydd Mercher 15 Ionawr
Dim rhagor ar gael
Dyddiad blaenorolDim enghreifftiau o hyn
Dyddiad nesafDim enghreifftiau o hyn