Mynydd Garn Goch
Mae'r safle'n cynnwys cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig, megis glaswelltir molinia, glaswelltir corsiog, prysgwydd, glaswelltir niwtral, glaswelltir asidig, rhos cen/brÿoffyt a phyllau.
Uchafbwyntiau
Mae llawer o rywogaethau bywyd gwyllt pwysig wedi'u gweld ar y safle gan gynnwys:
- Adar: yr ehedydd, y fronfraith, y llinos, bras y gors, coch y berllan, y dylluan wen, socan yr eira, y coch dan aden a'r gïach.
- Planhigion: banadl, eithin, eithin y mynydd, tegeirian brych y rhos a thegeirian y gors deheuol.
Dynodiadau
- Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)
Cyfleusterau
- Ym Mhenllergaer mae'r cyfleusterau agosaf
Gwybodaeth am fynediad
Dwy ochr yr A484 ac ochr ogleddol yr A4240, Penllergaer
Cyfeirnod Grid SS610980
Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Llwybrau cerdded
Tir mynediad agored yw'r comin ac mae un llwybr cerdded yn croesi'r safle.
Ceir
Nid oes cyfleusterau parcio ar y safle. Ym Mhenllergaer mae'r lleoedd parcio agosaf.
Bysus
Mae'r safle bws agosaf ar ben dwyreiniol Ystâd Ddiwydiannol Penllergaer.