Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd syml o ddathlu Nadolig gwyrddach

Dros gyfnod y Nadolig rydym yn eich annog i feddwl am wneud newidiadau bach a all gael effaith fawr. Isod ceir ychydig o ffeithiau a ffigurau am y Nadolig, a gwybodaeth am sut y gallwch ddewis gwneud gwahaniaeth y Nadolig hwn.

Gweithgareddau Nadoligaidd

Y Dewisiadau Amgen Gwyrddach

Bob Nadolig, mae swm y gwastraff a gynhyrchwyd yn y DU yn cynyddu 30%, yn ôl astudiaeth gan Biffa. Mae hynny'n cynnwys oddeutu 365,000 cilomedr o bapur lapio na ellir ei ailgylchu - digon i'w lapio o amgylch y cyhydedd 9 gwaith, ac 1 biliwn o gardiau sy'n mynd yn y bin.

·         Prynwch bapur lapio a chardiau heb haenen fetelig neu befr. Os yw'r papur lapio'n cadw siâp pêl ar ôl ei wasgu, gallwch ei ailgylchu. Os nad yw'n cadw siâp pêl, bydd yn mynd i safle tirlenwi.

·         Defnyddiwch bapur brown neu bapur newydd yn lle, a defnyddiwch ruban hardd ailddefnyddadwy i ychwanegu ychydig o liw yn lle llawer o dâp selo na ellir ei ailgylchu.

·         Tynnwch y tâp selo oddi ar y papur os ydych yn ei ddefnyddio, cyn ailgylchu'r papur.

·         Beth am ddefnyddio darn o ddefnydd neu sgarff i lapio anrhegion yn lle? Gall y rhain fod yn rhan o'r anrheg hefyd.

Prynu anrheg sy'n para

·         Yn y DU, amcangyfrifir bod 1 ym mhob 5 anrheg yn ddiangen, ac yn mynd i safle tirlenwi.

·         Prynwch anrheg ail law, neu rhowch 'brofiad' yn anrheg, fel tocynnau rhodd i'r sinema neu fwyty lleol neu am daith o'r cartref.

·         Ystyriwch anrheg sy'n parhau i roi, fel planhigyn neu aelodaeth ar gyfer elusen bywyd gwyllt neu dreftadaeth.

·         Os ydych yn prynu ar gyfer rhywun y mae ganddo bopeth eisoes, prynwch anrheg sy'n rhoi ymdeimlad o foddhad, fel anrheg o siop elusen sy'n golygu y bydd rhywun mewn gwlad annatblygedig yn elwa ohoni.

Coed Nadolig - Mae dewis rhwng coeden go iawn neu goeden ffug yn gallu eich rhoi mewn penbleth.

Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn dweud bod gan goeden Nadolig go iawn ôl troed carbon llawer llai na choeden ffug, yn enwedig os ydych yn cael gwared arni yn y modd cywir. Ailgylchwch eich un chi yn un o'r 5 o Safleoedd Amwynderau Dinesig ar draws Abertawe. Am ragor o wybodaeth am hyn ac eitemau eraill i'w hailgylchu dros y Nadolig, ewch i  www.abertawe.gov.uk/gwyliauailgylchu

·         Yn ôl Yr Ymddiriedolaeth Garbon, mae gan goeden Nadolig go iawn sy'n cael ei gwaredu mewn safle tirlenwi ôl troed carbon o oddeutu 16kg o CO2.

·         Mae gan goeden sy'n cael ei gwaredu drwy ei hailblannu neu ei thorri'n sglodion pren ôl troed carbon o oddeutu 3.5kg o CO2.

·         Mae gan goeden blastig gyfwerth ôl troed carbon o oddeutu 40kg o CO2 oherwydd y broses gynhyrchu. Mae angen defnyddio coeden ffug am o leiaf degawd er mwyn i'r effaith amgylcheddol fod cyfwerth ag effaith coed naturiol a waredir yn gyfrifol.

·         Os oes gennych goeden ffug, defnyddiwch hi am gyhyd â phosib, ei rhoi i siop elusen os yw mewn cyflwr da o hyd pan fyddwch am gael un newydd, a chyn ei thaflu i ffwrdd, os oes ganddi ffrâm fetel, tynnwch y 'dail' ac ewch â'r ffrâm i ganolfan ailgylchu i'w ailgylchu gyda chynnyrch metel.

Gall cinio Nadolig gael effaith amgylcheddol fawr iawn, nid yn unig oherwydd y bwyd rydych yn ei fwyta ond hefyd oherwydd y swm sy'n cael ei wastraffu.

·         Peidiwch â chael eich temtio i brynu llawer o fwyd

·         Peidiwch â chael eich temtio i brynu bwyd nad ydych yn ei hoffi oherwydd ei fod yn 'draddodiadol'

·         Siopwch yn ôl yr hyn y mae pobl yn ei hoffi, a phrynwch ddigon am un neu ddau bryd o fwyd yn unig

·         Mae gan ddewisiadau llysieuol olion traed carbon isel, felly ceisiwch newid un o'ch prydau Nadolig i bryd llysieuol: Vegetarian Christmas recipes | BBC Good Food.

·         Ystyriwch roi unrhyw fwyd dros ben sydd mewn pecyn o hyd ac o fewn y dyddiad defnyddio i fanc bwyd neu gegin gawl gan y bydd llawer o bobl yn mynd heb fwyd y Nadolig hwn ac yn gwerthfawrogi rhodd. Banciau Bwyd a Chefnogaeth - Abertawe

Clecars Nadolig cynaliadwy neu a wnaed â llaw

·         Yn ôl BusinessWaste.co.uk, mae 99% o bobl Prydain yn taflu'r anrhegion plastig y tu mewn i glecars Nadolig yn y bin. Prynwch glecars Nadolig nad ydynt yn cynnwys plastig neu rhowch gynnig ar greu eich rhai eich hun.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Rhagfyr 2024