Toglo gwelededd dewislen symudol

Newid yn yr hinsawdd a natur

Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac yn arwain at heriau byd-eang difrifol megis tymereddau'n codi ar draws y byd, patrymau tywydd newidiol, lefelau'r môr yn codi a mwy o dywydd eithafol.

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo eisoes yn Abertawe. Dros y blynyddoedd diweddar, mae Abertawe wedi profi llifogydd, stormydd eithafol a thanau gwyllt. Mae hyn yn golygu bod newid yn yr hinsawdd yn broblem leol yn ogystal â phroblem fyd-eang, sy'n cael effeithiau lleol sylweddol yn enwedig i aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned.

Rhagwelir hafau sychach a chynhesach a gaeafau mwynach a gwlypach gyda digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Mae'n bosib y bydd yr Abertawe y bydd ein hwyrion yn cael ei magu ynddi'n wahanol iawn i'n un ni, ond y newyddion da yw y gallwn weithio gyda'n gilydd i geisio gwneud y dyfodol hwnnw'n un cadarnhaol.

Ein hargyfwng hinsawdd

Yn 2019, datganodd Cyngor Abertawe argyfwng hinsawdd, a dilynwyd hyn gan gynllun gweithredu i leihau ein hallyriadau sefydliadol, adolygiad polisi i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fel rhan o bopeth y mae'r cyngor yn ei wneud, a chynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid a dinasyddion a gweithio gyda nhw i ymdrechu i fod yn Abertawe ddi-garbon net erbyn 2050.

Argyfwng natur

Mae'r cyngor hwn yn nodi gyda braw ei fod yn fater brys i gymryd camau cryf, perthnasol ac uniongyrchol i atal a lleihau graddfa ac effeithiau colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, a achosir gan fodau dynol, ar ddynolryw a bywyd gwyllt. 

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol lleol a byd-eang rhyngberthynol, gydag 17% o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddarfod. Ond gallwn newid hyn drwy adfer byd natur, a fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Hysbysiad o Gynnig - Argyfwng Natur (PDF) [341KB]

Siarter Hinsawdd Cyngor Abertawe

Bydd Arweinydd Cyngor Abertawe'n llofnodi Siarter Newid yn yr Hinsawdd. Bydd hwn yn nodi ein hymrwymiad i greu cyngor di-garbon net erbyn 2030. Gofynnwn i'n partneriaid ymuno â ni wrth lofnodi hwn ac i bobl ddangos eu cefnogaeth i Abertawe di-garbon net. Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe.

Targedau newid hinsawdd

Mae gennym darged sefydliadol i sicrhau Cyngor Abertawe Di-garbon net erbyn 2030. Mae hyn yn golygu lleihau a gorbwyso allyriadau carbon o weithgareddau ac adeiladau'r cyngor.

Ond nid yw'r hyn y gall y cyngor ei wneud ar ei ben ei hun yn ddigon. I wneud gwahaniaeth go iawn, mae angen i bawb ar draws Abertawe gyfan leihau eu hôl-troed carbon. Mae angen i bawb gymryd rhan a gwneud newidiadau. Ein huchelgais yw sicrhau Abertawe Di-garbon net erbyn 2050.

Gweithredu ar yr hinsawdd

Mae Cyngor Abertawe yn gweithredu ond mae gan ein holl ddinasyddion a'n sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol rannau pwysig i'w chwarae.  

Ymunwch â ni ar ein taith hinsawdd i sicrhau Abertawe Ddi-garbon Net ar gyfer 2050.

Cofrestrwch yma os hoffech dderbyn diweddariadau neu gymryd rhan (fel unigolyn, sefydliad neu fusnes).

Sero Net 2030

Sut rydym yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar draws y cyngor.

Sero Net 2050

Daw'r targed ar gyfer Sero Net 2050 o Gytundeb Paris yn 2015.