Noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2025
Ni fyddai'n bosibl dathlu cyflawniadau a chyfraniadau chwaraewyr a gwirfoddolwyr Abertawe heb gefnogaeth ein noddwyr:
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe, a drefnwyd gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe bellach mewn partneriaeth â Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd), sef partner nid er elw'r cyngor a ddewiswyd er mwyn cynnal chwe chanolfan chwaraeon cymunedol a chanolfannau hamdden a'r LC.
Chwaraewr y Flwyddyn
Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn
Chwaraewr Iau'r Flwyddyn
Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd
Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)
Stowe Family Law yw cwmni cyfraith teulu arbenigol mwyaf y DU, gyda thros 90 o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr. Mae ei dîm o dros 200 o gyfreithwyr teulu arbenigol yn cefnogi cleientiaid gydag ysgariad, setliadau ariannol, trefniadau plant, materion cyd-fyw, cytundebau priodasol a chyfryngu.
Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan EYST Wales (Yn agor ffenestr newydd)
Elusen arobryn a arweinir gan fuddiolwyr yw Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST). Fe'i sefydlwyd yn 2005, ac EYST yw'r prif sefydliad lleiafrifoedd ethnig â thîm o oddeutu 70 aelod o staff ar draws Cymru gyfan.
Mae gwasanaethau a gweithgareddau EYST yn canolbwyntio ar 5 piler gwaith allweddol: Cefnogi 1 - plant a phobl ifanc ethnig leiafrifol , 2 - teuluoedd ethnig leiafrifol, 3 - ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr, 4 - grwpiau cymunedol ethnig leiafrifol, 5 - herio hiliaeth yn y gymdeithas ehangach.
Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Route Media (Yn agor ffenestr newydd)
Mae Route Media yn brif ddarparwr atebion cyfryngau awyr agored yn y DU ac mae'n arbenigo mewn hysbysebu mewn mannau cyhoeddus. Mae ei bortffolio amrywiol yn cwmpasu cynnwys diddorol a deinamig a ddangosir ar sgriniau LED, faniau digidol, sgriniau mewn digwyddiadau a byrddau poster. Mae Route Media yn targedu ardaloedd lle mae lefelau uchel o draffig fel ar ochr y ffordd, mewn lleoliadau manwerthu, ger rheilffyrdd a lleoliadau hamdden er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd yn effeithiol. Gyda ffocws ar gynyddu proffiliau brandiau ac ennyn diddordeb y gynulleidfa, mae Route Media yn darparu atebion hysbysebu effeithiol sy'n cael argraff barhaol.
Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)
Mae'n bleser gan Goleg Gŵyr Abertawe noddi gwobr Tîm Ysgolion y Flwyddyn unwaith eto. Mae gan y coleg hanes cadarn o greu sêr chwaraeon eithriadol, gan gynnwys Leigh Halfpenny, Jazz Carlin, Justin Tipuric, Nicky Smith a Danny Williams, ac mae llawer o'i fyfyrwyr o'r gorffennol a'r presennol wedi cynrychioli eu sir yn y gamp o'u dewis wrth astudio yn y coleg.
Mae'r coleg yn cynnig un o raglenni academi chwaraeon mwyaf helaeth y wlad, gyda thros 300 o fyfyrwyr yn cynrychioli'r sefydliad yn rheolaidd. Mae'r rhaglen hon yn darparu cyfleoedd chwaraeon amrywiol, gan gynnwys chwaraeon tîm a disgyblaethau unigol, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu mewn amgylchedd cefnogol wrth ddilyn eu nodau academaidd a galwedigaethol.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn cefnogi athletwyr elitaidd drwy fwrsariaeth a rhaglen fentora sy'n cynnwys cymorth ariannol a chyfannol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Academïau Chwaraeon.
Gwobr Annog Abertawe Actif
Cyfraniad Oes i Chwaraeon
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
