Oedolion ag anabledd dysgu
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.
Er mwyn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaid i bobl gael asesiad gyntaf gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol.
Ymysg ein gwasanaethau mae:
- wasanaethau anghenion arbennig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu dwys a/neu anabledd corfforol, synhwyraidd neu gyfathrebu dwys
- canolfan dydd ar gyfer pobl hŷn ag anabledd dysgu
- cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol sy'n cysylltu â chyfleusterau cymunedol lleol
- gwasanaeth sy'n hyrwyddo ac yn datblygu hyfforddiant sgiliau a chyfleodd sy'n gysylltiedig â gwaith
- gwasanaeth cymunedol hyblyg sy'n hybu mwy o annibyniaeth ac sy'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth er mwyn rheoli bywyd o ddydd i ddydd.
- gwasanaeth cefnogi ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu y mae ganddynt anghenion mwy cymhleth neu ymddygiad heriol
- gwasanaeth preswyl sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro i'r rhai na allant aros yn eu cartrefi eu hunain.
- gwasanaeth seibiant sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro yn ogystal â seibiant i ofalwyr.
Gwneud cais am asesiad gan y Tîm Cefnogi Cymunedol Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol
Gwasanaethau preswyl i oedolion gydag anabledd dysgu
Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau preswyl i oedolion ag anableddau dysgu.
Cofrestru'n anabl
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.
Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach
Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2021