Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Parc Bôn-y-maen

Mae Parc Bôn-y-maen, yn ardal drefol gogledd ddwyrain Abertawe, yn ganolbwynt i'r gymuned leol. Mae ganddo nifer o gyfleusterau a fydd yn apelio at bob grŵp oed.

Cyfleusterau

  • Ardal chwarae i blant
  • Lawnt fowlio
  • Meysydd pêl-droed

Cyfarwyddiadau 

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 44 (Llansamlet) i Heol Peniel Green. Trowch i'r chwith wrth y goleuadau i Heol Nant-y-ffin. Wrth yr ail gylchfan, trowch i'r chwith ac yna cymerwch y troad cyntaf ar y dde i Heol Jersey. Cymerwch yr ail droad ar y chwith i Heol Bon-y-maen. Dilynwch yr heol i Heol Mansel a bydd mynedfa'r parc ar y dde.

Côd Post - SA1 7AU

Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu