Gwasanaethau Parcio a Theithio Gŵyl y Banc
Newidiadau i wasanaethau parcio a theithio dros ŵyl y banc.
Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i safleoedd a gwasanaethau Fabian Way a Glandŵr.
- Dydd Gwener 18 Ebrill (Gwener y Groglith) - gwasanaethau dydd Gwener arferol
- Dydd Sadwrn 19 Ebrill - gwasanaethau dydd Sadwrn arferol
- Dydd Sul 20 Ebrill - ar gau / dim gwasanaethau
- Dydd Llun 21 Ebrill (Llun y Pasg) - ar gau / dim gwasanaethau
- Dydd Llun 5 Mai (gŵyl banc dechrau Mai) - ar gau / dim gwasanaethau
- Dydd Llun 26 Mai (gŵyl banc y gwanwyn) - ar gau / dim gwasanaethau
Parcio a Theithio Ffordd Fabian
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.
Parcio a Theithio Glandŵr
Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas
Gwasanaeth bysus am ddim
Mae'r cynnig bysus am ddim poblogaidd iawn yn y ddinas yn dychwelyd am 9 niwrnod dros wyliau'r Pasg ac mae'n cynnwys y tri phenwythnos. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.
Addaswyd diwethaf ar 07 Ebrill 2025