Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio cartrefi modur, faniau gwersylla a charafanau

Gallwch barcio eich cartref modur, fan gwersylla neu garafán yn ein meysydd parcio os oes gennych docyn dilys ar gyfer pob lle parcio rydych yn eu defnyddio.

Lleoedd parcio

Os yw eich cerbyd neu gerbydau'n defnyddio mwy nag un lle parcio, hyd yn oed rhan fach o'r lle parcio cyfagos, mae'n rhaid prynu tocyn ychwanegol. Os na fyddwch yn gwneud hynny byddwch yn derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (HDC).

Nid yw'r lle parcio drws nesaf i'ch cerbyd yn lle ar gyfer celfi, cynhwysyddion dŵr, barbeciws neu unrhyw eitemau eraill.

Rhwystrau uchder

Sylwer, mae gan rai meysydd parcio rwystrau uchder:

Meysydd parcio gyda chyfyngiadau uchder Meysydd parcio gyda chyfyngiadau uchder

Meysydd parcio heb gyfyngiadau uchder Meysydd parcio heb gyfyngiadau uchder

Os caiff eich cerbyd ei ddifrodi gan y rhwystr uchder, nid ydym yn atebol. Fodd bynnag, os bydd eich cerbyd yn difrodi'r rhwystr uchder, rydym yn cadw'r hawl i hawlio cost y gwaith atgyweirio gan y gyrrwr.

Aros dros nos a chyfleusterau eraill

Er bod nifer o'n meysydd parcio ar agor 24 awr y dydd, nid ydym yn caniatáu gwersylla dros nos

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar gael yn ein meysydd parcio (megis dŵr ffres, dŵr gwastraff, cawodydd, toiledau neu gyflenwadau pŵer). Ni ddylech arllwys casetiau toiledau i lawr y draeniau yn ein meysydd parcio oherwydd gall hwn arwain at ddifrod amgylcheddol sylweddol. Os bydd unrhyw achos o faeddu amhriodol yn y maes parcio, byddwn yn ceisio adennill y costau glanhau a chostau unrhyw ddifrod.

Mae camerâu cylch cyfyng ar waith.

Mae nifer o safleoedd gwersylla yn yr ardal sy'n gallu darparu cyfleusterau gwersylla dros nos a chyfleusterau eraill. Ewch i wefan swyddogol y cyrchfan www.croesobaeabertawe.com (Yn agor ffenestr newydd) i gael rhestr o'r safleoedd gwersylla a syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud pan fyddwch ar wyliau ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mumbles and Gower.

Close Dewis iaith