Ffïoedd a chynigion parcio
Manylion ffïoedd a gostyngiadau yn ein meysydd parcio.
Mae'r ffioedd am barcio i'w cael ar y tudalennau meysydd parcio unigol. Maent hefyd yn cael eu dangos ar y byrddau prisiau wrth ymyl y peiriannau talu ym mhob maes parcio. Gellir talu'r ffioedd mewn amrywiaeth o ffyrdd ac oni nodir yn wahanol, maent yn berthnasol 7 niwrnod yr wythnos
Mae pob un o'n meysydd parcio maestrefol am ddim.
Cynnig parcio 1-2-3-4-5 canol y ddinas
Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i holl feysydd parcio canol y ddinas, heblaw am faes parcio De Bae Copr. Byddwch yn talu dim ond £1 am hyd at 1 awr, £2 am 2 awr, £3 am 3 awr, £4 am 4 awr a £5 am hyd at 24 awr.
Meysydd parcio cynnig 1-2-3-4-5 canol y ddinas Meysydd parcio cynnig 1-2-3-4-5 canol y ddinas
Tocynnau trosglwyddadwy'r blaendraeth
Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i nifer o feysydd parcio'r blaendraeth ar hyd arfordir Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Gallwch barcio yn unrhyw un o'r meysydd parcio hyn ar yr un diwrnod gan ddefnyddio'r un tocyn (ar yr amod bod digon o amser ar y tocyn i chi barcio yno).
Ffïoedd i breswylwyr
Mae ffïoedd i breswylwyr yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr Abertawe yn unig. Dewiswch yr opsiwn gostyngiad i breswylwyr wrth i chi dalu wrth y peiriant, neu gallwch gyflwyno cais am hawlen pris arbennig i breswylwyr drwy eich cyfrif MiPermit, a fydd yn rhoi'r gostyngiad i breswylwyr i chi'n awtomatig os yw ar gael.
Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i breswylwyr Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i breswylwyr
Deiliaid Bathodyn Glas
Mae nifer o'n meysydd parcio wedi gostwng ffïoedd ar gyfer deiliad Bathodyn Glas neu maent yn caniatáu i ddefnyddwyr barcio am gyfnod hwy.
Rhagor o wybodaeth: Gwybodaeth am barcio i bobl anabl
Ffïoedd yn ystod y gaeaf
Mae ein ffïoedd yn ystod y gaeaf yn berthnasol i feysydd parcio'r Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr ymweld â'r arfordir a'i archwilio yn ystod adegau tawelach o'r flwyddyn, am bris rhatach.
Meysydd parcio sy'n cynnig ffi yn ystod y gaeaf Meysydd parcio sy'n cynnig ffi yn ystod y gaeaf
Cynnig parcio a theithio
Gallwch barcio yn un o'n safleoedd am y diwrnod am £1 y car yn unig. Mae hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr i barcio a dal y bws i'r dref.
Parcio a Theithio Ffordd Fabian Parcio a Theithio Ffordd Fabian
