Parcio coetsis
Mannau parcio a gollwng ar gyfer bysiau a choetsis.
Canol Dinas Abertawe
Mannau gollwng / casglu
Sylwer bod yr amser aros yn gyfyngedig i 10 munud:
- Amgueddfa Abertawe - Burrows Place SA1 1SN
- Wellington Street SA1 3QR
- https://w3w.co/couches.overnight.hood
- nid oes ffordd allan trwy Albert Row i Oystermouth Road - i adael Wellington Street, bydd angen i gerbydau wneud tro pedol ar ddiwedd Wellington Street ac yna gadael i fynd ar Ffordd y Gorllewin neu Dillwyn Street
- Gwesty'r Dragon, Ffordd y Brenin SA1 5LS
Parcio
- Parcio a Theithio Ffordd Fabian - mae parcio i goetsis ar gael yn y maes parcio gorlif
Gellir cael mynediad naill ai drwy ffonio 01792 480526 neu drwy wasgu'r botwm galw wrth y gatiau. Naill ai caiff y gatiau eu hagor neu darperir côd pin i chi er mwyn agor y gatiau.
Codir tâl o £10 ar gyfer pob cyfnod aros a gallwch ei dalu yn un o'r Peiriannau Talu ac Arddangos.
Ni chaniateir cysgu dros nos yn yr ardal parcio Coetsis/Lorïau oni bai fod y cerbyd wedi'i ddylunio'n arbennig i ganiatáu cysgu. Sylwer, nid oes unrhyw gyfleusterau e.e. dŵr ffres, dŵr gwastraff, cawodydd, toiledau neu gyflenwadau pŵer ar y safle. Os bydd unrhyw achos o faeddu amhriodol yn y maes parcio, bydd y cyngor yn ceisio adennill y costau glanhau.
Defnyddir teledu cylch cyfyng ar draws y cyfleuster cyfan hwn.
Mwmbwls
Mannau gollwng / casglu
Nid oes man gollwng dynodedig swyddogol yn y Mwmbwls oherwydd cynllun y pentref hyfryd hwn.. Os ydych chi'n gollwng neu'n casglu yma, gwnewch hynny'n gyflym ac yn ddiogel (sylwer, gwneir hyn ar eich menter eich hun).
Parcio
Gŵyr
Parcio
Mae nifer o feysydd parcio preifat ym mhenrhyn Gŵyr hefyd yn cynnig parcio i goetsis. Am ragor o wybodaeth am hyn ewch i: www.visitswanseabay.com/conferences-groups/
Rhagor o wybodaeth
I gael syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, ewch i wefan swyddogol y cyrchfan: www.croesobaeabertawe.com