Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio sioe awyr Cymru

Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.

Gweler y map isod er mwyn eich helpu i gynllunio'ch taith a sgroliwch lawr i archebu lle parcio. Er mwyn gweld fersiwn fwy o'r map, cliciwch ar y llun yn y gornel dde uchaf.

Noddir maes parcio'r Rec, maes parcio Paxton Street a maes parcio Parcio a Theithio Stiwdios y Bae gan Abertawe'n Gweithio.


Sylwer:  Mae eich tocyn parcio yn caniatáu i 1 cerbyd (car/fan fach/beic modur) barcio rhwng 8am ac 8pm ar  5 neu 6 Gorffennaf 2025 at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modurMae amodau a thelerau llawn ar gael yma, ac anfonir e-bost â gwybodaeth gyfeiriol atoch bythefnos cyn y digwyddiad a fydd yn eich arwain i ddilyn yr arwyddion cyfeiriol â system côd lliw. Ni chaniateir ailfynediad.

Mae holl feysydd parcio'r digwyddiad yn hygyrch, ac mae lleoedd hygyrch dynodedig ar gael ym mhob un o feysydd parcio dynodedig y digwyddiad ond gwiriwch hyn gan fod arwyneb pob maes parcio'n amrywio (e.e. mae rhai ohonynt ar wair, etc.).

Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.

Haen 1

Y Rec (Glas)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA2 0AT
  • Arwyneb y maes parcio: Graean a gwair
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

Canolfan Ddinesig Abertawe - Dwyrain (Du)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA1 3SN
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

Rotwnda Neuadd y Ddinas (Coch)

  • Cost fesul cerbyd: £20*
  • Côd Post: SA1 4PE
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

Haen 2

Paxton Street (Gwyn)

  • Cost fesul cerbyd: £15*
  • Côd Post: SA1 3SA
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

Haen 3

Caeau Chwarae Brenin Siôr V (Porffor)

  • Cost fesul cerbyd: £10*
  • Côd Post: SA2 9AU
  • Arwyneb y maes parcio: Gwair
  • Ar agor o 8am
  • Cadw lle parcio yma

*Yn ogystal â ffi archebu o 5% fesul pryniad

Talu ar y diwrnod meysydd parcio

Gallwch dalu i barcio ar ddiwrnod y digwyddiad yn nifer o'n meysydd parcio;

Ysbyty Singleton (Melyn)

  • Cost fesul cerbyd: £10
  • Côd Post: SA2 8QG
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am

Prifysgol Abertawe (Gwyrdd)

  • Cost fesul cerbyd: £20
  • Côd Post: SA2 8PP
  • Arwyneb y maes parcio: Tarmac
  • Ar agor o 8am

Bydd meysydd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas nad ydynt yn ymwneud â'r digwyddiad. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael ar-lein yma.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mehefin 2025