Parc Melin Mynach
Mae coetir aeddfed wedi datblygu gyda threigl amser. Mae'r parc fel pe bai wedi'i rewi mewn amser gan ei fod wedi osgoi'r llechfeddiant ac adferiad y diwydiant trwm a ddigwyddodd o'i amgylch.
Mae Melin Mynach gyferbyn ag Ysgol a Chanolfan Hamdden Penyrheol. Mae'r tir garw hwn yn fwy addas i bobl sydd am fynd am dro egnïol. Mae'r dirwedd agored yn berffaith ar gyfer gadael y ci oddi ar ei dennyn a mynd am dro ar hyd y llwybrau troellog.
Rhoddwyd y tir i fynachod Sistersaidd Mynachlog Nedd yn y 12fed ganrif ac adeiladasant y felin gyntaf a gofnodwyd ar y safle. Mae adfeilion yr adeiladau sydd i'w gweld yn y goedwig heddiw yn weddillion adeiladau diwydiannol llawer diweddarach. Maent yn dangos cymaint mae technoleg ddiwydiannol wedi newid yn yr ardal, o ddefnyddio dŵr i greu pwer i gloddio am lo a datblygiad pwer stêm, a ddigwyddodd i'r gogledd o ardal y parc ym mhwll glo Mountain Air (mae'r tir wedi'i adfer erbyn hyn).
Uchafbwyntiau
Wrth y fynedfa'r i'r safle ar Heol Cecil, gwelwch olwyn dwr haearn bwrw mawr o'r 18fed ganrif a adferwyd o'r safle.
Cyfleusterau
- Ceir sawl siop, tafarn a bwyty yng Ngorseinon
Mynediad
Mae'r brif fynedfa i'r safle ger cornel Heol Cecil.
Ar ôl gadael yr M4 wrth gyffordd 47, dilynwch yr A48 tuag at Benllergaer. Dilynwch yr heol nes cyrraedd Gorseinon. Wrth y groesffordd, trowch i'r dde i Heol Pontarddulais. Cymerwch yr ail droad ar y dde i Heol y Mynydd a'r troad cyntaf ar y dde.
Côd Post - SA4 4FQ