Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Parc Ravenhill

Mae gan y parc hwn nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys cwrt pêl fasged ac amffitheatr goncrit.

Yn ogystal â lawnt fowlio ac ardal chwarae i blant, mae'r parc hwn yn wych ar gyfer mynd am dro o gwmpas ei fannau agored eang.

Cyfleusterau

  • Ardal Gêmau Amlddefnydd
  • Ardal chwarae i blant
  • Lawnt fowlio

Hygyrchedd

Gât 1: Heol Caerfyrddin. Mae gât igam-ogam a llethr 45. Mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 2: Heol Ganol Isaf. Mae gât igam-ogam ac mae'n hygyrch i bawb.
Gât 3: Heol Ganol Uchaf. Mae gât igam-ogam ac mae'n hygyrch i bawb.
Gât 4: Heol Ravenhill, yn hygyrch i bawb.

Cyfarwyddiadau 

Wrth fynd tua'r gorllewin ar hyd Heol Caerfyrddin, trowch i'r dde ger goleuadau traffig Fforestfach i Heol Ravenhill. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Heol Ganol. Mae mynedfa'r parc ar y chwith.

Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu