Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas i San Helen - Cartref Clwb Criced Abertawe

Yn 2016, mae Maes San Helen yn gartref i Glwb Criced Abertawe ac yn un o leoliadau Clwb Criced Morgannwg

St Helen's Cricket Ground blue plaque

Lleoliad y plac: Lôn Gorse.

Yn ystod ei hanes 142 o flynyddoedd, mae'r maes wedi gweld rhai o'r gemau criced rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf cyffrous ac enwog. Mae Abertawe hefyd yn gallu ymfalchïo yn y ffaith mai dyma'r clwb criced hysbys hynaf yng Nghymru, yn dyddio o 1785.

Fe'i sefydlwyd ym 1873 fel cartref Clwb Criced Abertawe, ac ers hynny mae San Helen wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd sy'n dwlu ar y gamp ac wedi chwarae rôl hanfodol yn hanes cymdeithasol a hamdden yr ardal.  Yn wir, yn ddiweddar disgrifiodd y cyn-gricedwr sydd bellach yn sylwebu, Peter Walker, faes San Helen fel "cartref ysbrydol criced Cymru".

Dros y blynyddoedd, mae San Helen wedi profi rhai o fuddugoliaethau enwocaf Clwb Criced Morgannwg. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Curo Awstralia ym 1964 ac ym 1968.

  • Ym 1968, Syr Garfield Sobers, a oedd yn chwarae i Swydd Nottingham, oedd y chwaraewr cyntaf yn hanes criced i daro chwe chwech mewn pelawd.

  • Ym 1976, sgoriodd Clive Lloyd y ddau gant cyflymaf ar gofnod pan oedd yn batio dros India'r Gorllewin yn erbyn Morgannwg.

  • Ym 1985, sgoriodd Matthew Maynard gant pan oedd yn chwarae dros Forgannwg am y tro cyntaf, batiad a oedd yn cynnwys taro tri chwech yn olynol.

  • Mae etifeddiaeth San Helen fel maes criced pwysig yn parhau heddiw gan mai dyma'r lleoliad ar gyfer gemau Clwb Criced Abertawe yn Uwch-gynghrair Griced De Cymru. Bydd Morgannwg hefyd yn chwarae yma'n flynyddol yn ystod Gŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru.

  • Mae San Helen hefyd yn gartref i adran iau Clwb Criced Abertawe, criw o gricedwyr ifanc ymroddedig ac addawol.


Sut i gyrraedd yno:

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024