Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl Ifanc Actif

Hoffai Tîm Chwaraeon ac Iechyd Abertawe weld 'pob plentyn a pherson ifanc wedi gwirioni ar chwaraeon am oes'.

Active Young People (IS)

Yn ôl yr arolwg chwaraeon ysgol diweddaraf a gynhaliwyd yng Nghymru gan Chwaraeon Cymru (2022), roedd 40.6% o ddisgyblion yn Abertawe yn cymryd rhan mewn gweithgaredd a drefnwyd (h.y. chwaraeon allgyrsiol neu fel rhan o glwb) ar dri achlysur neu fwy bob wythnos. Mae'r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru'n cyfeirio at hyn fel 'gwirioni ar chwaraeon'.

Hoffai Tîm Chwaraeon ac Iechyd Abertawe weld pob plentyn a pherson ifanc yn 'gwirioni ar chwaraeon' am oes, a chynhelir llawer o brosiectau, mentrau a digwyddiadau ledled y ddinas i annog ac ysbrydoli ein pobl ifanc o'r blynyddoedd cynnar i oedran ysgol a'r tu hwnt!

Mae ein Swyddogion a'n Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol yn gwneud y canlynol:

  • Gwrando ar anghenion pobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol yr hoffent gymryd rhan ynddynt.
  • Darparu amrywiaeth o gyfleoedd cwbl gynhwysol i bob person ifanc mewn amgylchedd diogel, difyr ac anghystadleuol.
  • Ceisio creu cenhedlaeth o blant a phobl ifanc sy'n 'gwirioni ar chwaraeon am oes'.

Mae ein Swyddogion a'n Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol yn gweithio ar draws pedair ardal glwstwr ledled Abertawe.

Cysylltu â ni... 

Hoffem i chi gymryd rhan...

Rydym yn gobeithio eich gweld yn fuan ar gyfer un o'n gweithgareddau. Cofiwch ein dilyn ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i glywed ein newyddion a chael rhagor o wybodaeth amdanom cyn gynted ag y bydd y rhain ar gael. 

Llysgenhadon Ifanc

Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig ac Tîm Pobl Ifanc Actif

Mae'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn gweithio.

Llythrennedd corfforol

Mae llythrennedd corfforol yn gysyniad sy'n helpu pob unigolyn i ddatblygu mewn modd cyfannol fel y gall barhau i fod yn gorfforol actif drwy gydol ei oes.

Llysgenhadon Ifanc

Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig ac Tîm Pobl Ifanc Actif

Mae'r Tîm Pobl Ifanc Actif wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn gweithio.

Llythrennedd corfforol

Mae llythrennedd corfforol yn gysyniad sy'n helpu gyda datblygiad cyfannol pob unigolyn fel y gall barhau i fod yn gorfforol actif drwy gydol ei oes.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2024