Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi Goleuo Neuadd y Ddinas

Polisi Cyngor Abertawe ynghylch goleuo Neuadd y Ddinas i gefnogi pynciau, achosion ac ymgyrchoedd o bwys cymdeithasol.

I ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat neu iaith arall ffoniwch 01792 636000 neu e-bostiwch accesstoservices@abertawe.gov.uk

 

1.  Diben
2.  Cwmpas
3.  Amcanion y polisi
4.  Cyd-destun
5.  Gweithdrefn cyflwyno ceisiadau
6.  Cyflwyno cais
7.  Cymhwysedd
8.  Amgylchiadau eithriadol
9.  Adolygu a monitro

 

1.  Diben

1.1.  Datblygwyd y polisi hwn mewn ymateb i gynnydd cyffredinol yn nifer y ceisiadau i oleuo ffasâd allanol Neuadd y Ddinas Abertawe (Neuadd y Ddinas) i hyrwyddo ymwybyddiaeth o elusen, tynnu sylw at bwnc o bwys cymdeithasol neu nodi digwyddiad/carreg filltir arwyddocaol.

1.2  Nod y polisi hwn yw sicrhau bod ymagwedd effeithiol yn cael eu mabwysiadu at reoli ceisiadau o'r fath a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried mewn modd cyson a thryloyw.

2.  Cwmpas

2.1 Mae'r polisi hwn yn ymwneud yn benodol â goleuo ffasâd allanol Neuadd y Ddinas â goleuadau LED. At ddiben y polisi hwn, Neuadd y Ddinas yw'r prif gyfrwng ar gyfer y math hwn o gyfathrebu. Mae Neuadd Brangwyn ac asedau digidol eraill dan reolaeth Cyngor Abertawe wedi'u heithrio o'r polisi hwn, ond gellir eu goleuo dan gytundebau masnachol y tu allan i gylch gwaith y polisi hwn.

2.2  Bydd penderfyniadau'n dibynnu ar sawl maen prawf, gan gynnwys capasiti, a barn broffesiynol swyddogion.

2.3  Caiff is-grŵp ei sefydlu gan Fwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr adrannau perthnasol a grwpiau gwleidyddol. Bydd yr is-grŵp yn gyfrifol am unrhyw ganllawiau gweithredol sy'n cael eu datblygu i roi'r polisi trosfwaol hwn ar waith.

3.  Amcanion y polisi

3.1  Amlinellu polisi tryloyw i reoli a chymeradwyo ceisiadau i oleuo ffasâd allanol Neuadd y Ddinas.

3.2  Amlinellu'n glir y meini prawf penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn ystyried ceisiadau o'r fath.

3.3  Rhoi mesurau ar waith a fydd yn galluogi rhaglen oleuo i gael ei rheoli'n effeithiol.

3.4  Rhoi amserlen eglur ar waith i alluogi pobl i geisio cymeradwyaeth berthnasol yn unol â'r polisi hwn.

3.5  Sicrhau bod rhaglen oleuo'n adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws Dinas a Sir Abertawe a'i bod yn cynnwys pawb, yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y cyngor.

4.  Cyd-destun

4.1  Er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau mewn modd cyson a theg, mae Cyngor Abertawe'n mabwysiadu'r gweithdrefnau a'r meini prawf yn y polisi hwn.

4.2  Bydd y cyngor yn goleuo Neuadd y Ddinas mewn lliw penodol, lle y bo'n ymarferol bosib, mewn ymateb i geisiadau gan sefydliadau, elusennau neu grwpiau eraill lle ystyrir bod y ceisiadau'n gymwys.

5.  Gweithdrefn cyflwyno ceisiadau

5.1  Dylid cyflwyno ceisiadau i oleuo Neuadd y Ddinas drwy'r ffurflen ar-lein, neu ffurflen bapur sydd ar gael mewn llyfrgelloedd a weithredir gan y cyngor.

5.2  Mae cyfnod rhybudd o bedair (4) wythnos yn ofynnol ar gyfer pob cais er mwyn hwyluso paratoadau technegol ac ystyriaeth briodol drwy'r gweithdrefnau a amlinellir yma.

5.3  Caiff ceisiadau a gyflwynir y tu allan i'r terfyn amser hwn eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

5.4  Rhoddir ystyriaeth briodol i geisiadau sy'n dod i law o fewn y terfyn amser a nodwyd yn unol â'r polisi hwn.

5.5  Mewn rhai achosion, bydd yr un achosion o oleuo'n parhau o flwyddyn i flwyddyn, ond dylid rhagdybio y bydd angen i geisiadau allanol gael eu hadnewyddu bob blwyddyn, yn hytrach na bod yn ddigwyddiadau a gynhelir ar raglen dreigl.

5.6  Bydd goleuadau sydd wedi'u cymeradwyo yn cael eu hyrwyddo ar y diwrnod y cytunwyd arno drwy gyfryngau cymdeithasol a/neu sianeli eraill os bydd swyddogion y cyngor yn ystyried bod hynny'n briodol, yn unol â'r polisi hwn.

5.7  Dylai aelodau etholedig sy'n derbyn ceisiadau ddweud y dylid cyflwyno ceisiadau'n uniongyrchol drwy'r ffurflen gais o fewn y terfyn amser a nodwyd, sef pedair (4) wythnos cyn y dyddiad goleuo.

6.  Cyflwyno cais

6.1  Bydd y lleoliad yn cael ei oleuo ar y diwrnod y cytunwyd arno o fachlud yr haul, neu amser addas, gan ystyried oriau golau dydd a'r adnoddau sydd ar gael, yn unol â phenderfyniad swyddogion y cyngor.

6.2  Dylid pennu un lliw, yn hytrach na mwy nag un lliw, ar gyfer digwyddiadau goleuo er mwyn sicrhau'r effaith orau.

6.3  Caiff ceisiadau eu hystyried ar gyfer goleuadau sy'n para am un noson yn unig, oni bai y nodir yn wahanol gan Gyngor Abertawe.

7.  Cymhwysedd

Rhaid i geisiadau fodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol er mwyn eu hystyried:

7.1  Dim ond ceisiadau gan elusennau cofrestredig, grwpiau sydd wedi'u cofrestru/cyfansoddi'n ffurfiol, neu gyrff cyhoeddus neu unigolion sy'n cynrychioli'r grwpiau/cyrff hyn sy'n ymwneud ag ymgyrchoedd/digwyddiadau cynyddu ymwybyddiaeth penodol, a ganiateir.

7.2  Ymdrinnir â cheisiadau yn nhrefn blaenoriaeth yn unol â'r dyddiad y daeth y cais i law'r cyngor.

7.3  Caiff ceisiadau i oleuo Neuadd y Ddinas at y dibenion canlynol eu hystyried yn gymwys:

7.3.1  Cynyddu ymwybyddiaeth o elusennau a enwebwyd gan yr Arglwydd Faer.
7.3.2  Nodi digwyddiadau a gaiff eu trefnu'n uniongyrchol neu eu cefnogi'n ariannol gan Gyngor Abertawe.
7.3.3  Sefydliadau elusennol a chymunedol neu sefydliadau eraill nid er elw yn ardal Dinas a Sir Abertawe, neu sydd â chysylltiad sylweddol â'r ardal, ac sy'n dathlu carreg filltir neu achlysur pwysig.
7.3.4  Timau neu sefydliadau chwaraeon cydnabyddedig sydd â chysylltiad penodol ag Abertawe, neu Gymru, sydd wedi cyflawni camp sylweddol (e.e. cymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol neu ryngwladol neu ennill cystadleuaeth o'r fath).

7.4  Bydd yr is-grŵp yn penderfynu ar oleuadau am ddiwrnodau cenedlaethol / rhyngwladol.

7.5  Ni ddylid defnyddio goleuadau i hyrwyddo plaid wleidyddol nac ymgyrch wleidyddol.

8.  Amgylchiadau eithriadol

8.1  Os nad yw cais yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gellir ei ystyried mewn amgylchiadau eithriadol.

8.2  Caiff ceisiadau o'r fath eu hystyried gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr, gan gynnwys yr is-grŵp lle y bo'n bosib.

9.  Adolygu a monitro

9.1  Caiff y polisi hwn ei adolygu o bryd i'w gilydd gan y Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, a'r is-grŵp.

9.2  Gellir ystyried ei bod yn briodol yn y dyfodol ychwanegu adeiladau dinesig eraill at gwmpas y polisi hwn, gan ystyried galluoedd technegol ac adnoddau.

9.3  Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r gyfraith, polisïau'r cyngor, gwerthoedd y cyngor a'i egwyddorion trosfwaol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Chwefror 2025