Polisïau Sero Net 2030
Polisïau a strategaethau sy'n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Llywodraethu
Mae newid yn yr hinsawdd yn broblem gymhleth y mae angen i holl wasanaethau'r cyngor gymryd camau i geisio'i datrys. Mae Cyngor Abertawe yn cydlynu camau gweithredu'r cyngor drwy Fwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd sy'n dod â chynrychiolwyr ynghyd o ystod eang o wasanaethau o Addysg i Briffyrdd. Mae'r Bwrdd hwn yn adrodd i Grŵp Llywio a gadeirir gan y Dirprwy Arweinydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd. Mae hyn yn sicrhau bod gweithredu o ran newid yn yr hinsawdd yn rhan o bob penderfyniad a wneir, ac ar bob lefel. Nodir cynlluniau yn Amcanion a Chamau Lles ein Cynllun Corfforaethol ac adroddir am gynnydd bob blwyddyn yn ein Hadolygiad Blynyddol o Berfformiad.
Meysydd polisi arweiniol
Cydlynir gweithredu ar yr hinsawdd drwy'r meysydd polisi allweddol isod:
1. Strategaeth Ynni
Mae rheoli ynni a charbon yn effeithiol yn hanfodol er mwyn lleihau allyriadau a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Arweinir camau gweithredu Cyngor Abertawe drwy Gynllun Strategol Rheoli Ynni a Charbon. Mae hyn yn nodi ac yn dadansoddi ynni ac allyriadau carbon o feysydd gwasanaeth gweithredol y cyngor ac mae'n dwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaethau a pholisïau sy'n ymwneud ag ynni, rheoli carbon a newid yn yr hinsawdd. Mae'n helpu holl wasanaethau'r cyngor i addasu i ffyrdd carbon isel o weithio a defnyddio technolegau adnewyddadwy.
2. Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd
Mae isadeiledd gwyrdd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio mannau gwyrdd, pridd, llystyfiant a dŵr (yn amrywio o barciau i erddi to) sy'n darparu'r gwasanaethau ecosystem sy'n gwneud ein dinasoedd yn lleoedd y mae modd byw ynddynt. Mae'r strategaeth hon yn ystyried sut y gellir cynyddu isadeiledd gwyrdd yn Abertawe er mwyn ei addasu'n well i newid yn yr hinsawdd a'i wella er lles pobl a bywyd gwyllt.
3. Cynllun Bioamrywiaeth Lleol
Mae bioamrywiaeth yn ymwneud â'r amrywiaeth o fywyd planhigion ac anifeiliaid a'r cynefinoedd maen nhw'n byw ynddynt. Nod y polisi hwn yw gwarchod, rheoli, gwella a hyrwyddo amgylchedd a rhywogaethau naturiol rhagorol Abertawe. Arweinir yr ymagwedd gan y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.
4. Cynllun Datblygu Lleol
Mae cynllun 2010-2025 yn darparu fframwaith cynllunio clir ar gyfer penderfyniadau cynllunio yn Abertawe. Mae'n galluogi cyflwyno datblygiadau cynaliadwy yn y broses gwneud penderfyniadau fel bod y datblygiad cywir yn cael ei ddatblygu yn y lle cywir. Cefnogir y fframwaith gan Ganllawiau Cynllunio Atodol.
5. Strategaeth Caffael
Mae gweithgarwch caffael Cyngor Abertawe'n seiliedig ar fanteisio i'r eithaf ar y buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y gellir eu cael o brynu ynni. Mae ein gweithgarwch caffael yn ceisio sicrhau bod uchelgeisiau lleihau carbon sy'n sail i'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael eu hintegreiddio o fewn arferion caffael fel y bo'n briodol.
6. Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy
Gwnaed llawer o waith cadarnhaol yn y maes hwn y mae'r cyngor yn ceisio dod â'r cyfan ynghyd i lunio strategaeth trafnidiaeth a theithio gynaliadwy. Byddai hyn yn cynnwys sut mae'r cyngor yn ymdrin â cherbydlu'r cyngor, y cerbydlu llwyd (milltiredd personol gweithwyr), allyriadau goleuadau strydoedd, hyrwyddo teithio llesol yn barhaus a datblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy leol a rhanbarthol.
7. Strategaeth Gwastraff
Roedd strategaeth bresennol y cyngor yn cyd-fynd â thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru sef lefelau ailgylchu o 64% erbyn 19/20 a llwyddodd Abertawe i gyflawni hyn. Bydd y targed hwn yn cynyddu i 70% yn 24/25 ac mae'r cyngor yn adolygu'i opsiynau i gyflawni'r lefelau cynyddol hyn. Yn y cyfamser, fel rhan o'r cynllun newid yn yr hinsawdd cyffredinol, bydd yn datblygu Strategaeth Gwastraff newydd y bydd yn ceisio sicrhau ei bod yn cyd-fynd â chynlluniau cyffredinol Llywodraeth Cymru dros y 12 -18 mis nesaf.
8. Strategaeth Tai (Datgarboneiddio)
Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu 'Safon Abertawe' er mwyn arwain y gwaith o adeiladu tai cyngor newydd yn unol ag effeithlonrwydd ynni ac arfer gorau wrth leihau carbon. Rydym yn datblygu ymagweddau arloesol at ddiweddaru cartrefi presennol y cyngor, gan gynnwys y cynllun Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Y cam nesaf yn y datblygiad yw datblygu Strategaeth Datgarboneiddio ochr yn ochr â'r gwaith gwych a wneir eisoes.
Mae'r elfennau trosgynnol hyn yn galluogi ein hymagwedd a arweinir gan bolisi at gyflawni Abertawe Sero-Net erbyn 2030:
i. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gosod dyletswydd ar y cyngor i gyflawni datblygu cynaliadwy gan wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'n nodi pum ffordd o weithio'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r saith nod llesiant cenedlaethol.
ii. Polisi Datblygu Cynaliadwy
Mae hwn yn nodi sut y gall y cyngor sicrhau ei fod yn diwallu anghenion presennol wrth sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol ddiwallu eu hanghenion hefyd. Mae'n arwain gwasanaethau a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau wrth gymhwyso'r pum ffordd o weithio a manteisio i'r eithaf ar eu cyfraniad at les Abertawe.
iii. Cynllun gwella corfforaethol
Mae hwn yn manylu sut bydd y cyngor yn mynd ati i wella lles. Mae'n nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu mewn chwe amcan lles a'r camau i'w cyflawni yn unol â'r egwyddor datblygu gynaliadwy.