Sut i ddelio â phroblemau trydanol yn eich cartref
Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer delio â phroblemau trydanol yn eich cartref.
Pan fyddwch yn symud i eiddo, sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae switsh y prif gyflenwad a sut i ddiffodd y trydan mewn argyfwng. Fel arfer mae switsh y prif gyflenwad mewn cwpwrdd ynghyd â'r mesurydd a'r blwch ffiwsiau neu'r torrwr cylched.
Problem | Yr hyn y gallwch chi ei wneud | Pwy sy'n gallu helpu |
---|---|---|
Os oes tân | Caewch ddrws yr ystafell lle mae'r tân. Bydd hyn yn helpu i reoli'r tân, ac yn atal mwg gwenwynig rhag lledaenu. Rhybuddiwch y bobl eraill yn eich tŷ a gadewch yn gyflym. Peidiwch ag oedi i gasglu unrhyw beth - cofiwch, gall eich llwybr dianc gael ei rwystro'n gyflym iawn. Os oes rhywbeth yn rhwystro'ch llwybr dianc, caewch ddrws eich ystafell a'i selio gyda blanced neu garped i atal y tân neu'r mwg rhag lledaenu. Galwch am gymorth drwy'r ffenestr. Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i'ch cartref am unrhyw reswm. | Ffoniwch 999 a gofyn am y frigâd dân |
Os ydych wedi troi golau/teclyn ymlaen ac nid yw'n gweithio | Gwiriwch y switshys torri cyflenwad yn yr uned defnyddiwr. Os yw un o'r switshys wedi'i ddiffodd, tynnwch blwg y teclyn neu diffoddwch y golau ac ailosod y switsh torri cyflenwad. Ar ôl cynnau'r golau, rhowch blygiau'r teclynnau yn ôl i mewn, un ar y tro i weld a oes un ohonynt yn ddiffygiol ac yn torri'r cyflenwad. | Os yw'r switsh yn torri'r Os ydych yn pryderu |
Beth i'w wneud os ydych yn arogli nwy | Agorwch ddrysau a ffenestri i gael gwared ar y nwy. Sicrhewch nad yw'r nwy'n llifo a heb ei danio, neu a yw'r golau peilot wedi cael ei ddiffodd. Diffoddwch y cyflenwad nwy ar y mesurydd. Peidiwch â thanio unrhyw fatsis neu danwyr. Peidiwch â defnyddio clychau drws neu switshys trydanol eraill. | Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999 |
Atal Mygdarthau Carbon Monocsid | Gofalwch fod ystafelloedd yn cael eu hawyru'n dda. Sicrhewch nad yw awyrellau'n cael eu rhwystro na'u cau. Glanhewch y simneiau o leiaf unwaith y flwyddyn. Prynwch eitemau sydd wedi'u cymeradwyo'n swyddogol, gyda'r 'Stamp Safon Prydeinig'. Defnyddiwch osodwyr nwy sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy bob tro. Os ydych am osod eich eitemau nwy eich hun, mae'n rhaid i chi gael caniatâd gan eich swyddfa dai ardal. | Dylech wirio a gwasanaethu eitemau nwy yn rheolaidd. Mae'n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, gynnal gwiriad diogelwch nwy rheolaidd ar yr holl eitemau nwy unwaith y flwyddyn - mae hwn am ddim. Mae'n rhaid i ni gael mynediad i'ch cartref i gynnal y gwiriad hwn. Byddwn yn gwasanaethu ac yn atgyweirio'r holl eitemau rydym wedi'u gosod. Cofiwch mai er eich diogelwch chi yw hyn. |
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 09 Chwefror 2023