Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflogaeth

Cyflogaeth yn ôl diwydiant; Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth; Diweithdra.

Cyflogaeth yn ôl diwydiant

Mae amcangyfrifon cyflogaeth yn y gweithle ar gael drwy'r Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth(BRES), sef arolwg busnes blynyddol a gynhelir gan SYG sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.  Mae data BRES ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y blynyddoedd 2009 i 2022.

Mae gan economi Abertawe gyfran fawr yn ôl o swyddi, yn ôl cyfran, yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a manwerthu.  O'r 110,000 o bobl a chanddynt swydd yn Abertawe (2022), amcangyfrifir bod 89.1% (98,000) yn cael eu cyflogi yn y sectorau gwasanaeth (SICs G-U yn y tabl isod), gyda 29.5% (32,400) yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus.  Yng Nghymru, mae'r gyfran a gyflogir gan y sectorau gwasanaeth yn is, sef 80.1%, gyda 23.9% yn y sector cyhoeddus.  Mae'r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn cyflogi tua 10,000 i gyd; gyda chyfran cyflogaeth y ddau sector yn Abertawe yn is na chyfartaleddau Cymru a Phrydain.

Tabl 3: Cyflogaeth yn seiliedig ar weithle (Word doc) [24KB]

 

Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth

Mae dadansoddi cyflogaeth yn ôl galwedigaeth gan ddefnyddio'r amcangyfrifon diweddaraf sy'n seiliedig ar breswylwyr o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn tueddu i atgyfnerthu rôl Abertawe fel canolfan gwasanaeth rhanbarthol, gyda chyfrannau uwch (na Chymru a'r DU) wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r sector gwasanaeth, gan gynnwys galwedigaethau proffesiynol, gofalu/hamdden/gwasanaethau eraill a galwedigaethau gwerthu/gwasanaethau cwsmeriaid.  Mae'r data cyfatebol ar gyfer y gweithle yn Abertawe yn dangos amrywiad gyda ffigurau sy'n seiliedig ar breswylfeydd mewn rhai categorïau ond patrwm cyffredinol tebyg ar y cyfan.

Tabl 4: Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth (Word doc) [26KB]

 

Diweithdra

Mae ffigurau diweithdra (y cyfrif gweinyddol a'r cyfrif sy'n seiliedig ar arolwg) yn ddangosyddion o berfformiad y farchnad lafur leol a ddefnyddir yn helaeth.  Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ym mis Mawrth 2024 - holl hawlwyr y Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), a hawlwyr Credyd Cynhwysol (UC) y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith - a'r amcangyfrifon o ddiweithdra sy'n seiliedig ar fodel (ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023), ynghyd â'r newid diweddar, i'w gweld yn y tabl 5.

Tabl 5: Diweithdra (Word doc) [25KB]

Yn Abertawe, mae ffigurau nifer yr hawlwyr fesul ward (Mawrth 2024) yn dangos bod nifer o ardaloedd lleol yn profi cyfraddau sylweddol uwch na chyfartaledd Abertawe (3.6%); yn arbennig Townhill (7.6%), Y Castell (6.7%), Penderi (5.9%), a Glandŵr (5.7%).  Y gyfradd isaf yw Mayals (0.5%).

 

Mae'r we-dudalen hon hefyd yn cynnwys tablau a graffiau sy'n dangos dueddiadau diweithdra hawlwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a'r 24 mlynedd diwethaf yn Abertawe, yng Nghymru ac yn y DU, yn ogystal â thueddiadau lleol a chenedlaethol fel rhan o fesur ehangach wedi'i seilio ar arolwg o ddiweithdra (gan gynnwys amcangyfrifon wedi'u seilio ar fodel i Abertawe).

Close Dewis iaith